Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AC, y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae ein cymunedau'n wynebu heriau na welwyd mo'u tebyg o'r blaen o ganlyniad i'r coronafeirws. Mae nifer o elusennau, grwpiau cymunedol a sefydliadau eraill yn y trydydd sector yn delio ag effaith y feirws. Ni ellir orbwysleisio pwysigrwydd gwasanaethau cymunedol ar hyn o bryd ac rydym wedi bod yn gweithio'n agos â rhwydwaith Cefnogi Trydydd Sector Cymru (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a'r Cynghorau Gwirfoddol Sirol) i nodi'r cymorth ychwanegol sydd ei angen ar y sector.

Mae gwirfoddolwyr ar draws Cymru hefyd yn chwarae rôl bwysig o ran galluogi pobl i aros gartref gan ein helpu i ddiogelu'r GIG a gofal cymdeithasol ac achub bywydau. Gwyddom fod mwy o bobl eisiau helpu ac rydym yn gweithio gyda phob sector a chyda rhwydwaith Cefnogi Trydydd Sector Cymru, awdurdodau lleol a GIG Cymru i sicrhau bod hyn yn digwydd.

Mewn ymateb i'r pwysau ar y trydydd sector a'r nifer cynyddol o bobl sydd eisiau gwirfoddoli, rwyf wedi cyhoeddi Cronfa Ymateb Covid-19 y Trydydd Sector Llywodraeth Cymru sy'n werth £24 miliwn. Bydd y gronfa hon yn cefnogi'r gweithgarwch canlynol:

  • Helpu elusennau a sefydliadau yn y trydydd sector yn ariannol - drwy ddarparu cymorth ariannol uniongyrchol i sefydliadau yn y trydydd sector sydd angen help i ymdopi â'r argyfwng hwn er mwyn talu eu biliau a lliniaru problemau llif arian (Cronfa Cadernid y Trydydd Sector);
  • Helpu mwy o bobl i wirfoddoli a gwasanaethau gwirfoddoli - drwy gefnogi sefydliadau'r trydydd sector yn y gymuned sy'n cydgysylltu'r ymateb aruthrol yr ydym wedi'i weld ar draws Cymru i'r cais am wirfoddolwyr, gan eu helpu i dalu treuliau personol eu gwirfoddolwyr (Cronfa Argyfwng Gwasanaethau Gwirfoddol); 
  • Cryfhau seilwaith hanfodol y Trydydd Sector - drwy alluogi rhwydwaith Cefnogi Trydydd Sector Cymru i gynyddu eu capasiti dros dro i gefnogi'r sector, gan gynnwys datblygu gwefan Gwirfoddoli Cymru (Cronfa Galluogi Seilwaith y Trydydd Sector).

Rwyf hefyd wedi cytuno i ganiatáu prynu neu gyfnewid cyfarpar i gefnogi'r ymateb i COVID-19 fel rhan o'r grant gwerth llai na £25,000 o dan y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol. Mae’r rhaglen hon yn gynllun grant cyfalaf i wella'r cyfleusterau lleol sy'n chwarae rôl bwysig iawn o ran cefnogi pobl.

Gwyddom fod y trydydd sector yn gweithredu'n gyflym i ymateb i'r argyfwng hwn a bod nifer o ymddiriedolaethau a sefydliadau yn cynnig cyllid i gefnogi'r ymdrechion aruthrol hyn.  Drwy rwydwaith Cefnogi Trydydd Sector Cymru, sefydlwyd y platfform Cyllido Cymru fel portal i chwilio am arian er mwyn helpu elusennau, grwpiau cymunedol neu fentrau cymdeithasol i ddod o hyd i grantiau a chyllid o ffynonellau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Mae hyn bellach yn cynnwys categori cyllido ‘coronafeirws’ newydd er mwyn dwyn ynghyd cronfeydd sy'n cefnogi'r sector yn uniongyrchol yn y cyfnod sydd ohoni. Rydym mewn sefyllfa sy'n newid yn gyflym ac mae rhagor o ffynonellau cyllid a mwy o fanylion am y ffynonellau sydd eisoes yn bodoli eu cyhoeddi bob dydd. Mae platfform Cyllido Cymru'n cael ei diweddaru'n rheolaidd fel bod sefydliadau'n gallu gweld cymaint o ffynonellau cyllid â phosibl mewn un lle. O 3 Ebrill, ceir 10 o gronfeydd gwahanol ar Cyllido Cymru sy'n canolbwyntio ar COVID-19, gan gynnwys Cronfa Gwydnwch Coronafeirws Cymru gan Gronfa Gymunedol Cymru, y Sefydliad Cymorth i Elusennau a Chronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd. Rydym yn annog ymddiriedolaethau a sefydliadau i ddefnyddio Cyllido Cymru i hyrwyddo eu cronfeydd i sefydliadau'r trydydd sector ar draws Cymru.

