Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y camau yr ydym yn eu cymryd er mwyn gwella perfformiad addysg yn sylweddol ledled Cymru gan ddatblygu’r agenda a bennwyd gennyf ar 2 Chwefror, agenda a gafodd ei hailadrodd ym maniffesto'r Blaid Lafur ar gyfer etholiadau’r Cynulliad.
Mae gennym dystiolaeth PISA, Adroddiad Blynyddol Estyn a'r Adroddiad ar Strwythur Gwasanaethau Addysg yng Nghymru. Mae'r dystiolaeth yn dangos yn glir bod angen codi safonau a gwella perfformiad a bod angen gwneud hynny ar fyrder. Ers mis Chwefror rydym hefyd wedi derbyn yr adroddiad ar Strwythur Gwasanaethau Addysg yng Nghymru yn dilyn gwaith y grŵp gorchwyl a gorffen annibynnol o dan gadeiryddiaeth Viv Thomas. Fe wnes i ymateb i’r adroddiad mewn dadl yn y Siambr heddiw.
- Rydym wedi sefydlu’r Uned Safonau Ysgolion yn fy Adran i gyda’r nod o hoelio sylw ar wella deilliannau. Mae hynny’n cynnwys addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, addysg drwy gyfrwng y Saesneg ac addysg ddwyieithog. Dechreuodd yr Uned ar ei gwaith ddechrau mis Mai o dan arweiniad Brett Pugh, Cyfarwyddwr Addysg Casnewydd, sydd wedi ymuno â ni ar secondiad.
- Mae fy Adran wedi’i threfnu’n ddwy ac mae gan y ddau grŵp ffocws clir – Ysgolion a Phobl Ifanc, a Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes. Mae bellach yn adran sydd â llai o wastraff ac mae ei ffocws yn gliriach o lawer.
- O fis Medi 2011 ymlaen, caiff y Cyfnod Sylfaen, sy'n cyflwyno plant i ddysgu drwy wneud, ei gyflwyno yn ei gyfanrwydd, ond ni fyddwn yn gadael iddo arwain at leihad mewn llythrennedd. Rydym yn mynd i ddechrau gwneud asesiad sylfaenol o anghenion datblygu pob plentyn wrth iddynt ddechrau yn y Cyfnod Sylfaen. Bydd y gwaith hwn hefyd yn digwydd o fis Medi ymlaen. Mae’n waith pwysig oherwydd bydd yr asesiad yn cael ei ddefnyddio i lywio anghenion dysgu'r disgyblion at y dyfodol er mwyn sicrhau eu bod yn cael y budd mwyaf o'u profiadau dysgu.
- Rydym yn llunio prawf darllen cenedlaethol a gaiff ei ddarparu yn y Gymraeg a'r Saesneg. Caiff y prawf ei gynnal yn flynyddol ym mhob ysgol drwy Gyfnodau Allweddol 2 a 3 er mwyn cofnodi a llywio’r dysgu. Yn y cyfamser, mae Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru wedi cytuno i gyflwyno’r un profion darllen yn wirfoddol o fis Medi 2011 ymlaen, ac rwy’n falch iawn o hynny.
- Erbyn blwyddyn academaidd 2012-13, drwy ein gwaith gyda Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru, byddwn wedi datblygu cynlluniau tebyg ar gyfer rhifedd.
- Ym mlwyddyn ysgol 2011/12 byddwn yn gweithio gyda phob ysgol i gymedroli’r safonau ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2 mewn Cymraeg a Saesneg. Bydd sylw penodol ar ddull cytûn a chyson o asesu darllen, ysgrifennu a llafaredd mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Y cam nesaf fydd cymedroli gwyddoniaeth a mathemateg ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2 yn 2012/13. Wedi gwneud hynny bydd y gwaith o gymedroli’r pynciau craidd wedi’i gwblhau. Caiff y gwaith hwn ei wneud mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a byddwn yn cefnogi’r awdurdodau, lle bynnag y bo modd, i adolygu a gwella asesiadau ysgolion er mwyn cael dulliau cadarn o asesu sy’n gyson ym mhob ysgol.
