Rebecca Evans, AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Mae awdurdodau lleol yn cynhyrchu amrywiaeth o ddeunydd cyhoeddusrwydd a hyrwyddo drwy sawl math o gyfrwng cyfathrebu gan gynnwys radio, teledu, cyfryngau digidol a phrint. Mae hyn yn amrywio o wybodaeth ffeithiol am y gwasanaethau a ddarperir ar gyfer yr awdurdod, sydd â’r bwriad o hysbysu defnyddwyr gwasanaeth neu ddenu rhai newydd, i ddeunydd sy'n angenrheidiol ar gyfer gweinyddu'r awdurdod, megis hysbysebu i recriwtio staff. Bydd cyhoeddusrwydd hefyd i esbonio neu gyfiawnhau polisïau ac arferion yr awdurdod.
Cafodd y Cod ar yr Arferion a Argymhellir o ran Cyhoeddusrwydd Awdurdodau Lleol ('y Cod'), sef y canllawiau a gyhoeddir ar gyfer awdurdodau lleol, ei ddiweddaru ddiwethaf yn 2014.
Rwyf heddiw felly yn gosod Cod diwygiedig gerbron y Senedd yn unol ag Adran 4 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1986 a Rheolau Sefydlog 27.1 i 27.13, fel y'u haddaswyd gan Reol Sefydlog 27.14. Mae'r Cod diwygiedig yn adlewyrchu sianeli cyfathrebu mwy modern a newidiadau diweddar i ddeddfwriaeth, megis y gofynion a nodir yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.