Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith
Ym mis Hydref 2016, rhoddais wybod i’r Aelodau fy mod yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch sefydlu Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru, sef un o brif ymrwymiadau ein rhaglen lywodraethu, Symud Cymru Ymlaen. Bwriedir i’r Comisiwn helpu i greu strategaeth fuddsoddi fwy hirdymor sy’n fwy seiliedig ar wybodaeth, a hynny drwy ddarparu cyngor annibynnol ac arbenigol i ni ar yr anghenion a’r blaenoriaethau o ran y seilwaith strategol.
Ochr yn ochr â’n hymgynghoriad cyhoeddus a ddaeth i ben ym mis Ionawr, cynhaliodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ymchwiliad i’r camau i sefydlu’r Comisiwn.
Heddiw, rwy’n falch o ymateb i argymhellion y Pwyllgor, ac o gyhoeddi adroddiad sy’n crynhoi’r adborth a ddaeth i law yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus, ac yn ymateb iddo.
Rwy’n ddiolchgar am y safbwyntiau craff a buddiol a fynegwyd gan y cyhoedd a’r Pwyllgor. Mae’r rhain wedi helpu i lywio ein hystyriaethau o ran y ffordd y dylai’r Comisiwn weithredu. Yn awr, rwy’n bwriadu cynnal ymarfer penodiadau cyhoeddus i benodi cadeirydd ac aelodau’r Comisiwn yn gynnar yn yr hydref er mwyn sefydlu’r Comisiwn erbyn diwedd y flwyddyn.
Mae’r adroddiad am yr ymgynghoriad ar gael ar y rhyngrwyd yn.