- Ym mis Chwefror, cyhoeddais y byddem yn integreiddio asesiadau PISA i asesiadau’r ysgol yn 15 oed. Rydym wedi cyflawni llawer ers mis Chwefror. Rydym wrthi’n gwneud trefniadau gydag awdurdodau lleol ac ysgolion uwchradd i helpu i gyflwyno profion llythrennedd, mathemateg a gwyddoniaeth yn yr ystafell ddosbarth. Mae Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru wedi nodi fod rhaglen Llywodraeth Cymru i hybu “sgiliau meddwl”, sy’n cael ei darparu ar y cyd ag awdurdodau lleol, yn hyrwyddo nifer o’r sgiliau rhesymu sy’n cael eu profi yn PISA. Felly, yn 2011-12 bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar ysgolion uwchradd ac yn targedu mathemateg, gwyddoniaeth a llythrennedd. Bydd ysgolion uwchradd yn medru cael gafael ar y profion PISA a’u defnyddio’n rheolaidd i fesur y cynnydd sy’n cael ei wneud yn y meysydd hyn.
- Rydym wedi newid y trefniadau ariannu ar gyfer ymsefydlu athrawon newydd gymhwyso fel bod eu datblygiad yn canolbwyntio ar y blaenoriaethau craidd, sef llythrennedd, rhifedd, rheoli ymddygiad ac anghenion dysgu ychwanegol.
- Ym mis Ebrill, aethom ati i ddechrau ymgynghori ar y safonau proffesiynol diwygiedig ar gyfer arweinwyr ysgolion ac athrawon.
- Cyhoeddais ar 2 Chwefror y byddem yn cyflwyno system genedlaethol ar gyfer categoreiddio ysgolion. Caiff y system hon ei gweithredu gan bob awdurdod lleol a chonsortiwm. Yr oeddwn yn medru cadarnhau bryd hynny fod Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru wedi cytuno y byddai pob consortiwm yn defnyddio’r model hwn. Ategwyd hynny ym maniffesto Llafur. Mae’r Uned Safonau Ysgolion eisoes, mewn partneriaeth â’r sector, wedi mynd ati i lunio drafft cyntaf system newydd o fandio ysgolion. Bydd y system genedlaethol newydd hon o fandio ysgolion yn ganolog wrth herio a chefnogi. Bydd yn defnyddio data i weithredu mewn modd cyson, i glustnodi cryfderau a gwendidau, canfod yr arfer gorau, gweithredu ymyrraeth a monitro mewn ‘amser real’ ochr yn ochr â’r cylch arolygu.
- Mae Fframwaith Arolygu Cyffredin Estyn yn cael ei roi ar waith. Mae gennyf fwy o fanylion erbyn hyn ar ôl cyfarfod â Phrif Arolygydd Estyn yn ddiweddar. Hefyd, roedd yr Adroddiad ar Strwythur Gwasanaethau Addysg yng Nghymru wedi dadlau dros dargedau llymach fyth, sef na ddylai Estyn orfod rhoi dyfarniad anfoddhaol i unrhyw ysgol erbyn 2012, ac na ddylai unrhyw ysgol gael dyfarniad anfoddhaol na boddhaol erbyn diwedd Medi 2015. Yn anffodus, mae tipyn o ffordd i fynd. Hyd at hanner tymor yr haf eleni roedd Estyn wedi arolygu 197 ysgol gynradd a 31 ysgol uwchradd, a gwelwyd bod angen camau pellach ar 97 ohonyn nhw – dros 40%. Mae hyn yn cynnwys tua’r un nifer o ysgolion cynradd ac uwchradd.
