Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Bydd Aelodau'n cofio bod y cynllun addysg i blant sy'n derbyn gofal wedi’i gyhoeddi ym mis Ionawr 2016 - Codi uchelgais a chyrhaeddiad addysgol plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru. Heddiw rydw i wedi cyhoeddi adroddiad cynnydd y camau gweithredu yn y cynllun sydd wedi’u rhoi ar waith.
Mae plant sy'n derbyn gofal yn dod o gefndir o argyfwng teuluol neu deulu'n chwalu. Mae cam-drin neu esgeulustod yn ffactor yn aml. Ni allwn newid eu profiadau personol, ond mae'n rhaid inni weithio'n galetach i liniaru eu heffaith ac i'w helpu nhw i ddatblygu'n oedolion annibynnol â bywydau cyflawn a gwerth chweil. Mae ymchwil yn dangos yn rhy aml o lawer bod disgwyliadau pobl o ran y bobl ifanc hyn yn gostwng dim ond am eu bod yn 'derbyn gofal'. Mae'r diwylliant hwn yn cael effaith negyddol ar eu gallu i gyflawni.
Rydym wedi bod yn eglur erioed bod darparu'r cynllun addysg i blant sy'n derbyn gofal yn gyfrifoldeb sy'n cael ei rannu. Mae gan Lywodraeth Cymru ran ganolog i'w chwarae - gall arwain, hwyluso, cydweithredu a chyflawni, ond ddim ar ei phen ei hun. Mae gan gonsortia addysg, awdurdodau lleol, ysgolion a'r trydydd sector rôl hollbwysig. Rhaid i addysg plant sy'n derbyn gofal fod yn flaenoriaeth i wella lefelau cyrhaeddiad addysgol.
Mae Codi uchelgais a chyrhaeddiad addysgol plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru yn cynnwys 37 o gamau gweithredu i'w cwblhau dros gyfnod o 3 blynedd. O'r rhain, mae 15 wedi'u cyflawni. Mae 10 arall wedi cael eu cyflawni'n rhannol a bydd gwaith yn parhau ar y rhain a'r 12 cam gweithredu sy'n weddill eleni a'r flwyddyn nesaf.
Er mwyn parhau gyda'n strategaeth ar y gwaith, parhau i rannu arfer da a sicrhau rhaglen waith gydlynol a chydweithredol rydym wedi sefydlu Grŵp Strategol Cenedlaethol sy'n cynnwys ymarferwyr allweddol o awdurdodau lleol a chonsortia addysg rhanbarthol ymhlith eraill. Mae'r grŵp hwn wedi cyfarfod bedair gwaith ers mis Mawrth 2016 a bydd yn cyfrannu at weithredu'r cynllun ymhellach.
Rydw i wrth fy modd ein bod wedi bod yn gweithio gyda CASCADE - Prifysgol Caerdydd i ddatblygu cymuned ymarfer ar-lein - ExChange; Gofal ac Addysg! - lle ceir siop un stop o ran gwybodaeth ynghylch gwella deilliannau ar gyfer pawb sy'n ymwneud â phlant a phobl ifanc sydd â phrofiad o dderbyn gofal.
Mae Estyn wedi cwblhau un o'r camau gweithredu yn y cynllun, ac ym mis Gorffennaf y llynedd cyhoeddwyd eu hadroddiad ar arfer da Codi cyrhaeddiad, cyflawniad a dyheadau plant sy'n derbyn gofal a oedd yn cynnwys astudiaethau achos ardderchog yn rhoi llwyfan i waith arloesol sy'n digwydd yn ein hysgolion. Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol ledled Cymru er mwyn deall pa gamau y maent wedi'u cymryd i gefnogi plant sy'n derbyn gofal yn sgil cyhoeddi'r adroddiad.
Mae ein partneriaid yn y trydydd sector hefyd wedi cyfrannu i'n helpu ni i gyflawni rhai o'n hymrwymiadau. Â'n cefnogaeth ni, mae'r Rhwydwaith Maethu wedi cyhoeddi Canllaw Gofalwyr Maeth i Addysg i'w helpu nhw â'u perthynas ag ysgolion, ac mae Adoption UK Cymru wedi cyhoeddi Cael pethau'n iawn i bob plentyn - Canllaw i ysgolion ar weithio gyda phlant wedi'u mabwysiadu a'u teuluoedd. Mae'r egwyddorion yn y canllawiau hyn yr un mor gymwys i blant sy'n derbyn gofal.
