Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Wedi i gynnig cyflog uwch 2022-23 gael ei dderbyn o drwch blewyn, gwnaeth pob undeb barhau i ymgyrchu’n weithredol i gefnogi dyheadau gwirioneddol eu haelodau ar gyfer adfer lefelau cyflogau a mynd i’r afael â’r cynnydd mewn costau byw.
Felly, rydym wedi parhau i weithio’n agos mewn partneriaeth â’r undebau iechyd ar gyfer staff yr Agenda ar gyfer Newid sy’n cynnwys gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, nyrsys, staff ambiwlans, porthorion, glanhawyr a staff cefnogi gofal iechyd y GIG ac eraill, gyda’r nod o wneud popeth o fewn ein gallu i fynd i’r afael â’r pryderon hyn. Hoffwn gydnabod ysbryd adeiladol undebau yn y broses hon, gan gynnwys atal camau diwydiannol.
Gallaf gyhoeddi heddiw ein bod wedi cytuno ar becyn terfynol o fesurau ar gyfer 2022-23 a phecyn ar gyfer 2023-24 y bydd yr undebau llafur iechyd yn cynnal pleidlais arnynt ymysg eu haelodau. Bydd y mwyafrif o’r undebau llafur yn argymell derbyn y cynnig. Er ein bod yn siomedig na all pob undeb llafur argymell derbyn y cynnig hwn, rydym yn ddiolchgar iawn am yr agwedd gadarnhaol yn y trafodaethau a arweiniodd at y cynnig gorau a therfynol hwn.
Mae’r cynnig yn godiad sylweddol y tu hwnt i argymhellion y Corff Adolygu Cyflogau ac y tu hwnt i’r cynnig uwch a dderbyniwyd ar gyfer 2022-23.
Ar gyfer 2022-23, daethpwyd i gytundeb ar y cyd yn gynharach eleni a oedd yn rhoi 3% (1.5% ohono’n daliad arian parod anghyfunol ac 1.5% yn gyfunedig mewn cyflogau ac wedi’i ôl-ddyddio i fis Ebrill 2022) ar ben y cynnydd cyfartalog o 4.7% a wnaed eisoes yn dilyn argymhellion y Corff Adolygu Cyflogau.
Mae’r ychwanegiad hwn sydd nawr yn cael ei gynnig yn ychwanegol ar gyfer 2022-23 yn Daliad Adfer GIG untro a bydd yn berthnasol i’r holl staff parhaol a gweithwyr banc ar delerau ac amodau yr Agenda ar gyfer Newid ar sail pro rata. Bydd y taliad hwn ar gyfartaledd yn daliad anghyfunol o 3%.
Ar gyfer 2023-24 y cynnig yw cynnydd cyfunedig cyffredinol o 5% sy’n weithredol o 1 Ebrill 2023 i raddfeydd cyflog yr Agenda ar gyfer Newid. Yn ogystal, rydym yn codi’r ddau bwynt graddfa isaf i gyd-fynd â chyflog uchaf Band 2 sy’n cyfateb i gynnydd o 7.8% ar gyfer 2023-24.
Os derbynnir y cynnig, bydd staff GIG Cymru wedi cael dyfarniad cyfartalog o fwy na 15.7% (11.2% ohono’n gyfunedig mewn cyflogau yn barhaol) dros y 2 flynedd 2022-23 a 2023-24.
Mae’r pecyn hwn yn golygu y bydd y rhai ar waelod Band 5, sy’n cynnwys nyrsys a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill sydd ar ddechrau eu gyrfaoedd yn GIG Cymru, wedi cael cyfanswm codiad cyflog o dros 17% (dros 12% ohono’n gyfunedig) ar gyfer y blynyddoedd ariannol 2022-23 a 2023-24. Mae hyn yn golygu y bydd eu cyflog cychwynnol yn £28,834.
Bydd ein staff yn y GIG sydd â’r cyflogau isaf wedi cael codiad cyflog o fwy na 26% (dros 20% ohono’n gyfunedig) dros 2022-23 a 2023-24. Mae hyn hefyd yn golygu y bydd ein gweithwyr sydd â’r cyflogau isaf yn cael cyflog uwchben cyfradd y cyflog byw gwirioneddol o 1 Ebrill 2023 ymlaen, gyda chyflog cychwynnol o £22,720, sy’n gyfwerth ag £11.39 yr awr.
Ar ben hyn, ceir cynigion pellach o ran yr elfennau heblaw cyflog yn y cynnig gwreiddiol ar gyfer 2022-23 lle rydym wedi mynd ymhellach ar lwfans oriau anghymdeithasol ac wedi cynnwys nifer o fuddion. Nod y buddion hyn fydd gwella bywydau gwaith a chyfleoedd gyrfa gweithwyr iechyd.
Mae’r rhain wedi bod yn negodiadau anodd. Rydym wedi bod yn agored iawn am y sefyllfa ariannol anodd yr ydym ynddi fel Llywodraeth Cymru. Caiff y sefyllfa honno ei chymhlethu ymhellach gan y gyfran fawr o gyllideb Llywodraeth Cymru a ddefnyddir i ariannu’r GIG yng Nghymru a’r gyfran o gyllideb y GIG sy’n talu am gyflogau. Nid oes gennym yr hyblygrwydd sydd gan Lywodraeth y DU o ran arian sydd ar gael a rheolau ariannol caeth.
Bu’n rhaid gwneud dewisiadau anodd i ariannu’r cynnig cyflog hwn ac rydym wedi tynnu ar ein cronfeydd wrth gefn a’n tanwariant o’r llywodraeth drwyddi draw i roi’r cynnig hwn at ei gilydd. Mae defnyddio’r arian hwn i gynyddu cyflogau nawr yn golygu na allwn ei ddefnyddio at ddibenion eraill – ond hyderwn mai dyma’r peth cywir i’w wneud.
Er y byddai cynrychiolwyr yr undebau wedi dymuno codiadau mwy fyth, maent wedi cyrraedd safbwynt lle eu barn broffesiynol yw mai dyma’r cynnig gorau a therfynol y gellir ei negodi â Llywodraeth Cymru.
Rwy’n gobeithio y bydd aelodau’r undebau’n ystyried y cynnig llawn a therfynol yn ofalus ac yn pleidleisio i’w dderbyn. Er y bydd yr undebau llafur iechyd yn cynnal pleidlais ar wahân ymysg eu haelodau, ein dyhead fel Llywodraeth Cymru yw y bydd pob undeb yn derbyn y cynnig fel y gallwn weithredu’r cynnig a dod â’r gweithredu diwydiannol ar gyflogau yn GIG Cymru i ben.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.