Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden AS, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Chwefror 2024, rhoddodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd wybod i’r Aelodau mewn Datganiad Ysgrifenedig ein bod yn lansio ymgynghoriad i geisio barn ar y newidiadau arfaethedig i uchafswm y ffi wythnosol ar gyfer gwasanaethau gofal a chymorth amhreswyl i oedolion. 

Heddiw, cyhoeddais y Crynodeb o’r Ymatebion i’r Ymgynghoriad ar Godi Ffioedd am Ofal a Chymorth Amhreswyl: cynyddu’r uchafswm ffi wythnosol a’r Asesiad Effaith Integredig wedi’i ddiweddaru. Gallwch eu gweld yma.

Fel y nodwyd wrth lansio'r ymgynghoriad, roedd angen inni sicrhau bod y cydbwysedd cywir yn cael ei daro rhwng codi incwm ychwanegol ar gyfer yr awdurdodau lleol i’w helpu i fodloni’r pwysau cynyddol sydd arnynt mewn perthynas â chostau, a bod yn deg ac yn fforddiadwy i bobl sy’n talu am y gwasanaethau gofal a chymorth amhreswyl y maent yn eu derbyn. 

Cafodd pryderon eu hamlygu yn yr ymatebion i’r ymgynghoriad ynghylch anghysondebau wrth weithredu’r drefn codi ffioedd ar draws yr awdurdodau lleol ac am degwch y prawf modd ariannol presennol.

Roeddem yn cydnabod bod y cynnig hwn i gynyddu uchafswm y ffi wythnosol yn wyriad oddi wrth ein huchelgais o Wasanaeth Gofal Cenedlaethol ‘am ddim pryd a lle bynnag y bo’i angen’, a dyma ein nod ar gyfer y tymor hwy o hyd. Mae’r nod hwn yn ffurfio elfen bwysig o gam cyntaf y Cynllun Gweithredu Cychwynnol ar gyfer creu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol. 

Wedi ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad a’r effeithiau posibl yn ofalus, rydym wedi penderfynu y bydd tri phrif faes ffocws o ganlyniad i’r ymgynghoriad.

Yn gyntaf, mae Gweinidogion Cymru wedi cytuno i gynnal uchafswm y ffi yn £100 yr wythnos, felly ni fydd unrhyw gynnydd yn cael ei gymhwyso ar hyn o bryd. 

Yn ail, bydd swyddogion yn mynd ati i fynd i’r afael ag anghysondebau wrth weithredu’r drefn codi ffioedd ar draws yr awdurdodau lleol yng Nghymru ac yn ystyried a ellid mabwysiadu dull cydwasanaethau, naill ai ar lefel ranbarthol neu genedlaethol.

Yn olaf, mae’r Gweinidogion wedi cytuno ar ddyraniad o £2.5m o gyllid i’r awdurdodau lleol ar gyfer y flwyddyn hon, a bydd £5m yn cael ei dyrannu y flwyddyn nesaf ac wedi hynny. Mae’r £5m ychwanegol y flwyddyn yn cael ei ddyrannu i adlewyrchu na fydd uchafswm y ffi yn cynyddu ar hyn o bryd. Bydd y dyraniad hwn yn cael ei gynnwys yn y setliad Tai a Llywodraeth Leol ar gyfer 25/26, y mae’r Cabinet wedi cytuno arno bellach, a bydd yn rhan o’r Grant Cynnal Refeniw. 

Byddwn yn gweithio gyda’n rhanddeiliaid i sicrhau bod unrhyw ddatblygiadau yn cael eu rhannu. Hoffem ddiolch i'r rhai a gymerodd yr amser i ymateb i gwestiynau’r ymgynghoriad a rhannu eu barn.