Rebecca Evans, Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd
Pan ddaeth y Rheoliadau i rym, gwnaeth John Griffiths AC, y Gweinidog Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy ar y pryd, ymrwymiad i adolygu'r ddeddfwriaeth sy’n bodoli. Gofynnais i Dr Ruth Lysons, MA MSc VETMB MRCVS gynnal yr adolygiad, ynghyd â Dr Nick Coulson, MA MBA PhD VetMB MRCVS a aeth ati i adolygu asesiad Dr Lysons. Mae'r ddau yn ymgynghorwyr annibynnol.
Hefyd, mae aelodau o Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru wedi craffu ar yr adolygiad ac wedi derbyn y canfyddiadau.
Gwnaeth yr adolygiad ystyried yr holl dystiolaeth wyddonol ynghylch y goblygiadau lles i gathod a chŵn sy’n deillio o ddefnyddio coleri trydan. Gwnaeth hefyd ystyried tystiolaeth Cymdeithas Gwneuthurwyr Coleri Trydanol, y trydydd sector ac unigolion eraill a gyflwynodd dystiolaeth. Gwnaed hynny er mwyn cymharu manteision posibl ac effeithiolrwydd coleri trydanol yn erbyn y pryderon am les anifeiliaid. Drwy hynny roedd modd dod i gasgliadau ynghylch a oedd y manteision yn drech na’r costau o safbwynt lles anifeiliaid.
Daeth Dr Lysons i'r casgliad y byddai’r gost o ran lles anifeiliaid yn debygol o fod yn drech na’r manteision o ddefnyddio coleri trydanol fel dyfeisiadau hyfforddi, a hynny am eu bod yn debygol o achosi poen, am fod opsiynau eraill ar gael ac am fod posibilrwydd mawr i bobl eu cam-ddefnyddio.
Yn ogystal, gwnaeth yr adolygiad ystyried systemau ffensys electronig a gwelwyd bod y costau o ran lles anifeiliaid, yn achos cŵn a chathod fel ei gilydd, yn debygol o fod yn fwy na'r manteision a fydda'n deillio o ffensys o'r fath. Mae ceisiadau wedi dod i law i ddefnyddio systemau ffensys electronig ar gyfer cathod am fod damweiniau ar y ffordd yn achosi pryder mawr ac am mai nifer cyfyngedig o opsiynau eraill sy'n bodoli ar gyfer cadw cathod o fewn lle cyfyngedig. Er hynny, mae ffensys trydanol ar gyfer cathod yn peri pryderon amlwg o ran lles, ac ychydig iawn o dystiolaeth sydd wedi'i chyhoeddi er mwyn asesu eu defnydd a'u manteision. Hefyd, o safbwynt y coleri trydanol atal cyfarth sy'n rheoli cyfarth gormodol, daethpwyd i'r casgliad bod y costau o ran lles anifeiliaid yn gorbwyso manteisio coleri o'r fath. Roedd y penderfyniad hwnnw'n seiliedig ar y ffaith nad ydynt yn effeithiol iawn a bod dulliau eraill yn hawdd eu cael.
Yn seiliedig ar y dystiolaeth hon, rwyf yn fodlon cadw'r polisi sy'n bodoli ar hyn o bryd yng Nghymru ac rwyf am ddweud na fydd Llywodraeth Cymru'n ystyried diwygio'r ddeddfwriaeth bresennol ar hyn o bryd.