Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu’n tiroedd comin ar gyfer cenedlaethau heddiw a’r dyfodol.  Rydym yn arwain y ffordd yn y DU ar ddatblygu cofrestri electronig ar gyfer tiroedd comin a meysydd trefi a phentrefi. Mae'r gwaith hwn yn sail i weithredu Deddf Tiroedd Comin 2006 yn barhaus.

Bydd y gwaith o gaffael cyflenwr i gynllunio'r system a gwaith symud data yn dechrau ym mis Hydref 2018. Mae hyn yn fuddsoddiad sylweddol dros bum mlynedd, gyda'r bwriad o sefydlu'r system erbyn Gwanwyn 2022.

Bydd yr ateb arfaethedig yn trawsnewid y ffordd y mae defnyddwyr yn cael mynediad i'r cofrestrau gan ganiatáu iddynt chwilio ac edrych ar y cofrestrau ar-lein am y tro cyntaf. Bydd hefyd yn cynnig amrywiol fanteision eraill gan gynnwys system rheoli data safonol, prosesau mwy effeithiol a gwybodaeth ar unwaith i gynorthwyo gyda taliadau amaethyddol ac ateb cynnar ac effeithio li unrhyw achos o glefyd anifeiliaid ar dir comin.

Yn ganolog i'r prosiect hwn mae gweithio mewn partneriaeth a chydweithio. Rwy'n ddiolchgar i Awdurdodau Cofrestru Tiroedd Comin ledled Cymru ac aelodau Grŵp Cynghori Deddf Tiroedd Comin 2006 am drafod y prosiect hyd yma. Rwy'n awyddus i hyn barhau wrth inni ddechrau ar y cam pwysig nesaf.

Byddaf yn parhau i roi'r newyddion diweddaraf i Aelodau'r Cynulliad wrth i'r prosiect hwn ddatblygu.