- Mae pwyntiau rhif 12, 13 ac 14 yn fy rhestr ar 2 Chwefror yn ymwneud yn uniongyrchol â chyrff llywodraethu ysgolion ac effaith Mesur Addysg (Cymru) 2011. Pasiwyd y Mesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 29 Mawrth ac mae bellach yn gyfraith. Bydd y newidiadau yn sgil y Mesur yn cryfhau’r modd y caiff addysg ei llywodraethu mewn ysgolion. Mae’n cryfhau atebolrwydd. Mae’r Mesur yn rhoi pwerau i ni ganiatáu i awdurdodau lleol ffedereiddio byrddau llywodraethu ysgolion. Dylai ffedereiddio hybu cydweithio a rhannu adnoddau, a sicrhau arweinyddiaeth unedig ar draws sawl ysgol, yn ogystal â llywodraethu cryfach. Ar hyn o bryd rydym yn ariannu rhai cynlluniau peilot mewn ffedereiddio yng Ngwynedd, Sir Gaerfyrddin, Rhondda Cynon Taf a Blaenau Gwent. Mae’r Mesur hefyd yn cyflwyno dull o reoleiddio hyfforddiant gorfodol i lywodraethwyr. Mae angen i lywodraethwyr fod â digon o wybodaeth i wneud eu gwaith ac i arfer eu cyfrifoldebau’n effeithiol. Dylai rhieni ddisgwyl hynny o leiaf. Dylai pob llywodraethwr newydd gael hyfforddiant pan fyddan nhw’n dechrau er mwyn cynefino â’r gwaith. Mae ganddyn nhw rôl bwysig i wella safonau yn eu hysgolion ac mae angen iddyn nhw ddeall y fframwaith deddfwriaethol, a hyd a lled eu rolau a’u cyfrifoldebau. Dylai pobl sy’n cadeirio cyrff llywodraethu gael hyfforddiant hefyd. Mae angen hyfforddiant arnyn nhw i fod yn effeithiol fel cyfaill beirniadol y pennaeth, ac er mwyn iddyn nhw fedru herio a chefnogi. Dylai llywodraethwyr hefyd gael hyfforddiant i ddeall a defnyddio data am berfformiad ysgolion. Dylent fod â hyder i ofyn cwestiynau treiddgar a heriol a defnyddio ffeithiau’n ddiduedd. Tua diwedd Mawrth, ysgrifennais at Gadeiryddion y Cyrff Llywodraethu yn sôn fy mod yn awyddus i godi safonau a gwella perfformiad yn y sector cyfan, yn enwedig ym maes llythrennedd a rhifedd. Soniais hefyd y byddai arolygwyr Estyn yn cael cyfarwyddyd yn gofyn iddyn nhw asesu pa mor dda yw gwybodaeth y llywodraethwyr am berfformiad ysgolion a pha mor dda y mae llywodraethwyr yn dwyn yr ysgol i gyfrif am y safonau a’r ansawdd y mae’n eu cyrraedd. Roedd maniffesto Llafur yn ategu’r pwynt a wnes yn fy araith ym mis Chwefror y bydd angen i bob ysgol gyflwyno proffil cyhoeddus blynyddol yn cynnwys gwybodaeth am berfformiad. Dylai fformat yr wybodaeth fod yn gyffredin i bob ysgol. Hefyd, bydd angen i lywodraethwyr gymeradwyo cynllun datblygu’r ysgol. Bydd y cynllun hwnnw’n dangos sut fydd yr ysgol yn mynd ati i wella safonau.
- Rydym yn lansio ymgynghoriad ar y trefniadau rheoli perfformiad newydd ar gyfer athrawon a phenaethiaid. Bydd y trefniadau newydd hyn yn dod â’r blaenoriaethau gwella ysgolion yn nes at athrawon a phenaethiaid unigol. Byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid i baratoi canllawiau fydd yn sicrhau trefniadau cydlynus i helpu i weithredu’r newidiadau hyn. Wedyn, bydd modd eu rhoi ar waith y flwyddyn academaidd nesaf.
- Dywedais ym mis Chwefror y byddai Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn cael ei gefnogi yn y dyfodol gan y Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion a’r Fframwaith Sgiliau. O fis Medi 2011 ymlaen, bydd yr arian ar gyfer Sefydlu a blwyddyn gyntaf y Datblygiad Proffesiynol Cynnar yn gysylltiedig â’r blaenoriaethau cenedlaethol, sef llythrennedd, rhifedd a lleihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad. Bydd hefyd yn gysylltiedig â’r blaenoriaethau datblygu a enwir yn yr adolygiad o’r gweithlu – anghenion dysgu ychwanegol, rheoli ymddygiad a myfyrio ynghylch addysgeg.
