Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Cymru a gwledydd eraill y DU wedi symud o'r cyfnod cyfyngu i gyfnod oedi ein hymateb i COVID-19. Yn dilyn y newid hwn, y flaenoriaeth yng Nghymru oedd cynnal profion ar yr unigolion sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty.

Mae'r canllawiau presennol ar gyfer y cyhoedd yn parhau i ddweud y dylai unigolion sy'n arddangos symptomau fel peswch parhaus newydd a/neu dymheredd uchel hunanynysu yn eu cartrefi am 7 diwrnod, ac nid yw profi'r unigolion hynny yn cael ei argymell yn gyffredinol. Hefyd, pan fo unrhyw aelod o'r cartref yn arddangos symptomau, dylai gweddill aelodau'r cartref aros adref am 14 diwrnod.

Bydd cadw gweithwyr gwasanaethau hanfodol o'r gwaith am 7/14 diwrnod yn niweidiol i'r gwasanaethau hynny, pan fyddai canlyniad prawf negyddol yn caniatáu iddynt ddychwelyd i'r gwaith. Felly, yn dilyn asesiad risg gofalus, byddwn yn dechrau cyflwyno profion fesul cam, gan ddechrau gyda'r gweithwyr gofal iechyd sydd ar y rheng flaen yn cynnig gofal clinigol i gleifion.

Bydd ein gallu i gynnal profion yn cael ei ehangu, a'r rhai sy'n cael blaenoriaeth ar hyn o bryd yw'r cleifion a'r gweithwyr gofal iechyd sydd ar y rheng flaen yn cynnig gofal clinigol i gleifion, ac eraill sy'n cael eu hargymell gan Gyfarwyddwyr Meddygol y Byrddau Iechyd. O ganlyniad, bydd ein gallu i gynnal profion yn cael ei gynyddu ac mae canllawiau wedi’u rhoi i’r GIG.