Vaughan Gething AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, gwelwyd cynnydd sylweddol o ran cyflymder ymateb ein gwasanaethau iechyd a gofal hanfodol ledled Cymru, a natur frys yr ymateb hwnnw, i'r heriau sy'n eu hwynebu o ganlyniad i bandemig COVID-19. Yn anffodus, rydym yn parhau i weld y cynnydd disgwyliedig mewn marwolaethau a nifer y bobl sy'n ddifrifol wael. Hoffwn estyn fy nghydymdeimlad dwys i bawb yr effeithiwyd arnynt yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn. Rydym yn meddwl amdanynt.
Yr wythnos ddiwethaf, nodais amrywiaeth o ddatblygiadau sylweddol er mwyn sicrhau ein bod yn fwy parod ar gyfer COVID-19. Rydym yn parhau i ychwanegu at gynlluniau presennol Llywodraeth Cymru ar gyfer ymdrin â'r pandemig. Defnyddiwyd y cynlluniau hyn fel sail ar gyfer gwaith ein GIG a'n gwasanaethau gofal cymdeithasol er mwyn cynyddu capasiti gwasanaethau lleol, gwelyau a maint y gweithlu sydd ar gael. Mae'r ymyriadau cadw pellter cymdeithasol a gwarchod yn hollbwysig er mwyn lleihau a gwastadu brig yr haint. Mae hyn yn hanfodol er mwyn creu'r amser i'n GIG gyrraedd y lefelau parodrwydd gofynnol er mwyn gofalu am gleifion COVID-19 yn ystod y diwrnodau a'r wythnosau nesaf. Os na fydd y cyhoedd yn parhau i gefnogi ymyriadau cadw pellter cymdeithasol a gwarchod, yna mae'n bosibl y caiff ein GIG ei lethu ac y bydd mwy o bobl yn marw'n ddiangen. Bydd pob cam a gymerir gan bob un ohonom yn gwneud gwahaniaeth wrth geisio achub bywydau.
Hoffwn dynnu sylw yn arbennig at nifer y gwelyau sy'n cael eu creu ar fyrder drwy bartneriaethau ym mhob rhan o'n GIG, y sector cyhoeddus a'r sector preifat a fydd yn cynnig capasiti ychwanegol o ryw 7,000 o welyau mewn ysbytai maes unwaith y byddant oll yn barod. Mae hyn yn gynnydd aruthrol i'n capasiti presennol, a hynny mewn cyfnod byr iawn o amser. Mae bellach yn hollbwysig sicrhau ein bod yn eu rhoi ar waith yn ddigon cyflym ac yn ddigon effeithiol i fodloni'r lefelau galw uchel a ddisgwylir.
Mae gan Fyrddau Iechyd ledled Cymru gynlluniau ar waith i gynyddu capasiti fel y nodir isod ac maent yn parhau i ystyried opsiynau eraill:
Caerdydd a’r Fro
Rwyf eisoes wedi cyhoeddi y bydd Stadiwm Principality ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn darparu gofod ar gyfer hyd at 2,000 o welyau ychwanegol. Mae Caerdydd a'r Fro wedi sicrhau 60 o welyau pellach drwy bartneriaeth â Spire, gan greu cyfanswm o 2,060 o welyau.
Aneurin Bevan
Cyhoeddais yr wythnos ddiwethaf y caiff Ysbyty Athrofaol y Grange ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ei agor yn gynharach na'r disgwyl, ac yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd hynny'n creu 350 o welyau ychwanegol. Mae'r bwrdd iechyd wedi sicrhau 36 o welyau pellach drwy ei bartneriaeth ag Ysbyty St Joseph's yng Nghasnewydd i greu cyfanswm o 386 o welyau ychwanegol.
Betsi Cadwaladr
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cytuno â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy y caiff Venue Cymru yn Llandudno ei ddefnyddio i greu tua 350 o welyau. Mae ysbyty Spire yn Wrecsam yn cyfrannu 27 o welyau a bydd 246 o welyau ar gael yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy. Yn ogystal, mae Prifysgol Bangor wedi darparu lle ar gyfer 250 o welyau pellach, gan greu cyfanswm o 873 o welyau ychwanegol yn y bwrdd iechyd.
Cwm Taf Morgannwg
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi sicrhau 27 o welyau yn ysbyty'r Vale yn Hensol a 270 o welyau yng nghanolfan adnoddau Undeb Rygbi Cymru yng ngwesty'r Vale. Cyfrannwyd 150 o welyau pellach yn Nhŷ Trevithick yn Abercynon a 462 o welyau mewn cartrefi gofal ac yn y gymuned, gan greu cyfanswm o 909 o welyau ychwanegol.
Hywel Dda
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i ddatblygu safleoedd ledled y rhanbarth. Disgwylir i Barc y Scarlets ddarparu 368 o welyau a bydd 128 o welyau ar gael ar safle Bluestone yn Sir Benfro. Bydd 143 o welyau pellach ar gael yng Nghanolfan Selwyn Samuel yn Llanelli a bydd lle ar gyfer 30 o welyau yn ysbyty Werndale yng Nghaerfyrddin, gan greu cyfanswm o 669 o welyau ychwanegol.