- Rydym hefyd yn mynd ati i greu cronfa o adnoddau a strategaethau addysgu o safon uchel. Caiff y gronfa ei datblygu yn y flwyddyn academaidd nesaf a bydd ysgolion yn cael gwybod am yr adnoddau sydd ynddi wrth iddynt ddod ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. O fis Medi 2012 ymlaen, disgwylir i athrawon newydd gymhwyso ac athrawon ar ddatblygiad proffesiynol cynnar ddefnyddio’r adnoddau hyn fel rhan o’u datblygiad proffesiynol.
- Rydym yn bwriadu gwneud y Fframwaith Sgiliau’n statudol drwy sefydlu Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol newydd ar gyfer disgyblion 5-14 oed. Byddwn yn mynd ati’n fuan i ymgynghori â’r proffesiwn am hyn ac wedi hynny byddwn yn gwahodd penaethiaid, partneriaid awdurdodau lleol a swyddogion yr Adran Addysg a Sgiliau i ffurfio grŵp llywio i weithredu’r Fframwaith.
- Byddwn yn paratoi Canllawiau Statudol ar gyfer Gwella Ysgolion. Bydd y canllawiau’n cyflwyno’r arferion gorau yng Nghymru a thu hwnt ar hyn o bryd. Mae yna arferion da yng Nghymru. Yn wir, mae arferion rhai ysgolion gyda’r gorau yn y byd. Yn ôl Estyn mae arferion 9% o ysgolion cynradd a 26% o ysgolion uwchradd ar y blaen.
- Rwy'n disgwyl i'r awdurdodau lleol weithio mewn consortia a hefyd rannu gwasanaethau consortia. Os na fyddant yn gwneud hynny byddant yn colli Cyllid Effeithiolrwydd Ysgolion. Yn unol â'r argymhelliad yn yr Adroddiad ar Strwythur Gwasanaethau Addysg, rwy'n cynnig adolygu cynnydd yr awdurdodau lleol o ran gweithio mewn consortia yn 2012. Os gwelaf nad oes digon wedi’i wneud i fwrw ymlaen â'r agenda ar gyfer gwella, byddaf yn ystyried chwilio am ffyrdd eraill o sicrhau bod dysgwyr yn derbyn gwasanaethau o safon dda.
- Mae ymddygiad a phresenoldeb yn faterion hanfodol ac rwyf wedi’i gwneud yn gwbl glir na fyddwn yn dangos unrhyw oddefgarwch tuag at driwantiaid. Ym mis Mawrth fe wnes i lansio Fframwaith Presenoldeb Cymru Gyfan ar gyfer y Gwasanaeth Lles Addysg. Nod y fframwaith yw galluogi ysgolion i ddarparu gwasanaethau sy’n gyson, o fewn cyrraedd ac o safon uchel. Rwyf wedi gofyn i’r Athro Ken Reid ddiweddaru’r adroddiad ar yr Adolygiad Cenedlaethol o Ymddygiad a Phresenoldeb ac fe wnes i gwrdd ag ef ddydd Llun i drafod ei gynigion newydd. Yr oeddwn yn falch o weld bod ei safbwyntiau ef yn dilyn yr un trywydd â’r cynlluniau y mae fy Adran eisoes yn eu datblygu fel rhan o’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Ymddygiad a Phresenoldeb. Yr oedd y cynllun yn pennu camau gweithredu o dan dri phennawd - datblygu a hyfforddiant, safonau ac atebolrwydd; a dull cyfannol o weithredu mewn perthynas â chymorth i unigolion ac anghenion dysgu ychwanegol. Bydd ar gael maes o law ar wefan Llywodraeth Cymru.
Byddaf yn sicrhau bod aelodau yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf.