Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Fel y nodais yn fy natganiad ar 10 Gorffennaf, rwyf o'r farn bod trafnidiaeth yn allweddol er mwyn cyflawni llawer o flaenoriaethau’r Llywodraeth ac er mwyn cefnogi'r gwaith o wireddu'r amcanion yn y Rhaglen Lywodraethu.
Rwy’n cydnabod bod yn rhaid i ni ganolbwyntio ar sut y gall trafnidiaeth ddiwallu anghenion busnesau, pobl a chymunedau, gan gynnwys symud nwyddau a deunyddiau mewn ffordd effeithlon.
Mae rhwydweithiau cynaliadwy ar gyfer cludo nwyddau yn ffactor hollbwysig ym mhob economi fodern lwyddiannus ac mae'n bwysig ein bod yn eu hintegreiddio'n llawn wrth i ni fynd ati i ddatblygu'r fframwaith cynllunio trafnidiaeth i Gymru yn y dyfodol.
O'r herwydd, rwyf yn cynnull Grŵp Gorchwyl a Gorffen newydd i roi cyngor i mi ar gludo nwyddau. Bydd y grŵp newydd yn cynnwys arbenigwyr ar gludo nwyddau a chynrychiolwyr diwydiannau allweddol yng Nghymru. Ei ddiben a'i gylch gwaith fydd rhoi cyngor i mi ar faterion strategol sy'n effeithio ar gludo nwyddau, gan wneud hynny yng ngoleuni'r blaenoriaethau datblygu economaidd ehangach sydd gennyf. Bydd y grŵp yn canolbwyntio ar yr ymyriadau allweddol fydd eu hangen er mwyn cynorthwyo i ddatblygu Ardaloedd Menter yn ogystal â chanolfannau masnach a busnes yn fwy cyffredinol.
Rwyf yn disgwyl i'r grŵp gyflwyno'i argymhellion cychwynnol i mi yn ystod yr hydref ac y byddaf mewn sefyllfa i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi erbyn diwedd y flwyddyn.
Hoffwn ddiolch i hen Grŵp Cludo Nwyddau Cymru am y cyngor a gafwyd hyd yma ac a fydd yn gyd-destun buddiol i waith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen newydd.