Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Rwy’n parhau i weithio’n agos iawn gyda Gweinidogion Iechyd eraill y Deyrnas Unedig i ddiogelu iechyd y cyhoedd. Fe fyddwch yn ymwybodol bod Adrannau Llywodraeth y Deyrnas Unedig (y DU) wedi cydweithio i ddod â phobl yn ôl i’r DU yn llwyddiannus, ac mae’r bobl hyn yn awr wedi’u hynysu mewn lleoliad â chymorth er mwyn iddynt gael sylw ar gyfer unrhyw anghenion meddygol sydd ganddynt, ac i ddiogelu’r cyhoedd.
Rwy’n cael yr wybodaeth ddiweddaraf yn ddyddiol ar weithgareddau yng Nghymru fel y gallaf fod yn sicr bod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (y GIG) yng Nghymru yn barod ar gyfer unrhyw achosion a ddaw. Mae nifer o bobl ar draws Cymru wedi’u hasesu a hyd yma nid oes unrhyw achosion o’r coronafeirws newydd wedi’u canfod yng Nghymru. Mae ffigurau ar y nifer o bobl sydd wedi cael profion yn y DU yn cael eu cyhoeddi yn ddyddiol ar wefan Iechyd y Cyhoedd Lloegr.
Ddoe, fe wnes i lofnodi rheoliadau sy’n dileu’r gofyniad i godi tâl ar ymwelwyr o dramor i gael diagnosis a thriniaeth ar gyfer coronafeirws (2019-nCoV). Dylai teithwyr o Wuhan neu o dalaith Hubei aros yn eu cartref ac osgoi cysylltiad â phobl eraill am 14 diwrnod, hyd yn oed os nad oes ganddynt symptomau, oherwydd y risg uwch o’r ardal honno. Dylai teithwyr o ardaloedd eraill Tsieina (ond nid Macao na Hong Kong) sy’n datblygu symptomau fel y ffliw, hyd yn oed os nad ydynt yn ddifrifol, (gall y symptomau hyn gynnwys twymyn, peswch, neu anawsterau anadlu) o fewn 14 diwrnod i ddychwelyd, aros yn eu cartref ac osgoi cysylltiad â phobl eraill, a ffonio Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47 neu ffonio 111 os yw’r rhif ar gael yn yr ardal.
Mae’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn cynghori yn erbyn teithiau nad ydynt yn hanfodol i Tsieina (ond nid Hong Kong a Macao) a phob taith i dalaith Hubei oherwydd yr achosion parhaus o’r coronafeirws newydd. Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys rhifau cyswllt i gael cymorth, ar gael ar wefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad.
Er nad oes unrhyw achosion yng Nghymru eto, mae angen i bob un ohonom wneud ein rhan a gallwn helpu drwy ddilyn y camau syml a ganlyn i atal lledaenu unrhyw firws anadlol: ei ddal, ei daflu, ei ddifa, a golchi ein dwylo. Mae ymgyrch ar y gweill i godi ymwybyddiaeth ynghylch y neges hon.
Byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf yn ysgrifenedig i Aelodau’r Cynulliad bob dydd Mawrth, ac yn amlach os oes angen.