Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae colli plentyn yn dorcalonnus.

Mae darparu cymorth ymarferol i gefnogi teuluoedd sy’n ymdopi â’r profiad annioddefol o golli plentyn yn flaenoriaeth i Weinidogion Cymru.

Ynghyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Un Llais Cymru, yn 2017 gwnaethom gytuno i roi diwedd ar godi ffioedd ar gyfer claddu ac amlosgi plant dan 18 oed. Y llynedd, gwnaethom gwblhau adolygiad o’r cytundeb, a oedd yn ystyried sut y mae wedi gweithio’n ymarferol, ac a ddylid ehangu’r cwmpas.

Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr adolygiad, gan gynnwys elusennau sy’n gweithio gyda theuluoedd sy’n galaru ac yn eu cefnogi.

Mae’n amlwg bod y cytundeb presennol wedi bod yn gam cadarnhaol wrth sicrhau gwell cysondeb mewn perthynas â’r ffioedd ar gyfer claddu ac amlosgi plant ledled Cymru, fel na fydd unrhyw deulu dan anfantais oherwydd ble y mae’n byw. Mae hefyd wedi gwneud llawer i leihau’r baich ariannol ar deuluoedd sydd wedi colli plentyn, ond i nifer o deuluoedd, mae’r straen a’r pryder am dalu costau eraill sy’n gysylltiedig ag angladd yn parhau i fod yn broblem.

O ganlyniad i’n hadolygiad, byddaf yn darparu cymorth ariannol ychwanegol i helpu tuag at gostau eraill sy’n gysylltiedig ag angladd, yn ogystal â pharhau i hepgor ffioedd ar gyfer claddu ac amlosgi plant.

Bydd cyfraniad o £500 ar gael i unrhyw deulu yng Nghymru sydd wedi colli plentyn. Dyma gynnig cyffredinol waeth beth fo incwm y teulu. Nid oes rhwymedigaeth i dderbyn y taliad pe na bai’r teulu ei eisiau.

Bydd y cymorth ariannol yn ategu’r cymorth sydd eisoes yn cael ei ddarparu i deuluoedd gan y sector angladdau, nid ei ddisodli neu ei ddyblygu.

Bydd llywodraeth leol yn darparu’r cymorth ychwanegol i deuluoedd, ac rydym wedi gweithio’n agos mewn partneriaeth i ddatblygu dull gweithredu sy’n syml ac yn dosturiol. Bydd y cymorth ar gael o fis Ebrill 2021 ymlaen, a darperir rhagor o wybodaeth i deuluoedd drwy’r Gwasanaethau Cofrestryddion.

Mae’r cymorth ariannol ychwanegol hwn yn rhan o becyn cymorth ehangach i deuluoedd sydd wedi colli plentyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Grŵp Llywio Profedigaeth Cenedlaethol i helpu i ddatblygu fframwaith profedigaeth cenedlaethol i Gymru. Bydd y fframwaith yn amlinellu egwyddorion craidd, safonau ac ystod o gamau gweithredu i gefnogi cynllunio rhanbarthol a lleol. Bydd y grŵp llywio yn gweithio gyda byrddau iechyd, awdurdodau lleol a darparwyr gwasanaethau profedigaeth i roi’r fframwaith ar waith; yn helpu i gyflwyno trefniadau profedigaeth gwell; a sicrhau bod trefniadau addas yn eu lle i helpu a chefnogi teuluoedd sydd wedi colli babi, plentyn neu berson ifanc.

Claddu ac amlosgi plant: gwybodaeth i awdurdodau lleol a theuluoedd