Powys
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Powys yn parhau i ystyried cyfleoedd i greu gwelyau ychwanegol yn ei gymunedau ac i gyfrannu at y cynnydd cyffredinol mewn capasiti brys.
Bae Abertawe
Mae BIP Bae Abertawe wedi cyhoeddi ei fod wedi dechrau gweithio i drawsnewid nifer o safleoedd allweddol. Byddant yn darparu cyfanswm o hyd at 1,489 o welyau. Bydd 360 o welyau ar gael yn Academi Chwaraeon Llandarcy; bydd 1080 o welyau pellach ar gael yn Stiwdios y Bae yn Abertawe a bydd Ysbyty Sancta Maria yn darparu 29 o welyau.
Mae'r cynnydd hwn mewn capasiti yn garreg filltir bwysig wrth sicrhau parodrwydd ein GIG, ond mae mwy i'w wneud. Mae opsiynau eraill o ran safleoedd yn cael eu hystyried o hyd wrth i ni fwrw ati ar fyrder i roi'r rheini a gadarnhawyd eisoes ar waith a dechrau eu defnyddio. Mae'r Byrddau Iechyd yn adolygu capasiti pellach ac yn parhau i ystyried opsiynau ym mhob rhan o Gymru, gyda nifer o gynlluniau yn cael eu hystyried ar hyn o bryd. Unwaith y bydd y cynlluniau'n cael eu cytuno, byddaf yn rhoi diweddariad pellach.
Yn ogystal â'r partneriaethau trawiadol hyn i ehangu capasiti gwelyau'r GIG, mae gwaith yr un mor drawiadol yn mynd rhagddo ym maes gofal cymdeithasol ac ar lefel gymunedol i ddarparu gofal i'r rheini y bydd angen cymorth arnynt yn lleol.
Hoffwn gydnabod rôl busnesau, ysbytai annibynnol a phartneriaid yn y sector preifat a'r sector gwirfoddol yng Nghymru am eu cyfraniad at yr ymdrech gyfunol anhygoel hon fel rhan o'r frwydr yn erbyn COVID-19.
Mae'n ffodus bod gennym gymorth logistaidd a chymorth cynllunio arbenigol gan y fyddin, sydd eisoes yn helpu i sicrhau trylwyredd, cyflymder a ffocws gwell byth wrth ymdrin â'r argyfwng iechyd y cyhoedd hwn. Bydd y fyddin yn helpu Llywodraeth Cymru, y byrddau iechyd, Ymddiriedolaeth GIG Felindre ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn ystod y diwrnodau, yr wythnosau a'r misoedd nesaf.
Mae ymateb y gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol i'r ceisiadau a wnaed am eu cymorth wedi creu argraff eithriadol arnaf. Ymatebodd 1,300 o weithwyr proffesiynol a oedd wedi ymddeol yn ddiweddar, mae miloedd o hyfforddeion yn barod i gefnogi'r GIG a meddygon teulu ac mae 1,200 o feddygon teulu locwm cofrestredig oll yn rhan o'r ymgyrch i ymateb i'r sefyllfa ddigynsail hon. Mae hyn yn ein hatgoffa o ymroddiad anhygoel ein staff iechyd a gofal. Byddwn yn annog gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol eraill a all gyfrannu i ystyried ailgofrestru neu i gysylltu â'u cyrff proffesiynol.
Yn ystod y cyfnod tywyll hwn, byddai'n hawdd anghofio yr hyn a gyflawnwyd o fewn wythnosau yn unig a'r cynnydd aruthrol a wnaed wrth baratoi ein GIG a'n gwasanaethau gofal cymdeithasol ar gyfer pandemig COVID-19. Bydd ein gwaith i baratoi ar gyfer y diwrnodau a'r wythnosau nesaf yn ddi-baid, ond mae'n bwysig i ni gydnabod yr hyn a wnaed eisoes o ganlyniad i ymdrech genedlaethol ymroddedig.
Mae ein staff iechyd a gofal, gwirfoddolwyr a busnesau yng Nghymru, ac yn wir ledled y DU, yn dod at ei gilydd mewn ffyrdd eithriadol er mwyn ymateb i’r argyfwng eithriadol hwn i ofalu am bobl, paratoi gwasanaethau ac amddiffyn cymunedau. Bydd pob cyfraniad yn helpu i achub bywydau ac rwyf yn wirioneddol ddiolchgar i bawb sy'n rhan o'r gwaith.
Mae patrwm yn dod i'r amlwg bod coronafeirws yn lledaenu'n fras o'r dwyrain i'r gorllewin. O ganlyniad, mae'n bosibl y bydd rhai rhannau o Gymru yn cyrraedd brig y feirws yn gynharach na rhannau eraill o'r wlad. Serch hynny, mae'n bwysig ein bod yn parhau'n wyliadwrus lle bynnag yr ydym er mwyn amddiffyn y boblogaeth gyfan, ond yn arbennig er mwyn gwarchod y rheini sy'n wynebu'r risg fwyaf.
Diolch i bob un ohonoch yng Nghymru sy'n chwarae eich rhan yn y frwydr hon.
Helpwch i amddiffyn eich hun a'ch cymuned. Arhoswch gartref. Diogelwch y GIG. Achubwch fywydau.