Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething MS, Y Gweinidog Iechyd a Chymdeithasol Gwasanaethau

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwyf yn gwneud y datganiad hwn yn sgil y pryder a'r diddordeb cyhoeddus eang ynghylch caffael cyfarpar diogelu personol (PPE) ledled y Deyrnas Unedig.

Mae dyfarnu contractau coronafeirws, yn enwedig ar gyfer darparu PPE, wedi bod yn fater o bwys cyhoeddus sylweddol ers dechrau pandemig COVID-19, ac mae hynny'n hollol briodol. Mae GIG Cymru wedi ymateb yn effeithiol i heriau'r pandemig, gan gydbwyso'r angen i sicrhau gwasanaethau hanfodol ar fyrder a chynnal prosesau cadarn sydd wedi sicrhau gwerth am arian, diogelwch defnyddwyr a chydymffurfio â rheoliadau caffael.

Ers mis Mawrth 2020, mae dros 451 miliwn o eitemau o PPE wedi'u dosbarthu i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Rydym yn parhau i fod â chyflenwad sefydlog o PPE i ddiwallu anghenion ein gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r mwyafrif helaeth o'r PPE a ddosbarthwyd wedi'i sicrhau'n uniongyrchol gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, gyda phob contract yn ddarostyngedig i lywodraethiant cadarn. Mae hyn yn cynnwys craffu ychwanegol gan Grŵp Llywodraethiant Ariannol ac ynddo uwch gynrychiolwyr o faes archwilio, cyllid, gwrth-dwyll, y gyfraith a risg. Yn ogystal, caiff pob contract dros £1m ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru yn unol â gofynion Deddf GIG Cymru 2006.

Cyhoeddir pob contract dros drothwy Caffael yr UE yng nghofrestr gyhoeddus yr UE – Tenders Electronic Daily.

Ein blaenoriaeth nawr yw cynnal sefydlogrwydd y sefyllfa a gwerth am arian ar PPE yn fwy hirdymor, ac mae gan fusnesau Cymru ran bwysig i'w chwarae o ran cryfhau cadernid ein cadwyni cyflenwi PPE. Mae cynlluniau caffael PPE GIG Cymru yn cyfuno cynhyrchu lleol â chyflenwad rhyngwladol.

Gall pobl Cymru fod yn sicr ynghylch uniondeb a llwyddiant ein prosesau caffael PPE.