Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Er gwaethaf yr heriau yr ydym wedi'u hwynebu fel cenedl yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rwy'n falch o'r ffordd y mae ein proffesiwn dysgu wedi gweithio'n ddiflino i sicrhau bod cyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru wedi bod yn llwyddiant.
Mae’n hanfodol, wrth i ni ymdrechu tuag at gyrraedd safonau a dyheadau uchel ar gyfer ein holl ddysgwyr, ein bod ni’n cadw ein ffocws ar wella llythrennedd a rhifedd. Cyn y pandemig, diolch i waith caled ein gweithlu addysgu, roedd Cymru wedi gwneud cynnydd o ran codi safonau llythrennedd a rhifedd. Ond mae Estyn wedi codi pryderon sylweddol am effaith y pandemig ar safonau ysgolion. Adlewyrchwyd hyn yn yr adroddiad a gyhoeddwyd gennym yr wythnos diwethaf ar batrymau lefel genedlaethol o ran cyrhaeddiad mewn darllen a rhifedd, sy'n seiliedig ar asesiadau personol a gymerwyd gan bob dysgwr ym Mlwyddyn 2 i Flwyddyn 9.
Felly, mae angen ffocws cenedlaethol parhaus a chydgysylltiedig arnom ar y sgiliau sylfaenol hyn i alluogi ein plant a'n pobl ifanc i gael mynediad at ehangder a chydbwysedd y cwricwlwm, a symud yn hyderus tuag at eu rhagolygon cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant hirdymor.
Os yw pob dysgwr, beth bynnag fo'i gefndir, am gael y sgiliau, yr wybodaeth a'r profiadau i gyrraedd ei botensial, rhaid i lythrennedd a rhifedd barhau i fod yn flaenoriaeth genedlaethol.
Rwy'n falch bod y £5 miliwn ychwanegol sydd eisoes wedi'i fuddsoddi mewn llyfrau a rhaglenni darllen o ansawdd uchel, gan roi llyfrau i bob dysgwr ac ysgol, wedi cael effaith gadarnhaol ar fwynhau darllen ledled Cymru. Rwyf hefyd yn ariannu prosiect peilot ar gyfer rhaglen fentora darllen lle mae mentoriaid yn gweithio gyda grwpiau o ddysgwyr wedi'u targedu i wella mwynhad mewn ddarllen a'r cymhelliant i wneud hynny.
Ym mis Mawrth eleni, cyhoeddais ein pecyn cymorth llafaredd a darllen, a ddatblygwyd ar y cyd ag ymarferwyr, sy'n darparu cymorth i ysgolion i ddatblygu ac ymgorffori eu dull ysgol gyfan eu hunain ar gyfer cyflawni safonau uchel mewn llafaredd a darllen. Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi diweddariad i'r pecyn cymorth hwnnw, sy'n atgyfnerthu fy ymrwymiad i addysgu ffoneg yn systematig a chyson fel y nodir yn y Cynllun Gweithredu Safonau a Dyheadau Uchel i Bawb . Byddwn yn parhau i gydweithio â phartneriaid i weld sut y gallwn gefnogi addysgu sgiliau llythrennedd ymhellach o fewn y Cwricwlwm i Gymru a chynyddu'r pecyn cymorth i helpu ysgolion a lleoliadau i gyrraedd safonau uchel.
Dangosodd ein hadroddiad ar batrymau lefel genedlaethol o asesiadau personol hefyd fod angen ffocws tebyg ar rifedd a mathemateg, felly, ochr yn ochr â'r pecyn cymorth llafaredd a darllen, rwy'n cyhoeddi cynllun Mathemateg a Rhifedd. Mae hyn yn nodi'r camau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r sector i sicrhau gwelliant ystyrlon mewn mathemateg a rhifedd. Byddwn yn cynnal trafodaethau â'r proffesiwn i ddeall gofynion y sector a byddwn yn cydweithio â phartneriaid gwella ysgolion ac arbenigwyr mathemateg a rhifedd i ddatblygu cynnig dysgu proffesiynol i ymarferwyr sy'n magu hyder, yn codi ymwybyddiaeth o strategaethau i fynd i'r afael â phryder ynghylch mathemateg ac sy'n cael effaith ar ddysgwyr yng Nghymru.
Mae'n bwysig ein bod yn ceisio gwella profiadau dysgwyr ac ymarferwyr o fathemateg a rhifedd, yn ogystal â'u gwybodaeth a'u sgiliau. Byddwn yn cefnogi ymarferwyr i ddatblygu eu hyder yn y maes hwn, gan eu galluogi i gynllunio ar gyfer dulliau effeithiol ac atyniadol o ymdrin â mathemateg a dysgu rhifedd.
Mae canllawiau’r Cwricwlwm i Gymru, sy'n cynnwys y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd diweddaraf, yn ddatganiad clir o'r hyn sy’n bwysig wrth ddarparu addysg eang a chytbwys. Mae angen cefnogaeth glir ar ein pobl ifanc yn y meysydd llythrennedd a rhifedd o ystyried effaith barhaus y pandemig, i'w galluogi i fanteisio'n llawn ar yr hyn y mae'r cwricwlwm yn ei gynnig.