Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru
Heddiw ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf, rwyf yn cyhoeddi gwybodaeth am ail gam y Comisiwn Cymunedau Cymraeg. Cyhoeddwyd y bwriad i sefydlu Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn ôl yn 2022, er mwyn deall yn well yr heriau sy’n wynebu’r Gymraeg fel iaith gymunedol.
Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf mae’r Comisiwn Cymunedau Cymraeg wedi bod yn edrych ar sefyllfa’r Gymraeg mewn ardaloedd sydd â dwysedd uwch o siaradwyr Cymraeg. Mae’r Comisiwn bellach wedi cwblhau cam cyntaf ei waith ac mae’n cyhoeddi ei adroddiad terfynol ac yn cyflwyno argymhellion i Lywodraeth Cymru heddiw.
Hoffwn ddiolch i’r Comisiwn am ei waith ac am gyflwyno adroddiad manwl a thrylwyr. Mae’r Comisiwn yn amlygu’r heriau amrywiol sy’n wynebu’n cymunedau Cymraeg dwysedd uwch ac yn cynnig camau posib i fynd i’r afael â hwy. Edrychaf ymlaen at ddarllen yr adroddiad a byddaf yn ymateb yn swyddogol iddo maes o law.
Mae’r Gymraeg yn perthyn i Gymru gyfan, ac yn wir yn cael ei siarad y tu allan i Gymru hefyd, a bydd gwaith y Comisiwn yn digwydd yng nghyd-destun cynaliadwyedd y Gymraeg lle bynnag y caiff ei siarad.
Mae cryfhau seiliau’r Gymraeg fel iaith gymdeithasol ffyniannus yn hanfodol ar gyfer cynnal a chynyddu defnydd ohoni ym mhob agwedd ar fywyd. Mae hyn yn ganolog i weledigaeth Cymraeg 2050: miliwn o siaradwyr.
Mae sawl ardal nad oedd yn rhan o gylch gorchwyl y Comisiwn yn ystod Cam 1 wedi gweld cynnydd o ran niferoedd a chanrannau siaradwyr Cymraeg dros y degawdau diwethaf a hynny yn bennaf o ganlyniad i dwf mewn addysg cyfrwng Cymraeg. Ond mae angen cynyddu’r cyfleoedd yno i bobl gaffael a defnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r ysgol hefyd. Yma ym Mhontypridd sydd yn gymuned o’r fath, rydym wedi gweld brwdfrydedd wrth i bobl ddod ynghyd i baratoi at ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â Rhondda Cynon Taf.
Felly, nod ail gam y Comisiwn fydd edrych yn fanwl ar sefyllfa’r Gymraeg mewn ardaloedd sydd â dwysedd canolig neu is o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru a thu hwnt ac ystyried ffactorau allweddol ar gyfer cynnal a sicrhau twf ein hiaith.
Bydd ail gam y Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn cael ei gadeirio gan Dr Simon Brooks. Bydd yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones yn is-gadeirydd. Rwyf yn falch o gyhoeddi enwau aelodau eraill y Comisiwn sef:
- Kate Windsor-Brown
- Malachy Edwards
- Dr Jon Gower
- Dr Gwennan Higham
- Ian Gwyn Hughes
- Dr Rhian Hodges
- Elin Pinnell
- Daniel Tiplady
Dymunaf y gorau i’r Comisiwn wrth iddo gychwyn ar y gwaith pwysig hwn.
Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau. Os bydd aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn falch o wneud hynny.