John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
Mae coed ynn yn gyffredin trwy Brydain. Yn wir, dim ond dwy goeden sy’n fwy cyffredin na hi. Ceir tua 15,000 o hectarau o dir o dan goed ynn yng Nghymru, sef tua 5% o’r holl dir sydd gennym o dan goed Mae’n goeden adnabyddus yn ein gerddi, ein parciau ac yn ein perthi ar hyd a lled y wlad. Mae’n bwysig fel coed tân ac fel pren ac o safbwynt bywyd gwyllt, bioamrywiaeth a’r dirwedd.
Ers dechrau’r 1990au, mae’r clefyd Chalara fraxinea wedi taro’r rhan fwyaf o wledydd yng ngogledd Ewrop gan ladd coed ynn ifanc a pheri i goed aeddfed wywo. Mae’r clefyd yn awr wedi cyrraedd Ynys Prydain ac yn fygythiad mawr i’r rhywogaeth bwysig hon.
Mewn meithrinfa yn ne Lloegr ym mis Chwefror 2012 y gwelwyd yr achos cyntaf o’r clefyd ym Mhrydain. Ers hynny, mae wedi’i ddarganfod mewn coed ifanc mewn sawl meithrinfa ac erbyn hyn, fe’i cafwyd mewn mwy na 100 o feithrinfeydd a choedlannau, yn bennaf yn nwyrain Lloegr. Credir i’r clefyd gyrraedd Prydain trwy blanhigion wedi’u mewnforio a chan sborau a chwythwyd gan y gwynt dros y môr i ddwyrain Lloegr o Ewrop.
Mae Llywodraeth Cymru yn gweld y bygythiad yn un difrifol ac mae swyddogion yn gweithio’n glos â’n partneriaid yn y Comisiwn Coedwigaeth (FC), Defra, Asiantaeth Ymchwil Bwyd a’r Amgylchedd (FERA) a’r gweinyddiaethau datganoledig yn yr Alban a Gogledd Iwerddon i lunio ymateb ar lefel y Deyrnas Unedig iddo. Mae clefydau ar goed yn anwybyddu ffiniau. Mae angen inni felly fynd i’r afael yn gytûn â’r bygythiad hwn i ateb gofynion rhanddeiliaid a’r cyhoedd ac i wneud yn siŵr bod ein hymateb yn drefnus ac yn seiliedig ar y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf.
Pan glywyd tystiolaeth bod y clefyd wedi lledaenu i’r amgylchedd ehangach, comisiynodd y bartneriaeth arolwg trwy Brydain i asesu’r sefyllfa.
Yn ystod penwythnos yn dechrau 2 Tachwedd a’r dydd Llun canlynol, ymwelodd 344 o staff y Comisiwn Coedwigaeth â 970 o safleoedd i chwilio am arwyddion y clefyd. Ymwelwyd â 4 safle ym mhob sgwâr grid deg kilometr yng Nghymru. Yn sgil hynny, anfonwyd samplau o 10 safle at FERA ar gyfer eu dadansoddi. Dangosodd y profion hynny nad oedd y clefyd ar naw o’r samplau ond cafwyd canlyniad positif i un sampl.
Daeth y sampl honno o goedlan lydanddail breifat yn Sir Gaerfyrddin, â 25% o’i choed yn goed ynn. Plannwyd coed y safle yn 2009 felly maen nhw’n dal i fod yn eithaf bach. Gosodwyd hysbysiad ynysu ar y safle sy’n golygu na chaiff neb fynd ag unrhyw ddeunydd planhigiol o’r safle. Dyma’r trywydd cywir i’w ddilyn gan ei bod yn adeg o’r flwyddyn pan nad yw’r clefyd yn cynhyrchu sborau ac mae unrhyw ddail heintiedig wedi cwympo sy’n golygu nad oes perygl iddo ledaenu o’r safle.
Mae’n edrych yn debyg mai dau ddull sydd o ledaenu’r clefyd, sef trwy blanhigion heintiedig a thrwy ei gario gan y gwynt. O ganlyniad, rydym yn canolbwyntio ar gael hyd i safleoedd lle mae coed ynn sydd wedi’u mewnforio wedi’u plannu er mwyn cael hyd i unrhyw safleoedd heintiedig. Gan nad yw’n debygol mai trwy’r gwynt y cyrhaeddodd y sborau y safle heintiedig yn Sir Gâr, rydym yn canolbwyntio felly ar ddarganfod tarddiad coed y safle hwnnw. Y gobaith yw cwblhau’r agwedd hon ar y gwaith o fewn yr wythnos nesaf.
