Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Sefydliad Iechyd y Byd bellach wedi datgan bod coronafeirws yn bandemig. Rydym yn parhau i gynllunio a chydlynu ein hymateb i sicrhau bod GIG Cymru mor barod â phosibl i ymateb i'r sefyllfa.

Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi cadarnhau sawl achos newydd dros y deuddydd diwethaf.

Daw hyn â chyfanswm yr achosion sydd wedi'u cadarnhau i 19.

Gallwch weld y cyhoeddiad yma:

Cyhoeddiad y Prif Swyddog Meddygol

O ddydd Iau 12 Mawrth ymlaen, bydd diweddariadau dyddiol am 11.00 yb ar nifer yr achosion sydd wedi'u cadarnhau yn cael eu cyhoeddi ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

ICG

Fel rhan o’n hymateb i coronafeirws (COVID-19), rwyf wedi awdurdodi rhoi gwasanaeth ymgynghori cenedlaethol dros fideo ar waith ar frys, ledled Cymru.

Mae hwn yn wasanaeth dros y we sy’n galluogi ymgynghori fideo rhwng staff y GIG a chleifion. Golyga hyn y bydd cleifion yn gallu parhau i ymneilltuo, tra’n cael gofal gan eu meddyg cyfarwydd, wyneb yn wyneb. Bydd hwn yn gyfrwng gwybodaeth a chyngor allweddol, er mwyn diogelu a chefnogi pobl, gan hefyd leihau’r pwysau ar ein gwasanaethau rheng flaen prysur.

Byddwn yn ystyried, ar y cyd â Gweinidogion Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, ba gamau pellach y gallwn eu cymryd i ddiogelu iechyd pobl Cymru.