Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dyma ddatganiad ysgrifenedig pellach yn dilyn fy natganiad ysgrifenedig ar 20 Ebrill 2023 a roddodd yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynnig cyflog i staff yr Agenda ar gyfer Newid ar gyfer 2022-23 a 2023-24.
Ddoe, rhoddodd ochr undebau llafur y GIG wybod i Lywodraeth Cymru mai eu penderfyniad cyfunol yw derbyn y cynnig cyflog dwy flynedd a amlinellais yn fy natganiad blaenorol.
Rwy’n falch bod aelodau’r undebau, ar y cyfan, wedi derbyn ein cynnig ac rwy’n ddiolchgar i’n holl undebau am weithio gyda ni mewn partneriaeth gymdeithasol.
Rwyf felly wedi penderfynu gweithredu’r cynnig ar gyfer holl staff yr Agenda ar gyfer Newid yn GIG Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati ar unwaith i ddechrau’r broses ar gyfer gwneud y dyfarniad cyflog fel y bydd gweithwyr yn cael y taliadau cyn gynted ag y bo’n ymarferol.
Ceir elfennau pwysig nad ydynt yn ymwneud â chyflog yn y cynnig sydd wedi’i dderbyn a byddwn ni’n dechrau trafodaethau mewn partneriaeth gymdeithasol i fynd ati i weithredu’r rhain heb oedi. Byddwn ni’n cwrdd ag undebau’r GIG a’r cyflogwyr mewn pwyllgor partneriaeth arferol heddiw pan fyddwn yn dechrau’r drafodaeth hon.
Daeth y cynnig a wnaethom o ganlyniad i negodiadau a oedd yn heriol i bob ochr. Rydym wedi bod yn dryloyw ynglŷn â’r sefyllfa ariannol anodd sy’n wynebu Llywodraeth Cymru heb gyllid ychwanegol gan San Steffan. Bu’n rhaid gwneud penderfyniadau anodd ar draws holl adrannau Llywodraeth Cymru ac o fewn y gyllideb iechyd a gofal er mwyn llunio’r cynnig a wnaethom. Nid yw’r sefyllfa wedi newid a hyd yma nid oes unrhyw arwydd o gyllid ychwanegol gan drysorlys y DU.
Mae dau undeb yn dal i fod mewn anghydfod ynghylch dyfarniad cyflog 2022-23 ac rwy’n cydnabod teimladau cryf aelodau pob undeb, ni waeth a wnaethant bleidleisio i dderbyn y cynnig neu ei wrthod. Gan gynnal y cydgytundeb, byddwn ni’n parhau â thrafodaethau pan allwn ni er mwyn rhoi sylw i bryderon penodol dilys ac osgoi unrhyw weithredu diwydiannol pellach.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo o hyd i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol deirochrog, drwy Fforwm Partneriaeth Cymru, i sicrhau bywydau gweithio gwell i staff y GIG a gwasanaethau cyhoeddus gwell i’n pobl.