Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Hydref 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy'n falch o hysbysu'r Senedd fy mod ddoe, mewn cydweithrediad ag Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth y DU dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, wedi lansio ar y cyd Gomisiwn Annibynnol i adolygu'r sector dŵr a'r gwaith o'i reoleiddio. Hwn fydd adolygiad mwyaf y diwydiant ers iddo gael ei breifateiddio a bydd yn ystyried polisi a gwaith rheoleiddio yn y sector dŵr ar ddwy ochr y ffin.  

Ni allai'r adolygiad hanfodol hwn ddod ar adeg mwy tyngedfennol i'n hamgylchedd dŵr a'n diwydiant dŵr. Mae'n enghraifft wych o agwedd newydd ein dwy lywodraeth o safbwynt cydweithio trawsffiniol ar fater sy'n effeithio ar bob un ohonom fel defnyddwyr, buddsoddwyr ac fel stiwardiaid y byd naturiol. Mae ein hafonydd a'n dyfrffyrdd yn croesi ffiniau ac mae dŵr yn bwnc cymhleth a hynod sensitif yn y setliad datganoli yng Nghymru, a bydd angen ei ystyried wrth ddatblygu trefniadau ar gyfer y dyfodol. 

Bydd cyn Ddirprwy Lywodraethwr Banc Lloegr, Jon Cunliffe, yn cadeirio'r Comisiwn. Bydd y Comisiwn yn tynnu ar banel o arbenigwyr o bob rhan o'r sectorau rheoleiddiol, amgylcheddol, iechyd, peirianneg, cwsmeriaid, buddsoddwyr ac economaidd, yn ogystal ag o ymgynghoriad cyhoeddus cynhwysfawr.  Bydd y Comisiwn yn adrodd yn ôl y flwyddyn nesaf gydag argymhellion i'r Llywodraeth ar sut i fynd i'r afael â phroblemau yn y sector dŵr i adfer ein hafonydd, ein llynnoedd a'n moroedd i fod yn iach, cwrdd â heriau'r dyfodol a sbarduno twf economaidd gwyrdd. Bydd argymhellion y Comisiwn yn sail i ddeddfwriaeth bellach i ddenu buddsoddiad hirdymor a glanhau ein dyfroedd am byth. 

Mae gennym flaenoriaethau clir ar gyfer diwygio ac ymdeimlad a rennir o'r gwaith y bydd ei angen ar draws cyfundrefnau polisi a rheoleiddiol y ddwy wlad i wneud i'r newid hwn ddigwydd. Bydd angen consensws ar gyfer gweithredu, ac mae hyn yn cynnwys atebion unigryw yng Nghymru ac yn Lloegr lle bo'u hangen i sicrhau sector a fframwaith dŵr gwydn sy'n ddiogel ac wedi'i ailosod a fydd yn gweithio yn y tymor hir. Bydd y Comisiwn yn ystyried sefyllfa unigryw y diwydiant a'r dull polisi yng Nghymru, a bydd yn cynnwys cynrychiolydd penodol o'r sector yng Nghymru ac yn ceisio barn arbenigwyr Cymru i sicrhau bod safbwynt Cymru yn cael ei ystyried ar y lefel uchaf. 

Bydd y gwaith hanfodol hwn yn ategu'r ystod eang o waith ar ansawdd dŵr sydd eisoes yn mynd rhagddo mewn meysydd eraill, gan gynnwys adolygiadau o'r rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol a gwasgaru deunyddiau organig ar dir. Edrychaf ymlaen at dderbyn adroddiad y Comisiwn ac at ein cydweithrediad parhaus â'n cymheiriaid yn Lloegr ar y mater hanfodol hwn.