Neidio i'r prif gynnwy

Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r wythnos hon yn garreg filltir allweddol i'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, stiward cenedlaethol cyntaf erioed Cymru ar gyfer y sector addysg drydyddol ac ymchwil cyfan. 

Bydd y Comisiwn yn gyfrifol am gyllido a goruchwylio'r sector addysg drydyddol ac am ansawdd y sector. Bydd yn ystyried y system gyfan, gan lunio strwythur a system newydd a fydd yn cefnogi ein dysgwyr yn well gydol eu bywydau gyda'r wybodaeth a'r sgiliau i lwyddo. Bydd hefyd yn sicrhau darparwyr cryf, annibynnol ac amrywiol, gan gyfrannu'n sylweddol at lesiant a ffyniant cenedlaethol. 

Rwy'n falch o roi gwybod i'r Aelodau fy mod i wedi gwneud Gorchymyn Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Darfodol a Throsiannol) 2024 ddoe. Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer diddymu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) ac yn galluogi'r Comisiwn i ddod yn weithredol ar 1 Awst 2024. Hoffwn ddiolch yn bersonol i CCAUC am eu hymroddiad i'r sector addysg uwch am dros 30 mlynedd. Mae eu hymrwymiad, eu cefnogaeth a'u harweiniad yn ystod y cyfnod hwn wedi bod yn hanfodol i sefydliadau ledled Cymru. 

Mae Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 yn darparu ar gyfer system gofrestru a threfniadau rheoleiddio cysylltiedig a fydd yn darparu'r fframwaith ar gyfer goruchwylio darparwyr addysg uwch yng Nghymru yn rheoleiddiol. 

Mae'r Gorchymyn yn gwneud darpariaeth i sicrhau y gall y Comisiwn barhau i weithredu'r drefn reoleiddio bresennol, fel y darperir ar ei chyfer o dan Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015, wrth i'r system gofrestru gael ei sefydlu, er mwyn sicrhau parhad y gwaith rheoleiddio a phontio llyfn i'r sector addysg drydyddol.

Rwyf hefyd wedi gwneud y rheoliadau y pleidleisiwyd arnynt yn y Cyfarfod Llawn ddoe, sef Rheoliadau Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Diwygiadau Canlyniadol) 2024 a Rheoliadau Llywodraethu Ddigidol (Cyrff Cymreig) 2024. 

Wrth i ni edrych tua'r dyfodol, mae ein blaenoriaethau ar gyfer y sector addysg drydyddol yn glir, ac edrychaf ymlaen at weld y Comisiwn yn ymateb i'm Datganiad o Flaenoriaethau yn ddiweddarach eleni.