Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones, Prif Weinidog i Gymru 

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Gorffennaf 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae Aelodau’n ymwybodol fy mod wedi gofyn i’r Ysgrifennydd Parhaol i edrych ar yr amgylchiadau ynghylch yr awgrymiadau o wrthdaro rhwng rôl weinidogol y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd a’i ddiddordebau etholaethol.  Mae’r adroddiad hwnnw wedi ei gwblhau a bydd copi ar gael yn Llyfrgell yr Aelodau yn hwyrach heddiw.

Fe ofynnais am adroddiad yn nodi’r  ffeithiau perthnasol. Rwyf wedi ystyried y mater yn fanwl ac mae’n amlwg i mi fod y Côd Gweinidogol wedi ei dorri.  Mae rheoli’r gwrthdaro posibl  rhwng cyfrifoldebau gweinidogol a diddordebau etholaethol yn her barhaol i ni gyd yn y llywodraeth.  Mewn rhai achosion, nid yw’r holl faterion i’w hystyried yn amlwg ac mae’n rhaid bod yn ofalus wrth dynnu llinell yn yr achosion hyn.

Ar yr achlysur yma, nid ydw i’n credu fod y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd wedi bod yn ddigon gofalus wrth greu gwahaniaeth clir rhwng ei rôl weinidogol ac etholaethol.  Er hynny, nid y Gweinidog oedd yn gwneud y penderfyniad Gweinidogol yn y mater hwn ac nid ef  fyddai’n gwneud y penderfyniad o dan unrhyw amgylchiadau a allai fod wedi codi.  Yn ychwanegol, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud yn glir nad oeddent wedi newid eu barn na chael eu dylanwadu o ganlyniad i ymwneud y Gweinidog fel Aelod Cynulliad lleol.

Rwyf wedi trafod y mater gyda’r Gweinidog ac mae wedi ymddiheuro i mi.  Mi fydd yn gwneud datganiad yn bersonol i’r Siambr yn hwyrach heddiw ac ni fyddaf yn gweithredu ymhellach ar yr achlysur yma.