Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Hoffwn hysbysu Aelodau o’r datblygiadau diweddaraf parthed penodi Comisiynydd y Gymraeg (“y Comisiynydd”).
Ar 1 Mehefin, gosodais gerbron y Cynulliad Reoliadau Comisiynydd y Gymraeg (Penodi) 2011 sy’n gosod allan manylion y broses ar gyfer penodi’r Comisiynydd. Mae copïau dwyieithog o’r rheoliadau a’r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig ynghlwm wrth y datganiad hwn.
Mae’r rheoliadau yn gwneud darpariaeth ynghylch aelodaeth y panel dethol a fydd yn gyfrifol am gyfweld ymgeiswyr a gwneud argymhellion i Brif Weinidog Cymru ynghylch y penodiad.
Pan fu’r Cynulliad yn craffu ar Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (“y Mesur”), mynegwyd dymuniad gan Aelodau’r Cynulliad i fod yn rhan o’r broses benodi. Yn unol â hynny, mae’r rheoliadau yn darparu bydd y panel dethol yn cynnwys: Aelod Cynulliad a enwebir gan un o bwyllgorau’r Cynulliad; aelod o staff Llywodraeth Cymru; asesydd annibynnol a pherson sydd â phrofiad o hybu defnydd o'r Gymraeg a/neu iaith arall.
Bydd y broses benodi yn seiliedig ar egwyddorion sydd wedi’u sefydlu dros amser, sef tryloywder a didueddrwydd, gyda phenodiad ar sail teilyngdod. Mae’r rheoliadau yn gosod dyletswydd ar Brif Weinidog Cymru, wrth benodi'r Comisiynydd, i ddilyn egwyddorion cyfrifoldeb Gweinidogion; teilyngdod; craffu annibynnol; cyfle cyfartal; uniondeb; didwylledd a thryloywder; a chymesuredd gan gymryd i ystyriaeth y disgrifiad o'r egwyddorion hynny yng Nghod Ymarfer y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus ar gyfer Penodiadau gan Weinidogion i Gyrff Cyhoeddus.
O ystyried y cyd-destun ar gyfer gwaith y Comisiynydd a’r achos y bydd yn eiriolwr drosto, mae’n bwysig bod gan y Comisiynydd y sgiliau ieithyddol sydd eu hangen i gyflawni ei ddyletswyddau yn effeithiol. O dan y rheoliadau hyn rhaid bod Prif Weinidog Cymru wedi ei fodloni bod gan y person wybodaeth ddigonol o’r Gymraeg a hyfedredd digonol ynddi i arfer swyddogaethau’r Comisiynydd. I’r perwyl hwn mae’r rheoliadau yn ei gwneud hi’n ofynnol i’r panel dethol asesu gwybodaeth pob ymgeisydd o'r Gymraeg a'i hyfedredd ynddi, a chynnwys yr asesiad yn ei argymhellion i Brif Weinidog Cymru. Bydd yr asesiad hwn o gymorth i roi’r sicrwydd y mae gofyn i Brif Weinidog Cymru ei chael er mwyn iddo deimlo’n fodlon bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu arfer ei swyddogaethau’n effeithiol.
Gallaf gyhoeddi ein bod yn anelu i hysbysebu swydd y Comisiynydd ym mis Gorffennaf gyda’r bwriad o wneud cyhoeddiad parthed yr ymgeisydd llwyddiannus yn yr hydref. Rwy’n awyddus i benodi’r Comisiynydd cyn gynted â phosib fel ei fod yn cael cyfrannu at y gwaith pwysig sydd i’w wneud – gan gynnwys yr angen i sicrhau ein bod yn symud yn gyflym o’r drefn bresennol o gynlluniau iaith o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 i’r drefn newydd o safonau iaith a gyflwynir o dan y Mesur. Bydd penodiad cynnar hefyd yn caniatáu i’r Comisiynydd gael mewnbwn i’r broses o sefydlu ei swyddfa – mater sydd eisoes yn destun paratoadau yn sgil trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
Bydd cyfle i drafod y reoliadau hyn yn y Cyfarfod Llawn, sydd wedi’i amserlennu ar gyfer 28 Mehefin. Yn y cyfamser, edrychaf ymlaen at gydweithio gydag Aelodau’r Cynulliad i benodi Comisiynydd yr Iaith Gymraeg cyn gynted â phosib ac i gefnogi’r Comisiynydd wrth iddo fynd i’r afael â’r rôl allweddol hon o sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i ffynnu, sydd ynddo’i hun yn amcan pwysig gan Lywodraeth Cymru.