Mae gan Gymru draddodiad cryf o bobl yn helpu ei gilydd. Yn y cyfnod anodd hwn mae llawer iawn o waith da'n digwydd yn ein cymunedau, ac mae llawer ohono'n cael ei drefnu'n lleol gan adeiladu ar y cysylltiadau sydd eisoes yn eu lle. Ar 26 Mawrth, anfonais neges o ddiolch i'r rheini sy'n gwirfoddoli ac yn helpu eu cymunedau i wynebu ac ymdopi â’r coronafeirws. Yn ystod yr argyfwng hwn, rydym yn gweld llawer o bobl o bob cwr o Gymru ac o bob cefndir yn cynnig eu hunain i wirfoddoli.

Mae ymgyrch Edrych ar ôl ein gilydd yn ddiogel yn cynnwys cyngor ar sut all pobl wirfoddoli, a cheir cyngor ar y dudalen 'Gwirfoddoli yn ystod y pandemig coronafeirws'.  Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru wedi paratoi canllawiau i helpu pobl i wirfoddoli'n ddiogel.  Drwy wirfoddoli, gallwch hefyd helpu'r rheini sy'n teimlo eu bod yn methu dianc drwy fod yn ymwybodol o arwyddion trais domesig. Mae ein hymgyrch Byw Heb Ofn yn darparu cymorth a chanllawiau. Rydw i hefyd wedi darparu arian ychwanegol i helpu ffoaduriaid yn ystod yr argyfwng.

Yng Nghymru, yn wahanol i rannau eraill o'r DU, mae gennym un wefan unedig ar gyfer recriwtio gwirfoddolwyr, sef Gwirfoddoli Cymru. Mae'r wefan hon yn darparu cyfleoedd ar gyfer gwirfoddolwyr a ffordd i'r rheini sydd eisiau recriwtio gwirfoddolwyr i hyrwyddo eu cyfleoedd nhw. Mae Gwirfoddoli Cymru yn galluogi pobl i gofrestru fel gwirfoddolwr a chwilio am gyfleoedd i wirfoddoli yn eu hardal leol, gan gynnwys cyfleoedd sy’n ymwneud yn benodol â COVID-19. O 1 Ebrill, roedd dros 50 o gyfleoedd wedi'u rhestru ar Gwirfoddoli Cymru sy’n ymwneud yn benodol â COVID-19. Rydym yn gweithio ar draws sectorau i ddatblygu dull cydgysylltiedig o wirfoddoli sy'n addas i Gymru a chymunedau Cymru.

Mae dros 21,000 o bobl wedi cofrestru â Gwirfoddoli Cymru hyd yn hyn, gyda 10,000 o gofrestriadau ym mis Mawrth. Mae pob un o'r gwirfoddolwyr hyn wedi cael e-bost ynghylch y cyfleoedd sy'n ymwneud yn benodol â COVID-19. Rydym yn annog y rheini sy'n dymuno gwirfoddoli i ymuno â chorff gwirfoddoli lleol a chofrestru eu diddordeb ar wefan Gwirfoddoli Cymru.

I weld yr wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth a amlinellir yn y datganiad hwn, ewch i'r tudalennau Covid-19 ar wefan Llywodraeth Cymru.

Y prif gyfeiriadau

Gwefan

Coronafeirws (COVID-19): cymorth ar gyfer y trydydd sector

Datganiad i'r wasg

Gwirfoddolwyr – ffyrdd o helpu, diolch a byddwch yn ofalus

Neges fideo

Neges fideo gan y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip

Datganiad i'r wasg

Hwb gwerth miliynau o bunnoedd i gefnogi gwirfoddolwyr a phobl mwyaf agored i niwed Cymru

Gwefan

Sut alla i wirfoddoli?

Gwefan

Gwirfoddoli yn ystod y pandemig coronafeirws