Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth
Mae'r hinsawdd economaidd bresennol yn cael effaith sylweddol ar ddiwydiannau ledled Cymru a'r DU, ac mae'r cyfryngau print yn profi cyfnod arbennig o anodd.
Daw'r cyhoeddiad diweddar gan Reach Plc am golli swyddi o ganlyniad i newidiadau i'r ffordd y mae'r sefydliad yn gweithredu i fynd i'r afael â'r heriau y mae'r diwydiant yn eu hwynebu. Mae Reach Plc wedi dweud y bydd y newidiadau hyn yn helpu i gynnal ei deitlau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol wrth iddo barhau i ddarparu sefydlogrwydd i'r sefydliad ehangach.
Yn anffodus, yng Nghymru, mae hyn yn golygu bod nifer fach o swyddi golygyddol mewn perygl o gael eu dileu.
Mae Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi'r rôl amhrisiadwy y mae newyddiaduraeth yn ei chwarae wrth hysbysu ac ymgysylltu â chymunedau lleol ledled Cymru ac wrth gefnogi democratiaeth yng Nghymru. Mae'n siomedig felly gweld colli mwy o swyddi newyddiadurol o deitlau Cymreig Reach Plc.
Mae fy swyddogion yn parhau i drafod â chynrychiolwyr Reach Plc, ar lefel un i un a thrwy Weithgor Newyddiaduraeth Budd Cyhoeddus Cymru, i barhau i nodi a thrafod y cymorth posibl y gallwn ei ddarparu i helpu i sicrhau bod gan Gymru sector cyfryngau print cynaliadwy sy'n addas i'r diben.