Lee Waters, Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd
Rwyf wedi penderfynu dileu’r diogelwch sy’n cael ei roi drwy hysbysiad 'TR111' i’r coridor ar gyfer ffordd liniaru'r M4. Mae hynny’n golygu nad oes angen i’r awdurdodau lleol ymgynghori â Llywodraeth Cymru ynglŷn â datblygiadau cynllunio arfaethedig yn yr ardal.
Mae hysbysiad TR111 yn diogelu coridor ar gyfer llwybr priffordd newydd arfaethedig. Mae'n golygu ei bod yn ofynnol i awdurdodau lleol roi gwybod i Lywodraeth Cymru am geisiadau cynllunio o fewn 67m i’r naill ochr a'r llall o'r llwybr a ffefrir.
Mae TR111 wedi bod yn ei le i'r de o Gasnewydd ers 1995. Fe'i cadwyd ar ôl i'r Prif Weinidog benderfynu peidio â bwrw ymlaen â Phrosiect yr M4 ac mae'n cael ei ddileu ar ôl i adroddiad terfynol Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru gael ei gyhoeddi.
Mae dileu'r diogelwch a roddir o dan yr hysbysiad TR111 hwn yn golygu y gallai rhagor o gyfleoedd godi i barhau â’r gwaith o ddiogelu dyfodol Gwastadeddau Gwent ac mae’n dangos ein bod yn parhau’n ymrwymedig i ddiogelu bioamrywiaeth a lleihau ôl troed carbon ein rhwydwaith trafnidiaeth.