Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Medi 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Bydd cyfarfod cyntaf y Comisiwn Bevan ar ei newydd wedd yn cael ei gynnal heddiw.

Sefydlwyd y Comisiwn Bevan yn 2008 i sicrhau bod y GIG yng Nghymru yn cadw at yr egwyddorion sylfaenol a osodwyd gan Aneurin Bevan ym 1948.  Dros y chwe mlynedd ddiwethaf, mae gwaith y Comisiwn wedi ychwanegu gwerth sylweddol at waith Llywodraeth Cymru a GIG Cymru, gan gynnwys datblygu egwyddorion Comisiwn Bevan ac yn fwy diweddar, y syniad o ofal iechyd darbodus.

Yn gynharach eleni, gofynnais i Gadeirydd y Comisiwn, yr Athro Syr Mansel Aylward, adolygu’r rhaglen waith a’r aelodaeth er mwyn sicrhau bod Comisiwn Bevan yn y sefyllfa orau bosibl i gynghori Llywodraeth Cymru a GIG Cymru hefyd ynghylch y canlynol:

  • Sut gall y gwasanaeth iechyd barhau i ymateb i gyni parhaus;
  • Cadw’n driw i egwyddorion sylfaenol Aneurin Bevan;
  • Mabwysiadu gofal iechyd darbodus sy’n rhoi Cymru ar flaen mudiad rhyngwladol i sicrhau gwerth am arian wrth ddarparu gofal iechyd.

Yn dilyn proses o ‘ddatgan diddordeb’, cefais gyngor Syr Mansel ynghylch adnewyddu aelodaeth y Comisiwn a bellach, rwyf wedi penodi 22 o aelodau newydd i fynd â’r gwaith pwysig hwn yn ei flaen.

Rwy’n falch iawn bod cymaint o arbenigwyr sy’n enwog ar hyd a lled y byd, arweinwyr profiadol o GIG Cymru a chynrychiolwyr cyhoeddus wedi mynegi diddordeb ac wedi cytuno i ymuno â’r Comisiwn.  Maen nhw i gyd yn rhannu’r un nod sef gwella canlyniadau iechyd i bobl Cymru.

Mae Comisiwn Bevan wedi’i sefydlu i roi cyngor annibynnol.  O fewn y cylch gorchwyl eang a amlinellir uchod, bydd yn penderfynu ar ei raglen waith derfynol bob blwyddyn ac yn cyhoeddi’r rhaglen ar ei wefan.

Byddaf yn ysgrifennu at y Cadeirydd ar ran Llywodraeth Cymru o leiaf unwaith y flwyddyn ac yn amlinellu’r gwaith yr hoffwn weld yn cael ei wneud.  Gellir gwneud cynigion eraill i’r Comisiwn trwy fynd i’w gwefan neu yn eu digwyddiadau ymgysylltu fydd yn cael eu cynnal trwy gydol y flwyddyn.


Aelodau Comisiwn Bevan

  • Nygaire Bevan - aelod o'r bwrdd ar gyfer y Cyngor Gofal Cymru a hen nith i Aneurin Bevan, crëwr y GIG.
  • Professor Bim Bhowmick - Clinigol Ymgynghorydd emeritws
  • Dr Anthony Lawson Calland MBE - is-gadeirydd o'r Grŵp Cynghori Ymchwil Iechyd Awdurdod Cyfrinachedd
  • Professor Dame Carol Black - Cyfarwyddwr Cenedlaethol Iechyd a Gwaith yn yr Adran Gwaith a Phensiynau a Chadeirydd i’r Academi  Colegau Meddygol Brenhinol
  • Sir Ian Carruthers OBE - Prif Weithredwr, Awdurdod Iechyd Strategol y De Orllewin
  • Dr Clare Gerada - Cadeirydd y Cyngor y Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu
  • Mary Cowern - cyfarwyddwr, Gofal Arthritis Cymru
  • Ruth Dineen – cyd-gyfarwyddwr, Cyd-gynhyrchu Cymru
  • Professor Trevor Jones - Cadeirydd anweithredol o Fwrdd y Cyfarwyddwyr, Simbec Research
  • Lt General Louis Lillywhite CB MBE MFOM MHIM FRCP (Glasg) FRCGP – cyn Llawfeddyg Cyffredinol y Lluoedd Arfog y DU
  • Ann Lloyd - cyn Gyfarwyddwr Iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru a Phrif Swyddog Gweithredol GIG Cymru
  • Juliet Luporini - Cyfarwyddwr, Is-gadeirydd, Gwella Busnes a Chyfarwyddwr Zana Ltd
  • Professor Ewan MacDonald – sylfaenydd y Grŵp Bywydau Gweithio Iach
  • Chris Martin – cyn Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a’r Chydffederasiwn y GIG yng Nghymru
  • Professor Sir Michael Marmott – Prif athro Epidemioleg ac Iechyd y Cyhoedd a Chyfarwyddwr Sefydliad  Ecwiti Iechyd UCL
  • Professor Andrew Morris - Prif athro Meddygaeth, Cyfarwyddwr Sefydliad y Gwyddorau Iechyd a Gwybodeg, ac Is-Egwyddor Gwyddoniaeth Data, Prifysgol Caeredin.
  • Professor Sir Anthony Newman-Taylor - Gennad Llywydd dros Iechyd am y Coleg Imperial a Gyfarwyddwr Ymchwil a Datblygu am y Sefydliad Cenedlaethol y Galon a'r Ysgyfaint 
  • Dr Helen Patterson - Prif Weithredwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
  • Professor Phil Routledge – Prif athro Ffarmacoleg Clinigol,Prif Ysgol  Caerdydd 
  • Fran Targett - Cyfarwyddwr, Cyngor ar Bopeth Cymru
  • Sir Paul Williams - Cyfarwyddwr Anweithredol Cyfoeth Naturiol Cymru a Chadeirydd y Pwyllgor Cydnabyddiaeth a'r Grŵp Cynghori Trosianno
  • John Wyn Owen - Cadeirydd, Athrofa Prifysgol Cymru

Nid yw aelodau Comisiwn Bevan yn cael cydnabyddiaeth ariannol.