Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae llwyddiant y GIG yn dibynnu ar weithlu sy’n ymateb i anghenion iechyd a llesiant pobl Cymru ac sy’n gallu darparu gofal o ansawdd uchel nawr ac yn y dyfodol. Mewn sawl ffordd, mae’r GIG yn dioddef oherwydd ei lwyddiant ei hun.
Mae datblygiadau mewn ymchwil, ynghyd â chynnydd technolegol, yn golygu bod pobl yn byw’n hwy ac yn dod drwy glefydau a fyddai wedi’u lladd yn y gorffennol. O ganlyniad, mae mwy o alw nag erioed o’r blaen ar y gwasanaeth iechyd. Mae hyn yn golygu ei bod yn bwysicach fyth i sicrhau y gall gweithlu’r GIG gadw ochr yn ochr â’r newidiadau y mae eu hangen, a’u bod yn magu’r sgiliau, yr wybodaeth a’r profiad angenrheidiol i ddarparu gwasanaethau cynaliadwy.
Mae poblogaeth Cymru yn heneiddio, a bellach mae mwy o bobl hŷn yn byw yng Nghymru nag o blant. Mae disgwyl i’r tueddiad hwn barhau, gyda chynnydd o 50% yn nifer o bobl 65 oed a throsodd rhwng 2012 a 2037 a nifer y bobl 85 oed yn mwy na dyblu.
Bydd gan hyn oblygiadau sylweddol i’r ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i symud gofal yn agosach at gartrefi pobl drwy sicrhau y caiff mwy o wasanaethau cymunedol eu datblygu, gyda’r nod o gadw pobl allan o’r ysbyty ac mor annibynnol â phosibl.
Bydd hyn yn gofyn am newid sylfaenol yn y ffordd y caiff gwasanaethau eu cynllunio a’u darparu a bydd yn cyflwyno heriau yn y ffordd rydyn ni’n addysgu ac yn hyfforddi’r gweithlu i ddarparu gofal nawr ac yn y dyfodol.
Mae gweithlu’r GIG wedi cael hyfforddiant manwl ond mae’n rhaid i ni fanteisio ar yr ystod anferthol o sgiliau sydd ym mhob rhan o’r gweithlu gofal iechyd i ganfod ffyrdd o alluogi pobl i wneud eu cyfraniad gorau posibl. Mae hyn yn golygu gweithio ar draws ffiniau proffesiynol, gan gydnabod a gwerthfawrogi’r cyfraniad gan bob unigolyn i’r GIG, gan chwilio am ffyrdd o symleiddio gwasanaethau er budd cleifion.
Fel rhan o’r broses honno, rwy’n cyhoeddi pecyn o £80m heddiw i gefnogi ystod o raglenni addysg a hyfforddi ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan gynnwys bydwragedd, ffisiotherapyddion a therapyddion galwedigaethol.
Mae’r cynnydd yn nifer y lleoedd hyfforddi yn 2015-16 yn cynnwys:
- Nyrsio – 230 o leoedd ychwanegol, sef cynnydd o 22% o’i gymharu â 2014-15;
- Hyfforddiant parafeddygol – 58 o leoedd ychwanegol, sef cynnydd o 161%;
- Therapyddion galwedigaethol – 23 o leoedd ychwanegol, sef cynnydd o 26%;
- Ffisiotherapi – 25 o leoedd ychwanegol, sef cynnydd o 26%;
- Radiograffeg diagnostig – 19 o leoedd ychwanegol, sef cynnydd o 26%;
- Therapi iaith a lleferydd – saith o leoedd ychwanegol, sef cynnydd o 19%;
- Gwyddonwyr clinigol – naw o leoedd ychwanegol, sef cynnydd o 52%;
- Hylenwyr a thechnegwyr deintyddol – naw o leoedd ychwanegol, sef cynnydd o 41%.
Bydd y lleoedd hyfforddi ychwanegol hyn yn galluogi’r GIG i ddatblygu modelau gofal cymunedol drwy sicrhau bod ystod eang o weithwyr iechyd proffesiynol yn cydweithio er budd eu cleifion.