Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad am y datblygiadau a'r arloesi a fydd ym digwydd ym maes gofal sylfaenol yng Nghymru.

Mae Cymru Iachach yn disgrifio ein gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau gofal iechyd ac mae'r Model Gofal Sylfaenol ar gyfer Cymru yn hanfodol ar gyfer cyflawni ein hamcanion ar gyfer ymarfer cyffredinol.  Rwyf wedi ymrwymo i'r model partneriaeth ar gyfer ymarfer cyffredinol – mae’r wybodaeth sy'n sail inni ddeall demograffeg y gweithlu ac yn helpu i sicrhau cynaliadwyedd ymarfer cyffredinol yn allweddol.

Ar 14 Chwefror, cytunais i roi cyllid tuag at gyflwyno System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu ochr yn ochr ag amrywiaeth o adnoddau i sicrhau cynaliadwyedd y gweithlu gofal sylfaenol a chynigion pellach i sefydlu cofrestr i Gymru gyfan o feddygon locwm mewn ymarfer cyffredinol.

Mae'r System Adrodd Genedlaethol yn darparu adnodd diogel ar y we sydd wedi ei ddatblygu i gasglu'r holl wybodaeth am staff meddygfeydd ymarfer cyffredinol. Mae'r adnodd hwn eisoes yn cael ei ddefnyddio gan feddygfeydd yn Lloegr, lle mae'n cael ei gefnogi gan NHS Digital. Yng Nghymru, gofynnodd Llywodraeth Cymru i Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru gaffael a gweithredu'r System Adrodd Genedlaethol.

Bydd y system hon, a fydd yn fwy effeithlon a chyson, yn cael ei defnyddio yn lle'r dull presennol o adrodd ar ddata o'r fath yng Nghymru er mwyn osgoi'r perygl o amrywiadau yn y data, gan sicrhau eu bod yn fwy dibynadwy. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall mwy am ddemograffeg y gweithlu gofal sylfaenol yng Nghymru, a chynllunio'r gweithlu mewn modd mwy effeithiol.

Yn ogystal â hyn, bydd y System Adrodd Genedlaethol yn darparu'r wybodaeth adnabod angenrheidiol am yr holl feddygon teulu a gweithwyr iechyd proffesiynol a gyflogir mewn meddygfeydd sydd i gael eu cynnwys yn y cynllun indemniad a gefnogir gan y wladwriaeth.

Mae'n galonogol ei bod yn ymddangos y bydd yn debygol y bydd nifer y meddygon a gafodd eu recriwtio yn 2019 i ddechrau eu hyfforddiant arbenigol i feddygon teulu yng Nghymru ar ei uchaf erioed, er bod nifer ein meddygon teulu wedi parhau'n sefydlog gan mwyaf yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Byddaf yn gwneud datganiad pellach ar y mater hwn fis Ebrill.  Er bod hynny'n cadarnhaol, nodir bod nifer y meddygon locwm ym maes ymarfer cyffredinol wedi cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn ers dechrau cadw data amdanynt. Mae angen inni ddeall demograffeg y gweithlu gofal sylfaenol yng Nghymru yn well er mwyn ein helpu i gynllunio'r gweithlu mewn modd mwy effeithiol.

Rwy'n cyflwyno cofrestr arloesol newydd yng Nghymru – sef cofrestr o feddygon locwm i Gymru gyfan.  Bydd hon yn ei gwneud yn bosibl cael mwy o ddealltwriaeth o anghenion y farchnad locwm a'r cymorth y mae'n ei roi ym maes ymarfer cyffredinol – gan ddarparu gwybodaeth inni a fydd yn ein galluogi i ymateb mewn modd priodol.

Rwyf wedi parhau i'w gwneud yn glir fy mod wedi ymrwymo i'r model partneriaeth ar gyfer ymarfer cyffredinol a sut y gallwn fynd ati i gryfhau ei gyfraniad i'r gwaith o ddarparu gofal iechyd yn nes at gartrefi pobl. Gan gydnabod bod defnyddio capasiti staffio dros dro bob amser yn rhan hanfodol o'r gweithlu gofal sylfaenol er mwyn inni allu ymdopi â digwyddiadau annisgwyl megis absenoldeb salwch, neu ddigwyddiadau sydd wedi eu cynllunio megis gwyliau blynyddol neu absenoldeb mamolaeth, rydym yn cyflwyno'r gofrestr hon o feddygon locwm fel cam hanfodol yn y gwaith o strwythuro'r ddarpariaeth o waith fesul sesiwn i gefnogi ein meddygon teulu sy'n gweithio yng Nghymru.  

Er mwyn cael mynediad at y cynllun indemniad, a gefnogir gan y wladwriaeth, sy'n rhoi indemniad i unigolyn os bydd honiad o esgeulustod clinigol yn ei erbyn wrth iddo wneud gwaith y GIG, bydd angen i feddygon locwm ym maes ymarfer cyffredinol fod ar y gofrestr hon.

Yn ystod y tri mis cyntaf pan fydd y gofrestr ar waith, byddwn yn gweithio gyda'n rhanddeiliaid i bennu'r telerau gweithio. Dros gyfnod o amser, rydyn ni'n bwriadu gweithio gyda meddygon locwm sydd ar y gofrestr i ddatblygu cynnig sy'n eu helpu i wireddu eu dyheadau ehangach o ran eu gyrfa ac yn diwallu eu hanghenion datblygu.