Vaughan Gething AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Rydym yn symud y tu hwnt i gyfnod o gynllunio ac ymateb allweddol o ran COVID-19 ac i gyfnod hirach pan fydd rhaid i’n system iechyd a gofal barhau i fod yn barod am unrhyw gynnydd mawr mewn achosion yn y dyfodol a pharhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol a gofal a thriniaeth arall i bobl Cymru yn effeithiol.
Fis Mawrth, gwnes i gyfres o benderfyniadau i sicrhau bod camau cynnar a phendant yn cael eu cymryd i barhau i ddarparu gofal a chymorth i’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, gan hefyd sicrhau bod sefydliadau a gweithwyr proffesiynol yn cael eu cefnogi i baratoi ymatebion lleol i’r argyfwng iechyd y cyhoedd. Mae GIG Cymru eisoes wedi ymateb yn rhagorol i argyfwng iechyd COVID-19 ers derbyn y cleifion coronafeirws cyntaf. Rhaid inni nawr gymryd y camau nesaf.
I gynnal momentwm a sicrhau bod y system yn parhau i ganolbwyntio ar ddarparu ystod ehangach o wasanaethau, rwyf wedi cyhoeddi Fframwaith gweithredu COVID-19 GIG Cymru ar gyfer chwarter 1 (2020/21).
Mae’r ddogfen yn nodi pedwar math o niwed a allai ddeillio o COVID-19 y mae rhaid inni barhau i gadw llygad arnynt a diogelu rhagddynt, sef;
- Niwed o COVID-19 ei hun
- Niwed o Wasanaethau Iechyd a system gofal cymdeithasol sydd wedi’u gorlethu
- Niwed o leihad mewn gweithgarwch nad yw’n gysylltiedig â COVID-19
- Niwed o gamau / cyfyngiadau cymdeithasol ehangach
Bydd y fframwaith hwn yn sicrhau ymhellach bod ein systemau yn canolbwyntio ar y ddwy elfen dan sylw sef parhau i ymateb yn effeithiol i COVID-19 a darparu gwasanaethau hanfodol eraill mewn modd gofalus a chytbwys.
Rwyf wedi cymryd cyngor cydweithwyr proffesiynol, gan gynnwys Prif Weithredwyr a Chyfarwyddwyr Meddygol y GIG. Mae’r cyngor hwn yn dangos bod cytundeb ar draws y system iechyd a gofal bod rhaid inni sicrhau y bydd gwasanaethau hanfodol yn cael eu darparu i’n poblogaeth a bod rhaid, pan fo’n bosibl, ailddechrau gofal mwy cyffredinol. Mae’r cyngor yr wyf wedi’i gael yn dweud hefyd bod rhaid gwneud hyn yn raddol, yn ofalus ac mewn modd hyblyg ac ystwyth er mwyn ennyn hyder y cyhoedd a staff.
Mae’r fframwaith hwn wedi’i rannu’n nifer o themâu;
Ffyrdd newydd o weithio a lles y gweithlu – Mae staff wedi creu a derbyn yn gyflym ffyrdd newydd o weithio mewn ymateb i her COVID-19, gan gynnig manteision o ran diogelwch ac ansawdd i staff a chleifion. Ar yr un pryd, mae hyn wedi helpu i sicrhau nad yw lleoliadau gofal sylfaenol nac ysbytai wedi’u gorlethu. Rhaid inni barhau i ddatblygu’r gwaith hwn a manteisio ar y cyfleoedd y mae’n eu cynnig.
Un enghraifft o raddfa’r trawsnewid yw rhoi ymgyngoriadau fideo ar waith yn ddiogel ym maes gofal sylfaenol. Yn lleol ac yn genedlaethol, rhaid ymwreiddio’r ffyrdd newydd hyn o weithio mewn ffordd gynaliadwy.
Mae’r fframwaith hwn yn cydnabod pwysigrwydd llesiant ein gweithlu, ac yn enwedig yr aelodau hynny o staff sydd wedi bod dan bwysau sylweddol wrth ymateb i COVID-19. Rhaid iddyn nhw fod ar flaen ein meddyliau. Gallai’r pwysau gynyddu eto yn y misoedd i ddod. Rwy’n ei gwneud yn glir bod rhaid i systemau profi priodol fod yn eu lle, ac wedi’u seilio ar y Strategaeth Brofi sydd wrthi’n cael ei datblygu i gefnogi a chynnal staff.
Rheoli COVID 19 – Bydd bob amser yn anodd sicrhau bod lleoliadau iechyd a chymdeithasol yn rhydd rhag COVID, ond mae’n rhaid i gleifion sy’n defnyddio’r GIG fod yn hyderus bod amgylcheddau ysbyty mor ddiogel â phosibl. Mae’r prif feini prawf y byddaf yn gofyn i sefydliadau eu sicrhau yn cynnwys:
- Rhoi canllawiau Rheoli ac Atal Haint ar waith yn barhaus ac yn gyson.
- Adnabod “parthau” COVID a chyfleusterau ynysu penodedig. Rwy’n rhagweld y bydd datrysiadau rhanbarthol yn cael eu harchwilio ynghyd â thargedu’r defnydd o ysbytai’r sector annibynnol ac ysbytai maes i gefnogi gwahanu gweithgarwch COVID a gweithgarwch nad yw’n gysylltiedig â COVID a hynny yn syth.
