Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Rwy'n falch o gadarnhau penodiad dau aelod arall o'r Bwrdd ar gyfer y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn dilyn proses penodiadau cyhoeddus agored. Gwnaed y penodiadau yn unol â'r Cod Llywodraethu ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus.
Yr ymgeiswyr llwyddiannus yw Aaqil Ahmed a Jeffrey Greenidge. Bydd y penodiadau'n para am dair blynedd gydag Aaqil a Jeff yn dechrau eu penodiad ar 1 Medi 2024.
Yn dilyn proses benodi gystadleuol gyda dros 30 o ymgeiswyr, rwy'n hynod falch ein bod wedi gallu penodi ymgeiswyr o safon uchel gydag ystod eang o brofiad sy'n gweithredu mewn swyddogaethau gweithredol ac anweithredol. Bydd penodiad Jeff ac Aaqil hefyd yn sicrhau bod y Comisiwn yn gallu tynnu ar safbwyntiau ein holl gymunedau yng Nghymru gan gynnwys cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Rwy'n ffyddiog y bydd Jeff ac Aaqil yn ychwanegu gwerth aruthrol at Fwrdd y Comisiwn i gefnogi'r Cadeirydd, yr Athro Fonesig Julie Lydon.
Mae gyrfa addysgu Jeff wedi cwmpasu addysg gynradd ac uwchradd, addysg i oedolion ac addysg ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe. Ar hyn o bryd, mae Jeff yn Gyfarwyddwr Amrywiaeth a Llywodraethu yng Nghymdeithas y Colegau ac mae wedi cyflawni nifer o rolau anweithredol mewn sefydliadau addysg a chymunedol ar draws y sector addysg bellach ac addysg oedolion yng Nghymru.
Mae Aaqil Ahmed yn gyn-Bennaeth Crefydd a Moeseg yn Channel 4 a'r BBC. Mae Aaqil yn Gyfarwyddwyr Anweithredol yn yr Awdurdod Safonau Hysbysebu, y rheoleiddwr y cyfryngau a chyfathrebu OFCOM, Stiwdios Ffilm Elstree a Ffilm Cymru. Ar hyn o bryd mae'n aelod o Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ac yn Athro'r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bolton.
Hoffwn ddiolch i'r holl ymgeiswyr am eu diddordeb drwy gydol y broses hon a llongyfarch y rhai a ddewiswyd ar gyfer cyfweliad. Edrychaf ymlaen at weld y cyfraniad effeithiol y bydd y Bwrdd yn ei wneud i ddarparu sector addysg drydyddol ac ymchwil mwy ymgysylltiol, rhagorol a theg yng Nghymru.