Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar ôl inni gynnal ymgynghoriad cyhoeddus llawn ac ar ôl i'r Cynulliad graffu ar y mater, gallaf gadarnhau y bydd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru yn cael ei sefydlu yn y lle cyntaf yn gorff anstatudol annibynnol i gynghori Gweinidogion Cymru. Ei brif ddiben fydd dadansoddi, cynnig cyngor a gwneud argymhellion ar anghenion Cymru yn yr hirdymor o ran seilwaith economaidd ac amgylcheddol dros gyfnod o 5-30 mlynedd.

Bydd 10-12 o gomisiynwyr yn aelodau o'r Comisiwn, gan gynnwys y Cadeirydd; a byddant i gyd yn cael eu penodi ar sail y profiad a'r arbenigedd sydd ganddynt, a hynny drwy broses penodiadau cyhoeddus. Bydd y broses penodiadau cyhoeddus ar gyfer cadeirydd ac aelodau'r Comisiwn yn dechrau yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd ac amgaeaf gopi o'r hysbyseb er mwyn i'r Aelodau gael ei rannu.  

Rydym yn chwilio am unigolion sydd â phrofiad o arwain yn strategol ar lefelau uchaf llywodraeth, y byd academaidd neu'r byd busnes mewn un neu fwy o’r sectorau sy’n gysylltiedig  â seilwaith economaidd a/neu seilwaith amgylcheddol (megis ynni, trafnidiaeth, gwastraff, llifogydd, cyfathrebu digidol) neu mewn maes perthynol (megis economeg, cynllunio, cyllid ar gyfer prosiectau/seilwaith, dylunio, peirianneg, technoleg ac arloesi).

Bydd y Comisiwn wedi cael ei sefydlu'n llawn erbyn haf 2018. Byddaf yn mynd ati i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau pan gyrhaeddir cerrig milltir pwysig yn y broses penodiadau cyhoeddus.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.