Yn ogystal â’r gwaith ymarferol a brys hwn, aeth swyddogion Llywodraeth Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru i gynhadledd fawr ar iechyd coed yn Llundain yr wythnos ddiwethaf i helpu i ddatblygu cynlluniau ar gyfer rheoli’r clefyd ym Mhrydain. Prif amcanion y cynllun hwn fydd:
- Arafu lledaeniad y clefyd;
- Datblygu ymwrthedd i’r clefyd yng nghoed ynn brodorol Prydain;
- Annog pobl, perchnogion tir a diwydiant i ymuno â’r ymdrechion i drechu’r broblem a magu nerth y diwydiannau ym Mhrydain sy’n trin pren.
Cyhoeddir mwy o wybodaeth am hyn yn yr wythnosau i ddod ond at ddiben y tymor byr, mae deddfwriaeth wedi’i phasio i wahardd mewnforio planhigion ynn i’w trawsblannu gan eu bod yn cael eu hystyried fel tarddiad pwysig ar gyfer lledaenu’r haint. Tan yn ddiweddar, ni fu pryder ynghylch y plâu a’r clefydau y gallai coed ynn fod yn eu cario . Ni fu unrhyw gyfyngiadau ar brynu a gwerthu coed ynn rhwng gwledydd yr UE.
Gwyddys mai’r sborau byr eu hoes sy’n cael eu cynhyrchu ar ddail coed ynn yw un o brif ffynonellau’r haint felly mae’r mesurau rheoli cychwynnol yn canolbwyntio ar osod cyfyngiadau ar symud planhigion coed ynn tan inni benderfynu beth i’w wneud yn y tymor hir. Rhag i ddail ar y llawr ledaenu’r haint, cynghorir pobl i lanhau eu hesgidiau’n drylwyr ar ôl cerdded rhag iddynt gario dail heintiedig i safleoedd newydd.
Er bod gwaith ymchwil yn dangos bod Chalara yn gallu cael ei gario hefyd yng ngwynnin a rhuddin y pren (y sapwood a’r heartwood), nid yw wedi’i brofi eu bod yn gallu achosi heintiadau newydd. Nid ydym felly ar hyn o bryd yn argymell cynllun eang i dorri coed aeddfed na chyfyngu ar symud pren ynn.
Gan mai yn yr haf y mae’r clefyd yn lledaenu fwyaf, yn enwedig ym misoedd Gorffennaf ac Awst, mae cyfle yn awr i fynd ar ofyn y cyngor gwyddonol gorau ar beth i’w wneud nesaf, gan gynnwys sut orau i ddelio â safleoedd heintiedig. Fodd bynnag, gan ein bod ni yma yng Nghymru wedi cael ein hachos cyntaf o’r clefyd, gallwn ddisgwyl gweld mwy.
Nid oes angen gofyn i bobl beidio â mynd i ganol coed ond rydym am ofyn iddynt fod yn gyfrifol a gofalu nad ydynt yn cario dail coed ynn yn anfwriadol o un goedlan i’r llall. Rydym yn gofyn hefyd i reolwyr coedlannau a’r cyhoedd fod yn wyliadwrus ac i roi gwybod inni os gwelant arwydd o’r clefyd. Nid yw chalara yn bygwth iechyd pobl nac anifail.
Rydym yn credu ein bod wedi ymateb yn briodol i’r clefyd hyd yma ond rhaid cofio y gallai’r sefyllfa newid yn gyflym. Byddaf felly yn cadw golwg ar bethau er mwyn gallu ymateb yn gyflym i wybodaeth newydd a allai ei gwneud yn ofynnol inni ddilyn trywydd gwahanol.
Cewch ragor o wybodaeth gan gynnwys taflen ffeithiau sy’n dangos symptomau’r clefyd Chalara ar goed ynn ar wefan y Comisiwn Coedwigaeth yn www.forestry.gov.uk/ashdieback.