Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Ebrill 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Hysbysais Aelodau mewn datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ar 23 Ionawr 2013 fod Coleg Harlech/CAG Gogledd Cymru yn wynebu anawsterau ariannol.  

Yr adeg honno, yn unol â pharagraff 16 o'r Memorandwm Ariannol, rhoddodd Gweinidogion Cymru wybod i gorff llywodraethu a phwyllgor archwilio Coleg Harlech/CAG Gogledd Cymru fod pryderon difrifol am sefyllfa ariannol y Coleg a gofynnwyd am gynllun adfer ar frys.

Mae fy swyddogion wedi bod yn cydweithio'n agos â'r coleg ar broses adfer, ac er bod cynnydd wedi'i wneud, mae pryderon yn parhau ynghylch rhai agweddau ar sefyllfa ariannol y coleg a’r trefniadau i ddiogelu arian cyhoeddus.  

Ystyriaeth allweddol drwy gydol y broses oedd diogelu’r ddarpariaeth i ddysgwyr a lleihau'r effaith ar staff gymaint ag sy'n ymarferol bosibl.  
   
I gynnal y momentwm, mae fy swyddogion wedi ysgrifennu at y coleg i ofyn am ragor o wybodaeth i ategu'r cynllun adfer. Mae'r corff llywodraethu wedi ailddatgan eu dymuniad i uno gyda CAG De Cymru er mwyn cryfhau eu sefyllfa, ac mae trafodaethau wedi ailddechrau i'w perwyl hwn.

Mae Llywodraeth Cymru'n aros am gadarnhad ffurfiol o'u penderfyniad, a bydd yn cefnogi'r trefniadau uno os yw cynllun adfer diwygiedig y coleg yn gallu dangos ei bod mewn sefyllfa ddigon cryf i wneud hynny. Os yw'n briodol, caiff y broses uno ei chynllunio i fynd i'r afael ag unrhyw faterion pellach a nodir er mwyn sicrhau na fydd CAG De Cymru dan anfantais. Byddwn yn disgwyl i goleg Cymru gyfan gael ei sefydlu erbyn 31 Rhagfyr 2013 fan hwyraf.

Bydd fy swyddogion yn parhau i weithio gyda’r coleg i'w helpu drwy'r broses. Fel y nodais eisoes, rydym yn canolbwyntio ar ddiogelu'r ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr Coleg Harlech/CAG Gogledd Cymru.

Byddaf yn hysbysu’r Aelodau am unrhyw ddatblygiadau wrth iddynt ddod i’r amlwg.