Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Tachwedd 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (NICW) yw corff anstatudol Llywodraeth Cymru ar gyfer cynghori Gweinidogion Cymru ar faterion seilwaith. Ers haf 2022 mae'r Comisiwn, dan gadeiryddiaeth Dr David Clubb, wedi datblygu rhaglen waith yn dilyn cylch gwaith a osodwyd gan Weinidogion Cymru. 

Roedd y rhaglen hon yn cynnwys tri phrosiect gwahanol, y cyntaf ar ynni adnewyddadwy a gynhyrchodd adroddiad a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru yn hydref 2023, cyhoeddwyd yr ail adroddiad ar lifogydd ar 17 Hydref 2024.  Mae'r drydedd ffrwd waith ar gyfathrebu newid hinsawdd yn parhau ar hyn o bryd ac mae disgwyl iddi gael ei chwblhau yn hydref 2025. 

Er mwyn i NICW gwblhau ei raglen waith bresennol, rwy'n ymestyn penodiadau'r Cadeirydd, y Dirprwy Gadeirydd (Dr Jenifer Baxter) a'r Comisiynwyr (Helen Armstrong, Stephen Brooks, Aleena Khan, Eluned Parrott, Eurgain Powell a Nick Tune) hyd ddiwedd mis Rhagfyr 2025. 

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru dderbyn adroddiad adolygu ar NICW erbyn diwedd 2024. Rhagwelir y bydd y ddogfen hon yn archwilio aelodaeth a thelerau presennol y Comisiwn, i mi ystyried dyfodol y sefydliad ar gyfer tymor nesaf y Senedd sy’n dechrau yn 2026.