Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru yn arwain consortiwm o randdeiliaid yng Nghymru i gyflawni ein cynllun cenedlaethol o brofion ar gyfer COVID-19.

Heddiw rydym yn manteisio ar y cyfle i rannu manylion ein cynllun: Dull cenedlaethol cymru o brofi am COVID-19 Abrill 2020, sydd wedi bod ar waith ers 28 Mawrth. Mae’r cynllun hwn yn ategu ac yn rhyngweithredu â strategaeth y DU o ran profion ar gyfer COVID-19 a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol Iechyd a Gofal Cymdeithasol yr wythnos diwethaf. Rydym yn gweithio ochr yn ochr â’n cydweithwyr yn y pedair gwlad i sicrhau ymateb cyson a gwneud yn siŵr ein bod yn cymryd pob cyfle i ddatblygu ein gallu i brofi.

Mae’r gwaith hwn yn digwydd yn gyflym, ac mae hyn wedi bod yn wir ers sawl wythnos bellach. Rydym wedi bod yn profi unigolion symptomatig sydd wedi dychwelyd o deithiau tramor ers 29 Ionawr ac rydym wedi bod yn profi staff rheng flaen y GIG am COVID-19 ers 7 Mawrth.

Mae hwn yn ddigwyddiad clefyd trosglwyddadwy un mewn can mlynedd. Mae’r her i’n system heb ei chynsail. Ar lefel weithredol, mae sicrhau ein bod yn gallu ymateb yn ddiogel ac yn effeithiol o’r pwys mwyaf. Nid yw’n bosibl dechrau gweithredu gwasanaethau clinigol newydd, fel profion, dros nos.  

Mae’n rhaid inni nodi’n glir beth rydym yn ceisio ei gyflawni, a’n prif amcan yw lleihau niwed uniongyrchol ac anuniongyrchol yn sgil COVID-19 gan ganolbwyntio’n glir ar ddiogelu’r cyhoedd, ceisio’r canlyniadau gorau i’n cleifion a sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn parhau yng Nghymru. Mae ein cynllun profion yn rhan allweddol o’n hymateb. Nid graddfa yn unig sy’n bwysig i sicrhau dull effeithiol ond cynllun sydd wedi’i arwain gan dystiolaeth a’i flaenoriaethu yn ôl anghenion ac effaith.

Mae gwahanol ddibenion i’r profion: canfod y bobl sydd wedi bod yn agored i’r feirws ac wedi’u heintio ganddo, a chanfod y bobl hynny sydd wedi datblygu imiwnedd. Bydd deall yr olaf o’r ddau yn cymryd amser, ond does dim amheuaeth y bydd yn chwarae rhan bwysig yn y dasg o ddychwelyd i normalrwydd o’r newydd.

Mae epidemig COVID-19 wedi arddangos y gorau mewn pobl, gweithwyr proffesiynol, sefydliadau a’n cymunedau. Rydym wedi gweld enghreifftiau o hyn yn y cynigion anhygoel o gymorth yr ydym yn eu cael bob dydd gan ddiwydiannau, prifysgolion ac unigolion. Rydym yn gwneud ein gorau i edrych ar yr holl gynigion caredig hyn er mwyn deall sut y gallwn reoli eu defnydd fel eu bod yn cael yr effaith orau posibl ar ein hymateb.

Yng Nghymru, rydym yn ffodus bod gennym asedau pwysig yr ydym wedi’u defnyddio i roi ein cynllun profion ar waith. Mae’r rhain yn cynnwys: Iechyd Cyhoeddus Cymru sydd â rôl genedlaethol o ran ymateb i achosion o glefydau trosglwyddadwy ac sy’n datblygu Gwasanaethau Iechyd Cyhoeddus i gwrdd â’r her; yr Hwb Gwyddorau Bywyd, sy’n arwain y cyswllt â’r diwydiant; Technoleg Iechyd Cymru sy’n adolygu dyfeisiau a thechnolegau newydd yn gyflym; y Partneriaeth Cydwasanaethau, sy’n edrych drwy restrau o gyflenwyr; Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS), sy’n sicrhau bod profion yn cael eu ceisio, a chanlyniadau’n cael eu rhannu yn ddiogel ac yn brydlon; Banc data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw, sy’n darparu dull gwybodus o ran data mawr COVID-19 i hysbysu ein hymateb; Partneriaeth Genomeg Cymru, sy’n cyfrannu gwyddor genomeg i ddeall yr epidemig; a chryfder llawn GIG Cymru i roi’r cynllun ar waith.

Rydym yn gweithio ar lefel y DU mewn sawl ffordd, fel rhannu data ar ddilysiad profion newydd, deall ein hymateb imiwnedd i haint coronafeirws, modelu’r galw a deall agwedd genomeg y feirws. Mae Cymru yn y deg uchaf yn y byd am yr ystod o wybodaeth geneteg feirysol sydd wedi’i chyhoeddi, gan alluogi gwaith i ddeall a rheoli’r epidemig yma yng Nghymru a thu hwnt.

Ar lefel weithredol rydym yn cydweithio i ddatblygu ein gweithrediadau ac mae’r gwaith gyda Deloitte ac Amazon yn rhan allweddol o hyn. Rydym hefyd yn cydweithio drwy grŵp Prif Swyddogion Meddygol y pedair gwlad i sicrhau bod adnoddau’n cael eu rhannu’n deg ac yn gyfiawn i leihau’r niwed yn sgil COVID-19.

Byddaf yn rhoi diweddariadau pellach ichi am y cynnydd o ran rhoi ein cynllun profion ar waith a gweithio fel pedair gwlad. Gallaf eich sicrhau na fyddwn yn gorffwys nes y bydd ein cynllun wedi’i gyflawni.