Neidio i'r prif gynnwy

Alan Davies AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Rhagfyr 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Pwrpas y Datganiad Ysgrifenedig hwn yw nodi’r diweddaraf ynghylch yr hyn y mae Llywodraeth Cymru’n ei wneud i wella lles cŵn ac annog eu perchnogion yng Nghymru i fod yn berchnogion cyfrifol.

Mae nifer o ffrydiau yn perthyn i’r gwaith hwn gan gynnwys cyflwyno rheoliadau yng Nghymru ar gyfer trwyddedu safleoedd bridio cŵn a rhoi microsglodion ar gŵn – byddaf yn cyhoeddi datganiadau ar wahân am y rheini.

Ym mis Mai eleni, dywedais y byddwn yn gweithio gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU i sicrhau bod rhai o’n polisïau ar les cŵn a’u perchnogion yn cael eu hymgorffori yn y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddau a Phlismona (Bil y DU).  Yn y cyfamser, ymrwymais i atal unrhyw waith ar Fil Rheoli Cŵn (Cymru) wrth i ni drafod manylion Bil y DU gyda Llywodraeth y DU.  Ers hynny, rwyf wedi cyfarfod â Jeremy Brown, y Gweinidog Gwladol dros Atal Troseddau  a’r Arglwydd De Mauley, yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros yr Amgylchedd Naturiol a Gwyddoniaeth, nifer o weithiau i drafod sefyllfa Cymru o ran y ddeddfwriaeth.  Mae fy swyddogion hefyd yn parhau i gydweithio’n glos â’u cydweithwyr yn y Swyddfa Gartref ac yn Defra.

Roedd y penderfyniad i atal Bil Rheoli Cŵn (Cymru) yn un anodd, ond dadleuwyd yn gryf y byddai Bil y DU yn gallu cynnwys bron yr holl welliannau, os nad bob un, yr oeddem am eu gweld.  Rwyf am gadw’r hawl i atgyfodi Bil Rheoli Cŵn (Cymru) a/neu gyflwyno is-ddeddfwriaeth pe na bai Bil y DU yn rhoi i ni’r hyn sydd ei angen i roi ein polisïau lles cŵn ar waith. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, rydyn ni’n hapus â Bil y DU, hynny yn sgil y cydweithredu rhyngom ni a Llywodraeth y DU ar agweddau ym Mil y DU sy’n ymwneud â chŵn.

Cafodd gwaith polisi ei wneud yng Nghymru i sbarduno newid Deddf Cŵn Peryglus 1991 (sydd wedi’u cynnwys yn y Bil) i wneud ymosodiad ar gi cymorth yn drosedd.  Mewn achos diweddar, profwyd gwaetha’r modd bod dal angen cyfraith o’r fath.

Ymgynghorodd Defra yng Nghymru a Lloegr ar y drefn ddedfrydu sy’n gysylltiedig â’r Ddeddf Cŵn Peryglus ac mae’r Bil bellach wedi’i newid i adlewyrchu trefn dirwyo a dedfrydu llawer llymach.

Rwy’n cydnabod y pryderon ynghylch diffyg cyfeiriad at “hysbysiad rheoli cŵn” ym Mil y DU ond fe fydd y cysyniad o Hysbysiad Diogelu’r Gymuned yn cwmpasu cŵn peryglus a chŵn peryglus sydd allan o reolaeth.  Gall ymwneud hefyd â pherchnogion cŵn nad ydynt yn ymddwyn yn gyfrifol ond yr allwedd i’w lwyddiant yw sut y bydd gorfodwyr y ddeddf yn defnyddio’r cyfryngau fydd ar gael iddynt. I helpu’r broses honno, cytunwyd i baratoi arweiniad gwahanol ar gyfer ymarferwyr a gorfodwyr.  Mae drafft cynta’r arweiniad i’w weld ar y wefan ganlynol:

https://www.gov.uk/government/publications/tackling-irresponsible-dog-ownership-draft-practitioners-manual

Er mai Defra sy’n paratoi’r arweiniad, mae swyddogion Llywodraeth Cymru’n parhau i gyfrannu’n frwd at ei lunio ac yn gweithio’n glos ag awdurdodau lleol, yr heddlu a rhanddeiliaid allweddol yn ôl y gofyn.

Mae gwaith yn mynd rhagddo’n bwyllog â Bil y DU yn unol ag amserlenni’r Senedd ond mae Llywodraeth Cymru yn parhau i bwysleisio mai rôl a chyfrifoldebau’r perchennog sy’n allweddol o ran cynnal a gwella lles yr anifail.  Mae ymyrraeth gynnar a newid ymddygiad yn elfennau hanfodol felly.

Mater o ddewis personol yw perchen ar gi ond mae diwallu ei anghenion lles eisoes yn ofyn statudol.  Mae’r gwaith y mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ei wneud yn helpu i roi’r gofyn hwnnw ar waith yn y dyfodol.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau.  Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.