Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AC, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mai 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Mae’r coronafeirws wedi effeithio ar bob agwedd ar ein bywydau. Mae'r feirws wedi effeithio arnom i gyd, ynghyd â'r cyfyngiadau digynsail y bu angen inni eu rhoi ar waith i arafu ei ledaeniad ac i ddiogelu pob un ohonom.

Gwyddom fod rhai pobl mewn mwy o berygl o gael salwch difrifol os deuant i gysylltiad â’r  coronafeirws ac, wrth inni ddysgu mwy am y feirws, gwyddom fod hyn yn effeithio'n anghymesur ar rai rhannau o gymdeithas a rhai cymunedau.

Rydym yn rhoi mwy o gymorth i gartrefi gofal, er enghraifft, gan gynnwys cyflenwadau rheolaidd o gyfarpar diogelu personol a chyngor am hylendid a glanhau, gan ein bod yn gwybod bod pobl hŷn, yn enwedig y rhai sydd â phroblemau iechyd eisoes, mewn mwy o berygl. Rydym wedi diweddaru ein polisi profi ar gyfer preswylwyr cartrefi gofal a staff, yn seiliedig ar y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf.

Mae ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, a gyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf  yn awgrymu bod tua chwarter y bobl sydd wedi marw o’r coronafeirws yng Nghymru yn byw mewn cartref gofal. Mae hon yn sefyllfa hynod o drist a gallaf ddeall pa mor anodd y mae hyn wedi bod i deuluoedd a phobl sy'n gweithio yn y sector gofal.

Ac rydym hefyd wedi darparu cyngor wedi'i dargedu i bobl dros 70 oed a ystyrir yn bobl sydd mewn perygl – cynghorir y bobl hyn i ddilyn yn fanwl y rheolau ar gadw pellter  cymdeithasol a’r cyngor ar olchi dwylo a hylendid dwylo i’w diogelu eu hunain pan fyddant yn gadael eu cartrefi. Nid ydym wedi rhoi gwaharddiad llwyr ar bobl hŷn rhag mynd allan.

Nid yw pobl hŷn yn cael eu cynnwys yn awtomatig yn y grŵp 'gwarchod' – mae hyn yn seiliedig ar gyflyrau penodol, sy'n gwneud pobl yn eithriadol o agored i salwch difrifol os ydynt yn dod i gysylltiad â’r coronafeirws. Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi ysgrifennu at fwy na 120,000 o bobl yng Nghymru, yn eu cynghori i fabwysiadu mesurau gwarchod llym tan 15 Mehefin.

Rwyf wedi cyfarfod â Fforwm Cynghori'r Gweinidog ar Heneiddio i glywed eu pryderon am y pandemig ac a allai mesurau i gadw pobl hŷn yn ddiogel arwain at gynnydd mewn stereoteipiau sy'n cysylltu heneiddio â bregustra a dirywiad. Nid dyna yw ein bwriad.

Mae deddfwriaeth ar hawliau dynol a chydraddoldeb yn darparu fframwaith i sicrhau bod pawb yn cael eu trin gyda thegwch, cydraddoldeb, urddas, parch ac ymreolaeth. Rydym yn cydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol i ddiogelu a chynnal hawliau pawb yng Nghymru.

Mae ymchwil annibynnol wedi'i chomisiynu i ymchwilio i sut y gall Llywodraeth Cymru gryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol ymhellach ac rydym yn cydweithio'n agos gyda'r tîm sy'n arwain ar yr ymchwil i sicrhau y gall barhau wrth inni ymateb i'r pandemig hwn.

Drwy werthfawrogi'r cyfraniadau y mae pobl hŷn yn eu gwneud at gymdeithas, byddwn yn gwrthod rhagfarn ar sail oedran. Rwyf yn nad yw oedran yn lleihau hawl unigolyn i gael ei drin ag urddas a pharch.

Wrth inni symud y tu hwnt i'r pandemig, bydd Llywodraeth Cymru’n parhau â'i gwaith ar y Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy'n Heneiddio. Bydd yn defnyddio dull gweithredu sy'n seiliedig ar hawliau i hyrwyddo cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol ar draws ystod o feysydd polisi ac yn rhoi llais pobl hŷn wrth wraidd y broses o lunio polisïau.

Bydd hyn yn fwy perthnasol wrth inni weithio i ystyried sut a phryd y gellir lliniaru'r cyfyngiadau yn ddiogel. Byddaf yn parhau i gymryd cyngor gan Fforwm Cynghori'r Gweinidog ar Heneiddio er mwyn sicrhau bod gan bobl hŷn lais yn y broses o lunio'r penderfyniadau sy'n effeithio arnynt.

Dros yr wythnosau diwethaf, mae'r coronafeirws wedi atal llawer o bobl hŷn rhag parhau â'u rolau gwirfoddoli, gwaith neu ofalu arferol. Am y tro cyntaf, mae llawer ohonom yn derbyn cymorth gan ein cymunedau lleol. Rwyf yn gobeithio y bydd y perthnasoedd newydd hyn yn parhau am flynyddoedd i ddod ac yn helpu i feithrin parch ac undod rhwng y cenedlaethau.

Mae'n hanfodol inni gydweithio i greu cymdeithas fwy cyfartal sy'n cynnal hawliau dynol ac sy’n galluogi pobl o bob oedran i gyflawni eu potensial waeth beth fo'u cefndir neu eu hamgylchiadau.

Rhannu’r dudalen hon