Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden AS, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Chwefror 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Hoffwn hysbysu'r Aelodau heddiw o'r camau nesaf o ran cofrestru'r gweithlu gofal plant a gwaith chwarae yn broffesiynol yn dilyn yr ymgynghoriad a gynhaliwyd rhwng Tachwedd 2023 a Mawrth 2024. 

Aethom ati ym mis Mehefin 2024 i gyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad. Canfu'r ymgynghoriad ddiffyg consensws o blaid cofrestru proffesiynol; roedd llai na hanner yr ymatebwyr yn barod i groesawu'r egwyddor o gofrestr ar gyfer y gweithlu.   At hyn, roedd y rhai a oedd yn gefnogol yn mynegi eu safbwynt yn ofalus iawn, ac yn nodi y byddai'n ddibynnol ar beth fyddai'r gost i weithwyr a phwy fyddai'n cael eu cynnwys ar y gofrestr. Codwyd pryderon hefyd ynghylch amseru'r cynnig i greu cofrestr proffesiynol ar gyfer y gweithlu. 

Mae fy swyddogion wedi gwneud gwaith pellach i ymchwilio i'r materion a'r pryderon a godwyd er mwyn penderfynu ar y ffordd orau ymlaen. Rhoddwyd ystyriaeth ddyledus hefyd i ddau adolygiad polisi sydd ar y gweill (y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir a Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010). Bydd cryn waith ymgysylltu gyda’r sector yn cael ei wneud ar gyfer y ddau adolygiad, a gallai fod i hyn oblygiadau o ran dyfodol y sector gofal plant a chwarae.

Mae'r ymarfer hwn wedi sefydlu'r ffaith nad nawr yw'r amser iawn i ddatblygu cofrestr o'r gweithlu gofal plant a gwaith chwarae, o ystyried y pwysau sydd ar y sector a'r gofynion ganddo ar hyn o bryd.  Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar weithio'n agos gyda'r sector i archwilio sut y gallwn ei wneud yn fwy cynaliadwy ar y naill law, gan sicrhau gweithlu digon cymwys ar y llaw arall.  Mae'r cynnydd yng nghyfradd y Cynnig Gofal Plant fesul awr a gyhoeddwyd yn ddiweddar, a gwneud rhyddhad ardrethi i fusnesau bach yn drefniant parhaol, yn arddangos ein hymrwymiad o hyd i gefnogi’r sector. 

Felly, rwyf wedi penderfynu oedi o ran y gwaith ar gofrestru proffesiynol ar hyn o bryd. Unwaith y byddwn yn gwybod canlyniad gwaith polisi ehangach, byddwn yn ailedrych ar y sefyllfa. 

Rydym wedi gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid y sector i ymchwilio i gwestiwn cofrestru proffesiynol dros nifer o flynyddoedd. Rwyf am ddiolch o galon i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r broses hon. Mae wedi rhoi dealltwriaeth allweddol inni o safbwyntiau'r sector ar gofrestru'r gweithlu, gan gynnwys y meysydd y maent yn poeni fwyaf amdanynt, a beth fyddai hyd a lled cofrestr yn ddelfrydol, yn eu barn nhw. 

Yn ystod y cyfnod o saib, byddwn yn parhau â'n gwaith i wella canfyddiadau o'r sector er mwyn symud ymlaen gydag un o'r buddion y byddem am eu gweld yn sgil cael cofrestr o'r gweithlu – cydnabyddiaeth i statws proffesiynol y gweithlu. Byddwn yn parhau i hyrwyddo maes gwaith gofal plant a chwarae drwy lwybrau fel Gofalwn Cymru, ein fforwm gwaith teg sydd newydd ei sefydlu ym maes Gofal Plant a Gwaith Chwarae, a gweithio gyda Gofal Cymdeithasol Cymru i ddatblygu eu rhaglen Llwybrau at Ofal Plant.

Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i gefnogi'r gweithlu gofal plant a gwaith chwarae i ddatblygu, i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac i ffynnu. Y rhai sy'n gweithio yn y sector hwn yw ein hased pwysicaf wrth sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael y dechrau gorau mewn bywyd a'r cyfle i gyflawni eu potensial.