Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip; a Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Ebrill 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn ddiweddar, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i ddechrau ymgyrch recriwtio i benodi Aelod Anweithredol newydd o Fwrdd Corff Llais y Dinesydd dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru, a elwir yn Llais Cymru. 

Mae Bwrdd Llais yn atebol am sicrhau bod Llais yn arfer ei swyddogaethau deddfwriaethol yn effeithiol ac mewn ffordd briodol. Mae'n atebol hefyd i Weinidogion Cymru am y ffordd y mae Llais yn gweithredu yn unol â'i lythyr cylch gwaith Gweinidogol.

Mae'r swydd wag wedi'i hysbysebu o 24 Mawrth 2025, a'r dyddiad cau yw 21 Ebrill 2025.

Y gobaith yw y bydd penodiad yn cael ei wneud yn nhymor yr hydref 2025 am gyfnod o 4 blynedd. 

Y gydnabyddiaeth ariannol ar gyfer aelodau Bwrdd Llais yw £198 y diwrnod. Disgwylir i aelodau ymrwymo 4 diwrnod y mis, sy'n cynnwys mynd i gyfarfodydd Bwrdd, cyfarfodydd pwyllgor a gweithgareddau eraill fel y cytunwyd gyda Chadeirydd Llais. Caniateir dyrannu diwrnodau tâl ychwanegol i Aelodau sy'n Cadeirio is-bwyllgorau'r Bwrdd. 

Gwneir y penodiad yn unol â'r Cod Llywodraethu ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus (Saesneg yn Unig). Gwneir pob penodiad i Fwrdd Llais ar sail teilyngdod yn dilyn proses agored, gystadleuol. Nid yw gweithgarwch gwleidyddol yn chwarae unrhyw ran yn y broses ddethol.