Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Er mwyn darparu gofal cymdeithasol yn effeithiol, mae’n rhaid cael gweithlu gofal cymdeithasol o ansawdd uchel. Dyna pam y bydd yr holl weithwyr gofal cartref yn y maes gofal cymdeithasol yn cael eu cofrestru o 2020 ymlaen, a’r holl weithwyr preswyl i oedolion yn cael eu cofrestru o 2022 ymlaen.
Mae Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru), sydd gerbron y Cynulliad ar hyn o bryd, yn gosod system newydd a chynhwysfawr ar gyfer datblygu a rheoleiddio’r gweithlu pwysig hwn, nad yw bob amser yn cael y sylw dyladwy. Bydd hyn yn gofyn am ymrwymiad gan weithwyr unigol, cyflogwyr a rheoleiddwyr.
Ar hyn o bryd, mae'n ofynnol i weithwyr cymdeithasol, myfyrwyr gwaith cymdeithasol, rheolwyr gofal preswyl i blant, rheolwyr gofal preswyl i oedolion a rheolwyr gofal cartref gofrestru er mwyn cael gweithio yn y sector. Mae Deddf Safonau Gofal 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i weithwyr cymdeithasol gofrestru. Mae’n ofynnol i weithwyr eraill gofrestru drwy reoliadau o dan y Ddeddf honno.
Mae Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) yn parhau â’r trefniant sefydledig hwn. Mae’r gofyniad sydd ar weithwyr cymdeithasol i gofrestru wedi’i gynnwys ar wyneb y Bil, a phan gaiff y Ddeddf ei rhoi ar waith ym mis Ebrill 2017 bydd rheoliadau’n dod i rym a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i’r grwpiau eraill sydd wedi’u cofrestru ar hyn o bryd gael eu cofrestru. Bydd y broses o gofrestru’r holl weithwyr hyn yn un barhaus rhwng y system bresennol a’r un y bwriedir ei sefydlu drwy Fil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru). Mae’r Bil yn darparu’r modd i’w gwneud yn ofynnol i grwpiau ychwanegol, megis gweithwyr gofal cartref a gweithwyr gofal preswyl i oedolion, gael eu cofrestru drwy reoliadau.
Rwyf wedi esbonio o’r blaen wrth y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol pam fy mod yn dymuno ymestyn y gofyniad i gofrestru i weithwyr gofal cartref a gweithwyr preswyl i oedolion. Mae'r bobl hyn yn gweithio yn rhai o'r gwasanaethau rheng flaen fwyaf anodd a heriol. Mae'r cyhoedd, yn naturiol, yn dymuno cael sicrwydd bod gweithwyr o'r fath yn cael eu hyfforddi'n dda a'u bod yn gymwys i wneud y gwaith. Mae'r gweithwyr yn haeddu'r gydnabyddiaeth, y buddsoddiad yn eu hyfforddiant a'r cymorth gan gyflogwyr a ddaw yn sgil cofrestru, i sicrhau bod ganddynt y sgiliau a'r rhinweddau angenrheidiol i ddarparu gofal cymdeithasol o ansawdd da yn y rolau hyn. Yn gyfnewid am hynny, bydd angen iddynt fodloni profion cyn cael cofrestru.
Rwy’n cydnabod y bydd cofrestru yn gosod gofynion newydd ar sector sydd eisoes dan bwysau. Mae nifer o randdeiliaid wedi dweud y bydd angen inni fod yn ofalus wrth fwrw ymlaen â hyn, rhag ofn i’n hawydd i sicrhau manteision drwy ymestyn y drefn gofrestru arwain at orlwytho’r sector neu ei wneud yn ansefydlog. Gallai bwrw ymlaen yn rhy gyflym gyfyngu ar y cyflenwad o weithwyr gofal mewn sector sy’n tyfu, gan beryglu’r broses o ddarparu gwasanaethau hanfodol.
Bydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn dechrau ar ei waith ym mis Ebrill 2017 a bydd angen iddo gael elfen o sefydlogrwydd er mwyn gallu cyflawni’r gwaith a fydd ganddo’n barod tra’n sefydlu ei swyddogaethau newydd. Bydd angen ymgynghori â’r sector hefyd er mwyn nodi a chytuno ar y cymwysterau y bydd angen i’r gweithlu gofal cartref a gofal preswyl i oedolion eu cael er mwyn cofrestru. Bydd hyn yn gyfle hefyd i ystyried ffi gofrestru briodol sy’n fforddiadwy ac yn gymesur ar gyfer y rhai a gofrestrir.
Rwy’n pennu amserlen estynedig ar gyfer y cofrestru, er mwyn rhoi digon o amser i’r sector baratoi ar gyfer y cam mawr hwn ymlaen. Bydd rhaglen ddatblygu dair blynedd ar gyfer gweithwyr gofal cartref yn cychwyn ym mis Ebrill 2016; bydd y gofrestr yn agor ym mis Ebrill 2018 a bydd rhaid i’r holl weithwyr fod wedi’u cofrestru erbyn mis Ebrill 2020.
Bydd rhaglen ddatblygu dair blynedd debyg yn cael ei sefydlu ar gyfer gweithwyr gofal preswyl i oedolion, gan ddechrau ym mis Ebrill 2018. Bydd y gofrestr yn agor ym mis Ebrill 2020 a bydd y gweithlu wedi’u gofrestru erbyn mis Ebrill 2022.
Mae hwn yn gam mawr ymlaen i weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru, i ansawdd y gofal a ddarperir yng Nghymru ac i’r bobl sy’n byw yma. Rwy'n disgwyl i'r sector ddod ynghyd i gefnogi a hyrwyddo’r agenda hon. Yr agenda bwysig ond uchelgeisiol hon fydd un o’r prif flaenoriaethau o ran y buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i helpu i hyfforddi a datblygu’r gweithlu gofal cymdeithasol.
Bydd Cyngor Gofal Cymru yn sefydlu grŵp llywio traws-sector i sicrhau bod ein huchelgais yn cael ei gwireddu – bydd hwn yn cynnwys cynrychiolwyr y gweithlu a chynrychiolwyr o blith y rhai sy'n derbyn gofal.
Yn y cyfamser, a chyn i’r camau gweithredu a amlinellir yma gael eu rhoi ar waith, byddwn yn gweithio gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru i greu mwy o dryloywder ynglŷn â’r gweithlu gofal cymdeithasol cyn i’r cofrestru gorfodol ddod i rym. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth am y gweithlu a gyflogir gan bob darparwr cofrestredig, gan gynnwys nifer y staff, eu cymwysterau, a’r hyfforddiant a’r datblygiad y maent wedi ymgymryd â hwy. Bydd yr wybodaeth hon am y gweithlu yn dechrau dod ar gael o fis Ebrill 2017 ymlaen.
Mae hon yn rhaglen uchelgeisiol a fydd yn cryfhau'n sylweddol y sicrwydd sydd ar gael i'r cyhoedd, yn ogystal â chryfhau datblygiad proffesiynol yn y maes gofal cymdeithasol. Caiff ei chyflwyno yn unol ag amserlen sy'n sicrhau manteision heb y perygl o ymyrraeth gynnar a allai achosi ansefydlogrwydd mewn gwasanaethau hanfodol.