- Brysbennu gwasanaethau newydd neu wasanaethau arbenigol a phrosesau ffrydio mewn gofal heb ei drefnu a gofal wedi’i drefnu i gefnogi gwahanu gwasanaethau i gleifion.
- Parhau i roi Llwybrau Acíwt ar waith ar gyfer COVID 19 a chamau adfer perthnasol
- Sicrhau argaeledd capasiti ffisegol a gweithlu digonol sy’n adlewyrchu’r angen i gadw pellter cymdeithasol a mesurau atal a rheoli haint.
Mae’r fframwaith yn adlewyrchu’r ffaith fy mod yn benderfynol y gallwn barhau i fedru rhoi capasiti gofal critigol ychwanegol ar waith yn gyflym os bydd cynnydd mawr arall mewn achosion.
Gwasanaethau “hanfodol” – rwy’n benderfynol y dylid cynnal gwasanaethau hanfodol drwy gydol y pandemig. Datblygwyd dogfen dechnegol i wasanaethau hanfodol yn unol â chanllawiau Sefydliad Iechyd y Byd. Os yw’r ymateb i COVID 19 wedi arwain at ôl-groniad mewn unrhyw wasanaethau hanfodol, mae’n rhaid mynd i’r afael â hyn ar fyrder. Yn y pen draw, rwy’n cydnabod y bydd rhai penderfyniadau ynglŷn â thriniaeth yn benderfyniadau i’w gwneud rhwng y claf a’r clinigwyr, gan ystyried y risgiau penodol yn ystod yr achosion o COVID.
Gwasanaethau “rheolaidd” - Gwyddom fod digon o gapasiti yn rhai rhannau o’n system i gefnogi ailgyflwyno gwasanaethau rheolaidd. Mae ailgyflwyno’r gwasanaethau hyn yn benderfyniad gweithredol lleol ar gyfer Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau mewn cysylltiad â phartneriaid perthnasol. Mae’n rhaid gwneud y penderfyniadau hyn yn ofalus, ac mae’n rhaid i sefydliadau sicrhau ei bod yn ddiogel ac yn briodol i wneud hynny. Rwy’n amlinellu yn y fframwaith sut y mae angen iddynt eu sicrhau eu hunain.
Gofal sylfaenol – Mewn Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol, rydym wedi gweld newid i frysbennu dros y ffôn; mae’n rhaid i hyn barhau yn ystod Chwarter 1 ac rwy’n ei annog yn y tymor hir. Yn yr un modd, mae ein fferyllfeydd cymunedol wedi bod dan bwysau sylweddol ac wedi cyflwyno ffyrdd newydd o weithio i reoli gofal cleifion yn ddiogel ac yn effeithlon. Mae’n rhaid i hyn hefyd barhau os yw’r manteision yn amlwg.
Mae pob triniaeth ac archwiliad deintyddol gofal sylfaenol rheolaidd yn parhau i fod wedi’u canslo. Mae practisau deintyddol â chontractau GIG yn parhau i fod ‘ar agor’ i gynnal gwasanaeth brysbennu o bell, i roi cyngor ac i roi presgripsiynau. Bydd canllawiau pellach yn cael eu rhoi ar wahân i’r fframwaith hwn ynglŷn â statws ac adferiad gwasanaethau deintyddol yn y dyfodol. Mewn gwasanaethau optometreg, mae nifer o bractisau yn parhau i fod ar agor ar gyfer gwasanaethau gofal llygaid hanfodol a brys. Mae’n rhaid i fyrddau iechyd sicrhau bod cleifion brys yn cael eu gweld.
Rhyng-gysylltiad â Gofal Cymdeithasol – Yn olaf, mae’r fframwaith yn nodi’n glir bod angen i sefydliadau’r GIG barhau i weithio gyda phartneriaid i sicrhau rhyng-gysylltiad effeithiol gyda gofal cymdeithasol. Mae hyn yn unol â’r dull gweithredu a nodwyd yn “Cymru Iachach” ac mae’r fframwaith yn nodi’n glir sut y dylai hyn ddigwydd.
Mae negeseuon clir a chyson wedi’u rhoi i’r cyhoedd bod y GIG yn parhau i fod ar gael iddynt pan fyddant ei angen, er gwaethaf COVID-19. Mae’n rhaid inni barhau i sicrhau bod gwasanaethau allweddol ar gael ac y gall cleifion gael mynediad atynt, yn awr ac yn y dyfodol.
I helpu cleifion i gael y gwasanaethau hyn, bu trawsnewidiad enfawr ar draws ein system yn ystod yr wyth i ddeg wythnos diwethaf. Mae’n rhaid inni adlewyrchu ar y newidiadau hyn, ond peidio ag oedi gyda nhw. Mae’n rhaid eu mabwysiadu, eu haddasu a’u rhoi ar waith. Mae’r fframwaith hwn yn cefnogi’r system iechyd a gofal i symud i’r cam nesaf o ddarparu gwasanaethau.
Mae Fframwaith Gweithredu COVID-19 GIG Cymru ar gyfer chwarter 1 (2020/21) a’r Atodiad yn Crynhoi’r Gwasanaethau Allweddol wedi’u cynnwys yn y dolenni perthnasol isod:
https://llyw.cymru/fframwaith-gweithredu-gig-cymru-chwarter-1-2020-i-2021
https://llyw.cymru/gwasanaethau-iechyd-hanfodol-yn-ystod-covid-19