Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae angen asesu a phrofi nifer o bobl ledled Cymru o hyd. Rwyf yn falch o ddweud bod y prawf hwn bellach yn cael ei brosesu yn ein labordy canolog ein hunain yn Ne Cymru.

Yn ystod y cyfnod canfod ein nod yw rheoli cymaint o bobl â phosibl y tu allan i'r ysbyty. Rhaid canmol y GIG am lwyddo i brofi 90% o bobl yn eu cartref eu hunain, gan ei gwneud mor gyfleus â phosibl i bobl a chan ddiogelu ein hadnoddau ambiwlans ac ysbyty i'r rhai y mae arnynt eu hangen fwyaf. 

Rwyf yn ddiolchgar i'r cyhoedd am ddilyn ein neges glir na ddylent fynd i bractis eu meddyg teulu nac ymweld ag Adran Argyfwng ysbyty. Dylent alw Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47 neu 111 Cymru, os yw ar gael yn eu hardal.

Mae profi yn y gymuned yn effeithiol iawn ac yn gweithio'n dda tra rydym wrthi'n canfod haint. Rydym yn cydweithio'n agos â'r GIG a Gofal Cymdeithasol i sicrhau bod ein gwasanaethau'n barod i ymateb yn gyflym os bydd y sefyllfa'n newid ac os bydd coronafeirws yn lledaenu yn y gymuned.

Hyd yma, ni chafwyd unrhyw achos o’r coronafeirws newydd yn cael ei gludo i Gymru. Mae ffigurau'r DU ar y nifer o bobl sydd wedi cael profion yn y DU yn cael eu cyhoeddi yn ddyddiol ar wefan Public Health England. 

Gall y cyhoedd helpu i leihau’r siawns o ledaenu unrhyw feirws anadlol. Y cyngor yw ei ddal, ei roi yn y bin, ei ladd a golchi’ch dwylo.

Byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf yn ysgrifenedig i Aelodau’r Cynulliad bob dydd Mawrth, ac yn amlach os oes angen.