Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae awdurdodau lleol yn cynhyrchu amrywiaeth o ddeunydd cyhoeddusrwydd a hyrwyddo i’w defnyddio mewn amryw o gyfryngau cyfathrebu gan gynnwys radio, teledu, cyfryngau digidol a phrint. Mae hyn yn amrywio o wybodaeth ffeithiol am y gwasanaethau a ddarperir gan yr awdurdod, sydd â’r bwriad o hysbysu defnyddwyr gwasanaeth neu ddenu rhai newydd, i ddeunydd sy'n angenrheidiol ar gyfer gweinyddu'r awdurdod, megis hysbysebu i recriwtio staff. Mae awdurdodau lleol hefyd yn cynhyrchu deunydd cyhoeddusrwydd i esbonio polisïau ac arferion yr awdurdod. 

Cafodd y Cod ar yr Arferion a Argymhellir o ran Cyhoeddusrwydd Awdurdodau Lleol ('y Cod'), sef y canllawiau a gyhoeddir ar gyfer awdurdodau lleol, ei ddiweddaru ddiwethaf yn 2014.

Ar 19 Ionawr 2022 gosodais God Diwygiedig gerbron y Senedd yn unol ag Adran 4 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1986 a Rheolau Sefydlog 27.1 i 27.13, fel y'u haddaswyd gan Reol Sefydlog 27.14.

Mae'r Cod diwygiedig yn adlewyrchu sianeli cyfathrebu mwy modern a newidiadau diweddar i ddeddfwriaeth, megis y gofynion a nodir yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

Heddiw rwy’n cyhoeddi’r Cod diweddaraf. Hoffwn ddiolch i aelodau’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad am eu sylwadau defnyddiol, sydd wedi’u hadlewyrchu yn y fersiwn derfynol o’r Cod.

Cod Diwygiedig ar yr Arferion a Argymhellir o ran Cyhoeddusrwydd Awdurdodau Lleol