Cyn cyhoeddi'r cynllun addysg - drwy'r sefydliadau hyn a Voices from Care Cymru - roeddem wedi dechrau trafodaeth adeiladol iawn gyda phlant sy'n derbyn gofal a rhai a fu'n derbyn gofal yn y gorffennol, gofalwyr maeth a rhieni sydd wedi mabwysiadu plant. Mae eu help a'u cefnogaeth wedi bod yn amhrisiadwy a rhoddodd gryn ddealltwriaeth inni o effaith polisi ac ymarfer ar lefel bersonol. Rydym wedi parhau â'r drafodaeth hon yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Mae plant sy'n derbyn gofal yn dweud wrthym yn eglur iawn nad ydynt eisiau cael eu labelu; dydyn nhw ddim eisiau cael eu trin yn wahanol, maen nhw eisiau cymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar weddill eu bywydau. Mae'r fideo ardderchog hwn i ysgolion a wnaed gan CASCADE yn darparu cipolwg eglur iawn o safbwyntiau a barn rhai plant sy'n derbyn gofal. Mae'r neges yn eglur dros ben. Mae angen i ni, yr oedolion, ddechrau clywed y negeseuon hynny a gweithredu arnynt.
Mae gan blant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal uchelgeisiau a dyheadau a drwy beidio â disgwyl iddynt gyflawni eu potensial yn llawn rydym yn gwneud cam â nhw. Dylai dyheadau ac uchelgais oedolion arwyddocaol ym mywydau plant sy'n derbyn gofal o leiaf gyfateb â rhai'r plentyn. Mae cefnogaeth gref a phriodol - ynghyd â chred lwyr - yn hanfodol os ydym am wneud cynnydd.
Mae fy ymroddiad i'r Grant Datblygu Disgyblion wedi bod yn eglur ac ym mis Mawrth cyhoeddais y byddwn yn ymestyn y Grant i ddarparu cefnogaeth i blant teirblwydd oed yn y Cyfnod Sylfaen sy'n derbyn gofal.
Ym mis Ebrill 2015 rhoddwyd rôl ganolog i gonsortia addysg - yn gweithio gydag ysgolion ac awdurdodau lleol - o ran darparu cefnogaeth gydlynol a chyson i blant sy'n derbyn gofal. Cyflwynwyd trefniadau yn rhannol er mwyn cryfhau ein dealltwriaeth o'r rhwystrau a wynebir ym myd addysg gan blant sy'n derbyn gofal.
Mae'r dull rhanbarthol hwn o weithredu hefyd wedi helpu i ddatblygu ein dealltwriaeth o anghenion plant sydd wedi dioddef trawma, colled, cam-drin, esgeulustod ac sydd wedi profi problemau ag ymlyniad. Gofynnwyd i gonsortia rhanbarthol gyflwyno'u cynlluniau ynghylch sut y bydd plant sy'n derbyn gofal yn cael eu cefnogi yn 2017-18. Byddaf yn disgwyl gweld y trefniadau hyn yn cael eu cryfhau ymhellach - ar sail cynlluniau cyflawni rhanbarthol dilys - i gefnogi plant sy'n derbyn gofal yn well o ran eu haddysg.
Ym maes addysg yn gyffredinol mae angen i ni barhau â'n dull o baratoi plant a phobl ifanc i lwyddo gydol gweddill eu bywydau, nid mewn ystafelloedd arholiad yn unig. Fodd bynnag, roeddwn yn falch bod 23% o blant sy'n derbyn gofal yng Nghymru wedi cyrraedd trothwy Lefel 2 Cynhwysol yng Ngham Allweddol 4 yr haf diwethaf (5 TGAU Gradd A* - C mewn Cymraeg iaith gyntaf neu Saesneg a mathemateg). Mae hyn yn gynnydd o 10 pwynt canran ers 2012. Mae'r bwlch rhyngddynt a'u cyfoedion yn dal yn rhy fawr, ond mae angen i ni ddathlu llwyddiant ni waeth ymhle y mae'n digwydd er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i wneud cynnydd.
Rydw i wedi ymroi i gyfleoedd cyfartal a thegwch o ran darpariaeth mewn addysg, gan sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael ei gynorthwyo i gyflawni ei botensial, ni waeth beth yw ei gefndir na'i amgylchiadau personol.
Mae plant sy'n derbyn gofal yn dweud wrthym yn glir iawn fod angen i ni eu hannog i lwyddo ac mae rhaid i ni sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i'w helpu nhw i gyflawni eu dyheadau a'u huchelgeisiau.