Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden AS, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mawrth 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Cymru wedi bod ar flaen y gad o ran hawliau plant yn y Deyrnas Unedig. Cymru oedd y rhan gyntaf o'r Deyrnas Unedig i ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) mewn cyfraith ddomestig, drwy Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. 

Mae adran 5 o'r Mesur yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gymryd y camau priodol i hybu gwybodaeth a dealltwriaeth o'r CCUHP a'i Brotocolau Dewisol ymhlith y cyhoedd. Mae'r ddyletswydd hon yn rhoi effaith i erthygl 42 o'r CCUHP, sef y dylai llywodraethau sicrhau bod y Confensiwn yn hysbys i blant a'u rhieni. Mae hefyd yn galluogi plant i wireddu eu hawliau drwy sicrhau bod gan yr oedolion o'u cwmpas yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth i'w cefnogi.

Rydym eisiau Cymru i bob plentyn. Cymru lle mae pob plentyn yn gwybod bod ganddynt hawliau, yn deall beth mae hyn yn ei olygu a bod y gefnogaeth yno iddynt allu eu harfer. Mae cyflawni hyn yn gofyn am ddiwylliant ac ymrwymiad sy'n parchu hawliau plant, a dros y blynyddoedd rydym wedi cyflawni gwaith arloesol a fydd yn cael effaith hirdymor ar ymwybyddiaeth o hawliau plant ledled Cymru. Mae hyn yn cynnwys:

  • Ehangu 'Cymru Ifanc', gan sicrhau bod gan ein plant a'n pobl ifanc lais ym mholisi, deddfwriaeth a gwaith gweithredu Llywodraeth Cymru.
  • Cymeradwyo a hyrwyddo 'Y Ffordd Gywir', sef dull egwyddorol o ymgorffori hawliau plant mewn polisi ac arferion.
  • Cyhoeddi Cynllun Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar a oedd yn cynnwys datblygu adnoddau penodol i gefnogi ein plant ieuengaf i gael mynediad at eu hawliau.
  • Cynnwys hawliau dynol plant yng nghwricwlwm newydd Cymru.
  • Datblygu cyfres o adnoddau dysgu proffesiynol i hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o'r CCUHP a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau a chefnogi'r cwricwlwm newydd, a fydd yn cael effaith hirdymor a chynaliadwy ar ymwybyddiaeth plant o'u hawliau.
  • Gwella gallu rhieni a gofalwyr i gefnogi hawliau eu plant drwy Magu Plant. Rhowch amser iddo. Mae gwaith ymgysylltu a chyfathrebu helaeth hefyd wedi'i wneud drwy'r ymgyrch i roi terfyn ar gosbi plant yn gorfforol.
  • Darparu hyfforddiant ac adnoddau i ymarferwyr fel y gallant ddysgu plant mewn ffordd sensitif am y gyfraith yng Nghymru sy'n atal cosbi plant yn gorfforol a chynnal eu hawl i fyw yn rhydd rhag trais.
  • Gyda'r Comisiynydd Plant, darparu dull cyson i ni a'n partneriaid o wreiddio hawliau plant yn ein holl waith sy'n effeithio ar blant drwy 'Cymru i bob plentyn'.

Rwy'n falch o gyhoeddi heddiw ffeithlun sy'n nodi rhai o'r gweithgareddau allweddol a wnawn i ymgorffori diwylliant o godi ymwybyddiaeth o hawliau plant ymhlith plant a'r rhai sy'n gweithio ac yn gofalu amdanynt. Byddwn yn ychwanegu at y gweithgareddau hyn ac yn parhau i ddarparu dulliau arloesol a dargedir i godi ymwybyddiaeth o hawliau plant yng Nghymru.