Vaughan Gething AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dros yr wythnos ddiwethaf, datganwyd dau achos o COVID-19 mewn safleoedd prosesu cig a bwyd yng Nghymru. Mae’r datganiadau hyn yn dilyn patrwm a welir ar draws y byd yn ystod y pandemig byd-eang presennol o’r sector prosesu bwyd yn agored i COVID-19, sydd wedi arwain at ddau fan problemus o ran yr haint.
Tra bo’r camau angenrheidiol yn cael eu cymryd i reoli ac atal y feirws rhag lledaenu o berson i berson, hoffwn bwysleisio nad oes tystiolaeth bod y coronafeirws yn gallu goroesi mewn bwyd.
Mae achosion o’r coronafeirws yn parhau i ostwng ar y cyfan ar draws Cymru – rydym wedi gweld llai na 100 o achosion y dydd yn dod i’r amlwg yn ystod yr wythnosau cyntaf o fis Mehefin. Fodd bynnag, gallwn ddisgwyl gweld cynnydd yn nifer yr achosion o ganlyniad i’r brigiadau hyn. Maent yn dangos bod angen inni gyd barhau i ystyried y coronafeirws o ddifrif – nid yw wedi diflannu.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cadeirio cyfarfodydd y Timau Rheoli Achosion yn ddyddiol ac mae’n gweithio mewn partneriaeth â gweithwyr, awdurdodau lleol, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, yr Asiantaeth Safonau Bwyd, a’r Byrddau Iechyd i sicrhau bod yr holl gamau angenrheidiol o ran iechyd y cyhoedd yn cael eu cymryd. Mae’r achosion a ddatganwyd yn cael eu rheoli yn unol â’n Cynllun ar gyfer Achosion o Glefydau Trosglwyddadwy i Gymru sydd wedi’i brofi.
Gwelwyd yr achos cyntaf yn ffatri 2 Sisters yn Llangefni, Ynys Môn. Hyd yn hyn, mae 200 o achosion wedi’u cadarnhau ac mae’r rhan fwyaf ymhlith aelodau staff y ffatri. Mae rhai ohonynt yn perthyn i’r un aelwyd â’r gweithwyr hynny. Mae mwy na 450 o brofion wedi’u gwneud. Mae 89 o bobl yn dal i aros am brawf ac rydym yn mynd ati’n rhagweithiol i fynd ar drywydd hynny. Mae’r cyflogwr wedi cau’r ffatri a dim ond pan fydd mesurau effeithiol wedi’u rhoi yn eu lle y bydd yn ailagor. Mae cysylltiadau pawb sydd wedi dal y feirws yn cael eu profi ac mae’r holl bobl hynny yn hunanynysu.
Darganfuwyd yr ail achos yn ffatri Rowan Foods yn Wrecsam. Hyd yn hyn, mae 97 o achosion wedi'u cadarnhau a thros 1,000 o brofion wedi’u gwneud. Mae’r ffatri yn dal i weithredu. Bydd ymweliad â’r safle yn cael ei gynnal yn nes ymlaen yr wythnos hon. Mae cysylltiadau pawb sydd wedi dal y feirws yn cael eu profi ac mae’r holl bobl hynny yn hunanynysu.
Mae pob achos sy’n uniongyrchol gysylltiedig â phobl sy’n gweithio yn y ffatrïoedd hyn wedi’i nodi drwy ein system Profi, Olrhain, Diogelu. Rwy’n ddiolchgar iawn i’n timau POD lleol a rhanbarthol ar hyd a lled y wlad sy’n gweithio er mwyn Diogelu Cymru.
Mae yna hefyd ymchwiliad wrthi’n cael ei gynnal i’r sefyllfa yn ffatri Kepak Food Group ym Merthyr Tudful. Mae’n bosibl bod 33 o achosion wedi bod ymysg gweithwyr y ffatri ers mis Ebrill ond nifer bach yn unig o’r rhain sydd wedi digwydd ers mis Mehefin. Mae’r ymchwiliad yn parhau ac nid oes brigiad wedi’i gyhoeddi. Bydd rhagor o fanylion am amseriad yr heintiau yn ogystal ag archwiliad o’r safle yn ein helpu i ddeall a gafodd y feirws ei drosglwyddo yn y ffatri neu yn y gymuned ehangach. Bydd cyfarfod arall o’r Tîm Rheoli Digwyddiadau, wedi’i gadeirio gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a chan gynnwys pob partner allweddol, yn cael ei gynnal ddydd Gwener.
Yn ôl y gyfraith yng Nghymru, rhaid i weithleoedd gymryd pob cam rhesymol i gydymffurfio â’r ddyletswydd cadw pellter corfforol o 2m er mwyn diogelu gweithwyr ac ymwelwyr rhag y coronafeirws. Yn gyffredinol, mae gweithleoedd wedi bod yn cydymffurfio’n dda ac mae yna enghreifftiau gwych i’w gweld ledled Cymru.
Serch hynny, rydym hefyd yn gwybod bod y coronafeirws yn ffynnu mewn amgylcheddau oer, llaith a’i fod yn goroesi’n hirach o dan do ac yn enwedig ar arwynebau llyfn – her fawr i’r sector prosesu cig. Rydym yn gwybod yn ogystal fod llawer o bobl sy’n gweithio yn y sector hwn ar isafswm cyflog sylfaenol ac mae lefelau tâl salwch statudol yn golygu bod llawer yn teimlo nad oes ganddynt ddewis ond parhau i weithio pan fyddant yn sâl.
Yn gynharach yr wythnos hon, cefais gyfarfod gydag undebau sy’n cynrychioli gweithlu’r ddwy ffatri yn y Gogledd a chytunwyd ar set o gamau ehangach, yn canolbwyntio ar les y gweithwyr. Bydd cyfarfod yn cael ei gynnal yn nes ymlaen yr wythnos hon gyda’r sector, undebau a chyflogwyr i drafod budd-daliadau gweithwyr.
Byddwn hefyd yn datblygu canllawiau ehangach i’r sector, ar y cyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ac asiantaethau eraill, gan gynnwys yr Asiantaeth Safonau Bwyd a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Bydd y cynllun ehangach hwn yn cynnwys:
- Mapio ac asesu risg y diwydiant prosesu cig a bwyd yng Nghymru ac ymweld â rhai safleoedd
- Camau ynghylch y gweithlu
- Camau rheoleiddiol a chyfreithiol gan gynnwys gorfodi
- Cyfathrebu â sector y diwydiant gan gynnwys yr angen am ganllawiau pellach
- Cyfathrebu â’r cyhoedd
Byddwn yn parhau i gadw golwg agos iawn ar yr achosion hyn ac mae’r holl gamau angenrheidiol i ddiogelu’r cyhoedd yn cael eu cymryd, a bydd hynny’n parhau hefyd.