Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mai 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’r Datganiad hwn yn rhoi’r manylion diweddaraf am waith Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru.

Mae’r Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru, (y Comisiwn), o dan gadeiryddiaeth yr Athro Andrew Davies, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg, yn parhau i wrando a chasglu tystiolaeth gan unigolion a sefydliadau allweddol.
Daeth llawer o sylwadau buddiol i law yn dilyn y cais am dystiolaeth. Rhoddir tystiolaeth uniongyrchol i’r Comisiwn mewn cyfarfodydd misol a thrwy gyfarfodydd unigol a drefnir rhwng aelodau’r Comisiwn a’r Ysgrifenyddiaeth. 

Mae’r Comisiwn wedi dechrau pwyso a mesur y dystiolaeth a bydd yn cyflwyno adroddiad drafft imi ym mis Medi.