Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

 Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i ddiogelu’n tiroedd comin ar gyfer cenedlaethau heddiw a’r dyfodol. Rydym yn arwain y ffordd yn y DU ar ddatblygu cofrestri electronig ar gyfer tiroedd comin a meysydd trefi a phentrefi.

Mae'r broses gaffael wedi'i chwblhau er mwyn sicrhau cyflenwr a fydd yn ymgymryd â cham nesaf y prosiect, sef adeiladu'r system electronig a mudo'r data. Bu'n broses gystadleuol ac mae'r contract wedi'i ddyfarnu i SCISYS UK Ltd. Mae'r cwmni'n arbenigo mewn cydweithio â sefydliadau cyhoeddus, gan ddatblygu gwasanaethau proffesiynol wedi'u teilwra ac atebion technoleg sy'n mynd i'r afael â phroblemau critigol gan fusnesau. Mae gan SCISYS brofiad sylweddol o gyflawni cymwysiadau geo-ofodol ar gyfer gwahanol gleientiaid o fewn y sector cyhoeddus. Dyma ganlyniad cadarnhaol iawn i'r prosiect o ran sicrhau'r sgiliau a'r arbenigedd sydd eu hangen ar gyfer gwneud y gwaith yma.

Mae'r prosiect yn parhau ar drywydd i'r system fod yn ei lle erbyn gwanwyn 2022. Bydd yr ateb arfaethedig yn trawsnewid y ffordd y mae defnyddwyr yn cael mynediad i'r cofrestri gan ganiatáu iddynt chwilio ac edrych ar y cofrestri ar-lein am y tro cyntaf. Bydd hefyd yn cynnig amrywiol fanteision eraill gan gynnwys system rheoli data safonol, prosesau mwy effeithiol a gwybodaeth ar unwaith i gefnogi cynlluniau rheoli tir y dyfodol ac ymateb cynnar ac effeithiol i unrhyw achos o glefyd anifeiliaid ar dir comin.

Mae cydweithio bellach yn rhan annatod o'r prosiect hwn. Rwy'n ddiolchgar i Awdurdodau Cofrestru Tiroedd Comin ledled Cymru ac aelodau Grŵp Cynghori Deddf Tiroedd Comin 2006 am drafod y prosiect hyd yma. Rwy'n awyddus i hyn barhau wrth inni ddechrau ar y cam pwysig nesaf hwn.

Byddaf yn parhau i roi'r newyddion diweddaraf i Aelodau'r Cynulliad wrth i'r  prosiect arloesol hwn fynd rhagddo.