Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mai 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwyf wedi derbyn copi o adroddiad Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cludo Nwyddau Cymru ac mae ar gael ar-lein.

Hoffwn ddiolch i Gadeirydd y Grŵp, Brian Curtis, a’r holl aelodau am eu cyfraniad.

Fel imi sôn yn fy natganiad dyddiedig 18 Gorffennaf 2013 pan gyhoeddais fy mod am sefydlu’r Grŵp, mae rhwydweithiau cludo nwyddau cynaliadwy yn ffactor bwysig mewn unrhyw economi fodern ac mae’n bwysig eu hintegreiddio’n llawn wrth ddatblygu fframwaith cynllunio trafnidiaeth ar gyfer Cymru yn y dyfodol.

Cylch gwaith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen oedd rhoi cyngor i mi ar broblemau strategol oedd yn effeithio ar drafnidiaeth cludo nwyddau yn sgil fy mlaenoriaethau economaidd ehangach.  Yn ogystal, ei waith oedd canolbwyntio ar y prif gamau ymyrryd y byddai’n rhaid eu cymryd i ddatblygu Ardaloedd Menter a chanolfannau busnes a masnach yn ehangach.

Rwy’n croesawu’r adroddiad sy’n gynhwysol, strategol a chynhwysfawr.

Rwy’n nodi’r cyswllt cyd-destunol pwysig y mae’r adroddiad yn ei wneud â’r Rhwydwaith Trafnidiaeth Traws-Ewropeaidd (TEN-T) yng Nghymru.  Mae’n gyson â’m hagwedd at TEN-T a’m hymrwymiad i wneud y gorau o bob cyfle y mae trefniadau TEN-T newydd yn ei gynnig i ariannu a buddsoddi er lles Cymru.

Mae’r adroddiad yn gwneud 24 argymhelliad i gyd, yn ymdrin â rheilffyrdd, ffyrdd a phorthladdoedd a chynllunio defnydd tir.

Rwy’n derbyn yr argymhellion sy’n perthyn i’m portffolio i ac rwyf wedi gofyn i’m swyddogion baratoi cynllun ar gyfer eu gweithredu.

Mae argymhellion K ac L yn ymwneud â’r pontydd Hafren. Rwy’n derbyn egwyddor yr argymhellion hyn, a bydd angen ystyried ymhellach efallai, yn dibynnu ar a fyddwn yn berchen ar y pontydd hyn.

Rwy’n derbyn Argymhelliad X hefyd, sy’n ymwneud â chefnogi ailgyflwyno cludo containers ‘load on – load off’ trwy borthladd Caergybi pe ceid cyfleoedd yn y dyfodol.  Bydd yn rhaid i mi ystyried union natur y gefnogaeth honno pan ddaw’r cyfleoedd hynny.  

Mae dau o’r argymhellion yn ymwneud â chynllunio defnydd tir ac rwyf wedi ysgrifennu at y Gweinidog Tai ac Adfywio i ofyn iddo eu hystyried.

Cewch adroddiad gennyf flwyddyn nesaf ar hynt pethau.