Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy’n rhoi diweddariad ar y ddau frigiad a’r digwyddiad yn ymwneud â COVID-19 mewn safleoedd prosesu cig a bwyd yng Nghymru. Mae’r rhain yn cael eu rheoli mewn modd rhagweithiol, yn unol â Chynllun Cymru ar gyfer Achosion o Glefydau Trosglwyddadwy, er mwyn cadw’r feirws dan reolaeth a’i atal rhag lledaenu.

Er bod ychydig yn rhagor o bobl wedi dal y feirws o ganlyniad i’r brigiadau a’r digwyddiad dan sylw, nid oes unrhyw dystiolaeth ei fod wedi’i drosglwyddo’n helaeth o fewn y gymuned ehangach. Felly, nid oes angen cyflwyno cyfyngiadau symud lleol fel sydd wedi digwydd yng Nghaerlŷr yr wythnos hon. Fe fyddwn ni, wrth gwrs, yn parhau i adolygu’r sefyllfa yng Nghymru.

Mae ymgynghorwyr Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy sy’n gweithio i Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cadeirio’r Timau Rheoli Brigiadau a’r Tîm Rheoli Digwyddiadau. Mae’r timau yn gweithio mewn partneriaeth â’r cyflogwyr, yr awdurdodau lleol, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, yr Asiantaeth Safonau Bwyd a’r Byrddau Iechyd.

Yn safle 2 Sisters yn Llangefni, Ynys Môn, mae 217 o achosion wedi’u cadarnhau ymhlith y staff a phobl y maent wedi dod i gysylltiad â hwy. Cynhaliwyd profion eang ac mae 305 o ganlyniadau negatif wedi’u cadarnhau hyd yma. Yn amodol ar gynnydd parhaus a fydd yn bodloni’r gwahanol asiantaethau sydd ynghlwm wrth y gwaith, bydd hyfforddiant yn dechrau yn y safle ddydd Gwener 3 Gorffennaf gyda’r bwriad o ailddechrau’r gwaith yno ddydd Sul 5 Gorffennaf. Mae’r cwmni wedi dweud na fydd aelodau staff yn gweithio hyd nes bod eu statws wedi’i gadarnhau’n negatif.

O ran safle Rowan Foods yn Wrecsam, mae 283 o achosion wedi’u cadarnhau, a hyd y mae mae 909 o bobl wedi cael canlyniad negatif. Mae'r cynnydd diweddar yn yr achosion sydd wedi’u cadarnhau yn deillio o'r profi torfol sy’n cael ei gynnal ar gyfer y gweithlu – nid yw’r haint wedi lledaenu o’r newydd. Byddem yn disgwyl gweld canlyniadau fel hyn wrth roi trefn brofi bendant a chadarn ar waith. Nid oes unrhyw dystiolaeth fod yr haint yn deillio o’r safle ei hun, ac mae’r gwaith yn dal i fynd rhagddo gyda mesurau diogelu priodol. Cynhaliodd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ymweliad dau ddiwrnod â’r safle yr wythnos diwethaf.

Mae digwyddiad hefyd yn safle Kepak Food Group ym Merthyr Tudful. Mae 134 o achosion wedi’u cadarnhau gan y labordy erbyn hyn, yn dilyn cynnal profion. Mae’r achosion hyn wedi bod yn digwydd ers mis Ebrill, ac o blith y 105 o achosion newydd, nid yw dros 50 y cant ohonynt yn heintus erbyn hyn. Nid oes unrhyw dystiolaeth bod yr haint yn dal i gael ei throsglwyddo yn y safle.

Ddiwedd yr  wythnos diwethaf, cyhoeddais ganllawiau newydd ar gyfer safleoedd prosesu cig a chynhyrchu bwyd ar atal a rheoli achosion o’r coronafeirws. Datblygwyd y canllawiau yn gyflym a hoffwn ddiolch i’r rhanddeiliaid a fu’n rhan o’r gwaith hwnnw. Mae’r canllawiau yn ymdrin â:

  • Gweithdrefnau i reoli achosion posibl, gan gynnwys gwybodaeth am wasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru.
  • Asesu risg yn y gweithle.
  • Cyfathrebu â gweithwyr.
  • Llety a rennir a thrafnidiaeth i’r safle.
  • Cael mynediad i’r safle a chadw pellter ar y safle, gan gynnwys mewn ardaloedd cymunol.
  • Hylendid bwyd.

Mae gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru wedi bod yn elfen allweddol o'n hymateb i helpu i gadw Cymru'n ddiogel. Mae hyn wedi cynnwys y parodrwydd i rannu adnoddau i gynorthwyo ei gilydd ac i gefnogi cymunedau ledled Cymru.

Ddydd Llun 29 Mehefin, cefais gyfarfod arall gyda chyflogwyr ac undebau. Cafodd y materion canlynol eu nodi fel rhai yr oedd angen camau gweithredu pellach yn eu cylch:

  • Yr angen i atgyfnerthu’r gofyniad i gadw pellter cymdeithasol yn y gweithle ac wrth deithio i’r gwaith ac oddi yno.
  • Mynd i’r afael ag unrhyw rwystrau ieithyddol o ran cyfathrebu â staff.
  • Bod yn ymwybodol o drefniadau byw sy’n gallu cynyddu’r risg o drosglwyddo’r haint a rhwystro pobl rhag gallu hunanynysu’n effeithiol.

Rwyf yn barod i ddefnyddio pwerau cyfreithiol i gau cyfleusterau sy'n peri risg i iechyd cyhoeddus oherwydd COVID-19, os bydd angen gwneud hynny. Hyd yma, y cyngor rwyf wedi'i gael yw na ellir cyfiawnhau ymyriadau pellach os glynir at y mesurau sydd wedi’u rhoi ar waith hyd yma. Mae hon yn sefyllfa sy’n datblygu a byddaf yn parhau i adolygu pa fesurau y gallai fod eu hangen yn y dyfodol. 

Wrth gwrs, byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau