Carl Sargeant, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol
Cynhaliwyd yr 21ain Gynhadledd Partïon Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar y Newid yn yr Hinsawdd (COP21) ym Mharis rhwng 30 Tachwedd a 12 Rhagfyr. Cafodd yr uwchgynhadledd ei disgrifio fel ein cyfle olaf i sicrhau cytundeb rhyngwladol i gyfyngu ar y newid yn yr hinsawdd byd-eang i ddwy radd Celsius. Bydd effeithiau unrhyw beth mwy na hynny yn ôl Panel Rhynglywodraethol y Cenhedloedd Unedig ar y Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) yn fygythiad i ddynoliaeth a gallai arwain at newid hinsawdd di-droi'n ôl. Oherwydd ei bwysigrwydd, roedd COP21 ar raddfa ddigynsail o fawr, gydag 20,000 o gynrychiolwyr swyddogol, 195 o lywodraethau a bron i 150 o arweinwyr y byd yn bresennol.
Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn nodi ein hymrwymiad i arwain ar newid hinsawdd a thrwy wneud hynny, yn cyfrannu at gytundeb byd-eang, gyda Chymru yn dangos esiampl i daleithiau a rhanbarthau eraill. Yn unol â hyn, mynychais COP21 rhwng 2 ac 8 Rhagfyr i gyfrannu fel rhan o ddirprwyaeth y DU, i adeiladu ar fomentwm sylweddol gwaith y Llywodraethau Taleithiol a Rhanbarthol ac ychwanegu at yr ymdrech aruthrol i sicrhau cytundeb. Roeddwn hefyd wedi amlygu’r gwaith rydym yn ei wneud yma yng Nghymru.
Am y tro cyntaf, cafodd rôl hanfodol llywodraethau is-genedlaethol – yr haenau o lywodraeth o dan y genedl-wladwriaeth - ei chydnabod trwy eu cynnwys yn nhrafodaethau ffurfiol yr uwchgynhadledd, gan gynnwys diwrnod penodol i gynrychiolwyr is-genedlaethol. Ar gyfer Cymru, mae hyn yn dilyn dros 10 mlynedd o waith a fu’n greiddiol i fudiad y Llywodraethau Taleithiol a Rhanbarthol. Fel Is-Lywyddion y Rhwydwaith rhyngwladol o Lywodraethau Rhanbarthol dros Ddatblygu Cynaliadwy (nrg4SD), mae gennym rôl allweddol wrth ddod â phartneriaid ynghyd, sbarduno cydweithredu a chynrychioli'r rôl arweiniol allweddol y mae Llywodraethau Taleithiol a Rhanbarthol eisoes yn ei chwarae ar lefel fyd-eang. Gyda'n gilydd, rydym yn gallu sbarduno, dangos cyrhaeddiad ac arweiniad a chyflawni ar raddfa sy'n gwneud rôl y Llywodraethau Taleithiol a Rhanbarthol yn hanfodol i weithredu dros yr hinsawdd. Er enghraifft, mae Cymru a Llywodraethau Taleithiol a Rhanbarthol eraill wedi gwneud ymrwymiad uchelgeisiol i liniaru newid hinsoddol, hynny drwy’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Arweinwyr Is-genedlaethol ar yr Hinsawdd Fyd-eang (y CM o dan 2 fel y’i gelwir), sy'n cynnwys 65 o awdurdodaethau o 20 o wledydd a phum cyfandir sydd ar y cyd yn cynrychioli mwy na $17.9 triliwn o GDP a 588 miliwn o bobl - mwy na'r Unol Daleithiau. Yn ogystal, rydym rhyngom fel Llywodraethau Taleithiol a Rhanbarthol wedi addunedu i leihau mwy o allyriadau na’r holl allyriadau y mae Tsieina’n eu cynhyrchu mewn blwyddyn.
Yn COP21, roeddem yn un o’r llofnodwyr a sefydlodd y fenter RegionsAdapt, sy'n canolbwyntio ar y camau addasu y gallwn eu cymryd fel Llywodraethau Taleithiol a Rhanbarthol ac sy'n ategu ein hymrwymiadau rhyngwladol .
Yn ogystal â thanlinellu bod gweithio ar y lefel daleithiol a rhanbarthol yn gallu arwain at weithredu ar raddfa fyd-eang, sy’n chwalu’r myth na allwn ni yng Nghymru effeithio ar bethau ar lefel fyd-eang, mae’r enghreifftiau hyn yn dangos y dystiolaeth gynyddol sy’n awgrymu bod y gwaith a wneir ar y lefel hon yn fwy effeithiol ac yn gallu cael ei wneud yn gynt.
Roedd yn anrhydedd cael fy gwahodd i gyfarfod preifat gyda Ban Ki-moon a grŵp bychan o Lywodraethau Taleithiol a Rhanbarthol eraill sydd yn cael eu cydnabod fel arweinwyr byd-eang. Cynhaliwyd y cyfarfod i gydnabod yr arweiniad y mae’r llywodraethau yn ei roi i’r byd ac i drafod sut y gellir gwneud mwy. Yn ystod y cyfarfod hwn, dywedodd Ban Ki-moon bod ein heffaith gyfunol yn newid yr amodau. Mae’r ffaith bod Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig wedi rhoi o’i amser yn ystod y gynhadledd bwysicaf ers degawdau i siarad â grŵp dethol o Lywodraethau Taleithiol a Rhanbarthol yn tanlinellu'r effaith allweddol fyd-eang y mae Cymru a'n partneriaid yn ei chael.
Yn ogystal â thynnu sylw at effaith gyfunol y Llywodraethau Taleithiol a Rhanbarthol, cefais siarad am y gwaith sy'n cael ei wneud yma yng Nghymru. Yn ogystal â disgrifio llwyddiannau Cymru mewn meysydd megis gwastraff ac arbed ynni, tynnais sylw hefyd at ein deddfwriaeth arloesol, fel Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, y Ddeddf Cynllunio a Bil yr Amgylchedd. Gyda chymaint o wladwriaethau, rhanbarthau a busnesau’n bresennol, roeddwn hefyd yn awyddus i ddysgu o brofiadau pobl eraill ac felly trefnais gyfres o gyfarfodydd gyda Llywodraethau Taleithiol a Rhanbarthol allweddol eraill fel De Awstralia, Quebec a California. Hefyd, fodd bynnag, o ystyried y rôl bwysig a chwaraewyd gan y sector preifat yn COP21 a'r alwad gan fusnes am gytundeb uchelgeisiol, cynhaliais gyfarfodydd dwyochrog hefyd gyda Banc Buddsoddi Ewrop a Chyngor Busnes y Byd ar Ddatblygu Cynaliadwy.
Ddydd Llun 7 Rhagfyr, yng Nghynulliad Cyffredinol Cynghrair y Taleithiau a Rhanbarthau, lansiais y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhyngwladol hanesyddol ar weithredu ar sail natur dros yr hinsawdd. Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi datblygu’r Memorandwm hwn, sy'n seiliedig ar y gwaith polisi yr ydym wedi'i wneud wrth ddatblygu Bil yr Amgylchedd ac sy’n cefnogi confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Fiolegol a’r UNFCC. Yn ogystal â Chymru, llofnodwyd y Memorandwm gan bump o lywodraethau blaenllaw eraill COP21 (sef Catalonia, Gwlad y Basg, Manitoba, Sao Paulo a Quebec).
Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn ymrwymo’r Llywodraethau Taleithiol a Rhanbarthol sy’n ei lofnodi i sicrhau bod gweithredu ar sail natur yn elfen bwysig o unrhyw weithredu dros yr hinsawdd, hynny’n ogystal â gweithredu i liniaru ac addasu. Mae hynny’n golygu y bydd yn adeiladu ar y memoranda rhyngwladol allweddol eraill a lofnodwyd gan Gymru (Compact y Taleithiau a’r Rhanbarthau, MC o dan 2 a'r fenter RegionsAdapt). Wrth fynd â’r Memorandwm hwn yn ei flaen, rydym wedi ychwanegu ymhellach at ein record ar weithredu rhyngwladol a’n nod i fod yn Gymru gyfrifol fyd-eang.
Mae'r cytundeb byd-eang ar yr hinsawdd a lofnodwyd ym Mharis yn golygu ein bod wedi cymryd cam sylweddol ymlaen, gyda phob gwlad yn ymrwymo i weithredu gyda'i gilydd i frwydro yn erbyn y newid yn yr hinsawdd, gyda Llywodraethau Taleithiol a Rhanbarthol fel Llywodraeth Cymru yn chwarae rôl hanfodol yn y gwaith. Felly, mae'n fargen hanesyddol a phwysig sy'n gosod cyfeiriad clir at ddyfodol cynaliadwy, gan ddangos bod y newid i economi lân a chymdeithas garbon isel yn awr yn digwydd trwy’r byd, yn anochel ac yn ddi-droi’n ôl. Yng Nghymru, trwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, y Ddeddf Cynllunio a Bil yr Amgylchedd, mae’r gwaith i sicrhau newid i ddyfodol carbon isel eisoes yn rhan ganolog o’n fframwaith cyfreithiol. Wrth wneud hynny, rydym yn gosod llwybr buddsoddi clir wrth weithredu er mwyn sicrhau ein bod yn lleihau'r risgiau sy'n gysylltiedig â hinsawdd sy’n newid a'u heffaith ar y rhai mwyaf bregus.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.