Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Chwefror 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 7 Hydref cyhoeddais fy mod wedi gofyn i'r Athro Andrew Davies  ailgynnull Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru ymhen chwech mis er mwyn adolygu’r camau sydd wedi’u cymryd i roi ei argymhellion ar waith.

Rydw i wedi ailbenodi’r Athro Davies a phump o aelodau gwreiddiol y Comisiwn, sef:

  • Y Fonesig Pauline Green, Llywydd y Gynghrair Gydweithredol Ryngwladol 
  • David Jenkins OBE, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan a Chadeirydd Canolfan Cydweithredol Cymru. 
  • Robin Murray, Economegydd diwydiannol ac amgylcheddol
  • Dr Ben Reynolds, Cyfarwyddwr Trilein
  • Syr Paul Williams OBE, CStJ, DL, Cyn Brif Weithredwr GIG Cymru
Ni fydd y ddau aelod arall a oedd yn rhan o’r Comisiwn yn wreiddiol yn ailafael yn eu cyfrifoldebau yn sgil ymrwymiadau eraill sydd ganddynt.  

Bydd y Comisiwn yn ailymgynnull ar 27 Chwefror. Disgwylir y bydd ei adroddiad ar gynnydd yn cael ei gyhoeddi yn gynnar yn yr haf.

Yn ogystal, ac ar y cyd â'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, rydw i wedi comisiynu gwaith i edrych ar sut y gallwn gefnogi awdurdodau lleol sy’n dymuno datblygu modelau cydweithredol a chydfuddiannol er mwyn cyflenwi gwasanaethau mewn meysydd penodol. Bydd y gwaith hwn yn dechrau edrych ar y cyfleoedd a nodir yn adroddiad y Comisiwn. Bydd hefyd yn adeiladu ar y themâu a nodwyd yn y Papur Gwyn Diwygio Llywodraeth Leol: Grym i Bobl Leol.

Canolfan Cydweithredol Cymru sy’n arwain y gwaith hwn. Keith Edwards, cyn Gyfarwyddwr Sefydliad Tai Siartredig Cymru a Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid Cymru, sy’n gyfrifol am y gwaith. Mae Keith yn dwyn ynghyd sylwadau rhanddeiliaid allweddol, yn pennu’r posibiliadau o ran  gwasanaethau cydfuddiannol ac yn nodi unrhyw syniadau penodol ar gyfer symud y gwaith hwn ymlaen yn lleol. Bydd y canfyddiadau yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru ar ffurf adroddiad yn ddiweddarach eleni.